'Ymddangos bod swyddi Tata yn cael eu colli yng Nghymru'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Tata yn cyflogi tua 4,000 o bobl yng ngwaith dur Port Talbot

Mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates yn dweud ei bod yn ymddangos bod 1,000 o swyddi dur Tata yn y fantol yng Nghymru.

Ddydd Mercher cyhoeddodd y cwmni y bydd 1,000 o swyddi'n diflannu yn y DU fel rhan o ailstrwythuro'r busnes.

Mae Tata yn cyflogi dros 8,000 o bobl yn y DU, gyda thua hanner y rheiny yng ngwaith dur Port Talbot.

Wrth siarad yng ngogledd Cymru ddydd Iau, dywedodd Mr Skates ei bod yn "ymddangos" y gallai'r swyddi sy'n diflannu fod yng Nghymru.

'Penderfyniad fis Chwefror'

Ychwanegodd bod y cwmni wedi dweud ei fod "fwy na thebyg am gymryd nes mis Chwefror i benderfynu pa swyddi fydd yn cael eu colli".

Dywedodd y byddai'n annog y cwmni i gadw at gytundeb sy'n dweud na fyddai unrhyw ddiswyddiadau gorfodol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae ffatri Port Talbot yn cyflogi bron hanner gweithlu Tata yn y DU

Dywedodd y cwmni ddydd Mercher bod angen y cynlluniau er mwyn "diogelu dyfodol hirdymor" y busnes, ac y byddai dwy ran o dair o'r swyddi sy'n diflannu yn rai rheolwyr ac mewn swyddfeydd.

Yn ogystal 芒 Phort Talbot mae gan Tata safleoedd yn Llanwern, Trostre, Casnewydd, Caerffili a Shotton.

Yn 么l ysgrifennydd cyffredinol undeb Community mae'r cwmni wedi bod yn "ddi-glem" ers iddyn nhw benderfynu peidio gwerthu ei safleoedd yn y DU yn 2016.

Dywedodd Roy Rickhuss ar Radio Wales fore Iau bod y ffordd mae Tata wedi delio 芒'r cyhoeddiad yn "ofnadwy" a'i fod yn "un broblem ar 么l y llall" gyda'r cwmni.

"Fe wnaeth Tata gyflwyno'r cynigion hyn ddoe ac fe gafon nhw wybod gan undebau ledled Ewrop eu bod yn annerbyniol," meddai.

"Rydyn ni eisiau gwybod am fuddsoddiad a beth sydd i ddod yn y dyfodol, ond y cyfan maen nhw wedi'i wneud ydy meddwl am y cynnig gwarthus yma i dorri swyddi."

Fe wnaeth cyn-weithiwr dur yn safle Tata ym Mhort Talbot, Tony Taylor, feirniadu'r cwmni am y ffordd maen nhw wedi delio 芒'r sefyllfa, gan ddweud ei bod yn annheg ar y gweithlu dros y Nadolig.

Mewn datganiad pellach ddydd Iau dywedodd Tata eu bod yn gweithio gyda phartneriaid a rhyngddeiliaid i ddatblygu'r argymhellion dan ystyriaeth.

Mae'r cwmni hefyd yn pwysleisio y bydden nhw yn cydymffurfio gyda'u holl ymrwymiadau Ewropeaidd a chenedlaethol.