Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
拢340m yn fwy i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru
Bydd pob adran yn Llywodraeth Cymru'n gweld cynnydd i'w cyllidebau o fis Ebrill nesaf.
Dyma'r tro cyntaf mewn degawd i hynny ddigwydd, a daw yn sgil 拢600m ychwanegol i Gymru drwy drefn cyllido fformiwla Barnett.
Er hynny, dywedodd y gweinidog cyllid, Rebecca Evans, bod cyllidebau'n parhau'n is na lefelau 2010.
Fel rhan o'r cynlluniau bydd gwariant ar iechyd yn cynyddu, a bydd mwy o arian i gynghorau sir.
Argyfwng hinsawdd
Mae gweinidogion yng Nghaerdydd wedi datgelu sut maen nhw'n bwriadu gwario 拢20bn o ddydd i ddydd am y flwyddyn ariannol nesaf.
Bydd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cael tua 拢340m yn ychwanegol, a bydd arian sydd ar gael i'w wario o fewn llywodraeth leol yn codi 拢127m i 拢4.4bn.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n gwario 4% yn ychwanegol ar iechyd - 2.68% yn nhermau real.
Mae'r gyllideb hefyd yn cynnwys pecyn 拢140m ar gyfer trafnidiaeth carbon isel a choedwig genedlaethol i Gymru.
Mae'r gyllideb ar gyfer yr iaith Gymraeg yn aros ar yr un lefel - 拢20.9m.
Dywedodd Cymdeithas yr Iaith fod hynny'n cyfateb i doriad mewn termau real.
"Does dim modd cyfiawnhau'r toriadau hyn," meddai Tamsin Davies o'r gymdeithas.
"Mae gan y llywodraeth fwy na biliwn o bunnau ychwanegol ar gyfer y flwyddyn nesaf, felly fan leiaf byddai disgwyl i'r llywodraeth gynyddu cyllidebau'r Gymraeg yn unol 芒 chwyddiant."
Mae'r llywodraeth wedi cael cais am sylw i'r sylwadau yma.
Bydd gwariant ar dai a llywodraeth leol, sy'n cynnwys cynghorau ac ysgolion, yn cynyddu 3.28% i 拢3.9bn - 1.33% mewn termau real pan mae codiadau mewn prisiau'n cael eu hystyried.
Bydd yr arian ar gyfer addysg - sy'n cynnwys addysg uwch ac addysg bellach ond nid ysgolion - yn codi 3.7% i 拢1.56bn, cynnydd mewn termau real o 1.83%.
Mae arian ar gyfer yr amgylchedd, ynni a materion gwledig yn codi ychydig o 2.5% i 拢216m.
Bydd 拢29m yn cael ei roi tuag at fysiau a cherbydau sbwriel trydan.
Bydd y cynnydd i gynghorau unigol rhwng 3% yn Sir Fynwy a 5.4% yng Nghasnewydd.
Gall gynghorau ychwanegu at eu cyllidebau gyda refeniw o dreth y cyngor a gwasanaethau eraill.
'Gwyrddach, mwy llewyrchus'
Hon ydy cyllideb gyntaf Llywodraeth Cymru ers i'r datganiad ar argyfwng yr hinsawdd gael ei gyhoeddi yng Nghymru.
Dywed Llywodraeth Cymru y "bydd yn helpu i greu Cymru wyrddach, mwy cyfartal a mwy llewyrchus".
Yn gynharach eleni fe wnaeth Canghellor Llywodraeth y DU, Sajid Javid, addo 拢600m ychwanegol i gyllideb Llywodraeth Cymru yn ei Adolygiad Gwariant.
Pan mae'r canghellor yn rhoi arian ychwanegol i Loegr, mae Cymru hefyd yn elwa drwy fformiwla Barnett.
Ond mewn termau real mae'r cyllid ar gyfer Llywodraeth Cymru yn is na'r hyn oedd yn 2010.