Blwyddyn Newydd Iach 2020

Disgrifiad o'r fideo, Blwyddyn Newydd Iach 2020

Ydych chi wedi cadw at eich addunedau blwyddyn newydd hyd yma? I lawer ohonom fe fydd cadw'n heini yn uchelgais ar gyfer y flwyddyn newydd.

Felly wrth i ni ffarwelio 芒 chyfnod y Nadolig, dyma ysbrydoliaeth a chyngor gan yr hyfforddwraig ffitrwydd Rhodd ar gyfer 2020 iach a heini.

Yn y fideo, mae Rhodd yn argymell:

1. Ceisio cerdded mwy pob dydd. Dyma ffordd syml a chyflym i wneud ymarfer corff gwerthfawr. Mae angen 150 munud o ymarfer corff bob wythnos felly anelwch am 20 munud o gerdded bob dydd.

2. Ceisiwch fwyta digon o brotein pob dydd. Mae'n helpu adfer eich cyhyrau, yn cadw chi'n llawn ac yn rhoi egni i chi.

3. Ceisiwch yfed digon o dd诺r pob dydd. Mae angen chwech i wyth glased bob dydd - ac ychydig mwy os ydych chi'n gwneud ymarfer corff.

4. Os am gychwyn rhedeg yn y gym neu tu allan, mae dewis eich hoff g芒n yn gallu hwyluso'r profiad!

5. Mae ymarferion syml fel y planc yn ffordd wych o ymestyn y corff. Gwyliwch y fideo i weld Rhodd yn rhoi cynnig arni.

Pob lwc!

Hefyd o ddiddordeb: