Gareth Wyn Jones yn cwestiynu ymgyrch figan ym mis Ionawr

Disgrifiad o'r llun, Mae Gareth Wyn Jones wedi lleisio'i farn sawl tro ar figaniaeth

Mae un o ffermwyr amlycaf Cymru wedi beirniadu amseru ymgyrch sy'n annog pobl i roi'r gorau i fwyta cig a chynnyrch llaeth.

Yn 么l Gareth Wyn Jones, mae ymgyrch 'Veganuary' ym mis Ionawr yn annog pobl i brynu llysiau a ffrwythau wedi eu mewnforio yn hytrach na chynnyrch o Gymru oherwydd prinder y llysiau yma yr adeg yma o'r flwyddyn.

"Dwi'n methu dallt y peth," meddai Mr Jones, sy'n ffermio yn y Carneddau, ac sydd wedi ymddangos ar sawl gyfres deledu.

"Os ydyn nhw isho'i 'neud o, 'neud o ym mis Gorffennaf neu Awst pan mae 'na ddigon o bethau i'w bwyta.

"Ond adeg yma o'r flwyddyn, mae popeth yn cael ei fewnforio. Os ydyn nhw isho helpu efo newid hinsawdd, mae'n amser iddyn nhw sb茂o ar eu hunain.

"I fi, y peth pwysig ydy bwyta'n lleol, bwyta'n dymhorol, a does dim byd o gwbl o'i le efo bwyta cig wedi ei gynhyrchu'n lleol."

Ffynhonnell y llun, Ceri Lloyd

Disgrifiad o'r llun, Dywed Ceri Lloyd bod "sawl rheswm da" dros fynd ar ddiet figan ym mis Ionawr

Ond mae Ceri Lloyd - sydd newydd gyhoeddi llyfr o ryseitiau figan, O'r Pridd i'r Plat - yn dweud bod modd dilyn diet o'r fath drwy siopa'n lleol am gynnyrch tymhorol.

Yn 么l Ms Lloyd, sy'n actio yn y gyfres deledu Rownd a Rownd, mae hi'n teimlo'n well yn feddyliol ac yn gorfforol ar 么l rhoi'r gorau i fwyta cig a chynnyrch llaeth chwe blynedd yn 么l.

"Dwi'n credu fod e'n syniad meddwl am eich iechyd ym mis Ionawr ta beth," meddai.

"Hefyd mae pobl yn ystyried troi'n figan am resymau amgylcheddol. Felly dwi'n meddwl fod yna sawl rheswm da dros drio Veganuary."