拢16m i adnewyddu Hen Goleg Aberystwyth cyn pen-blwydd yn 150
- Cyhoeddwyd
Mae gobaith y bydd gwaith i ddatblygu Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth wedi ei gwblhau mewn pryd i ddathlu canrif a hanner ers agor ei ddrysau, wedi i 拢16m gael ei sicrhau tuag at y prosiect.
Mae'r cynlluniau i adnewyddu'r adeilad Gradd I ar y prom yn y dref wedi sicrhau bron i 拢10m o arian Cronfa Dreftadaeth y Loteri, ynghyd 芒 拢3m gan Lywodraeth Cymru a 拢3m o gronfa Ewropeaidd.
Bydd trawsnewid y safle'n ganolfan diwylliant, treftadaeth, darganfyddiadau, dysgu a menter yn "sicrhau ei ddyfodol yn y tymor hir", medd rheolwyr.
Mae datblygwyr yn dweud y gallai'r ganolfan ddenu 190,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, a chreu tua 50 o swyddi newydd.
Ar ben hynny, fe allai "tua 900 o bobl elwa o hyfforddiant mewn treftadaeth, twristiaeth a lletygarwch o ganlyniad i'r ailddatblygiad a bydd rhyw 250 o'r rheiny'n ennill cymwysterau ffurfiol".
Bydd adnoddau'r adeilad ar ei newydd wedd yn cynnwys:
Gofod arddangos ar gyfer arddangosfeydd, celf a cherddorion;
Canolfan i entrepreneuriaid a busnesau a stiwdios artistiaid newydd;
Caffi, bar ac ystafelloedd cymunedol;
Gwesty boutique;
Cyfleusterau ar gyfer digwyddiadau a gwyliau mawr.
Agorodd yr Hen Goleg ei ddrysau i fyfyrwyr yn 1872 ond roedd "fwy na heb yn ddiangen" wedi i'r brifysgol symud i gampws newydd yn y 1960au.
Cafodd y brifysgol 拢849,500 cychwynnol gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn 2017 er mwyn datblygu'r cynlluniau a chyflwyno cais manwl am bron 拢10m.
Daeth cadarnhad bod y grant llawn wedi ei ddyfarnu'n derfynol mewn digwyddiad yn yr Hen Goleg ddydd Mawrth.
Tua 拢27m yw cyfanswm amcan gost holl gynlluniau'r prosiect. Mae'r brifysgol yn chwilio am ffynonellau cyllid eraill ac mae ap锚l ariannol eisoes wedi codi 拢1.6m.
Y gobaith yw cwblhau'r adeilad erbyn dathliadau pen-blwydd y brifysgol yn 150 yn 2022/23.
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: "Bydd prosiect yr Hen Goleg yn adfer ac yn creu pwrpas newydd i un o adeiladau hanesyddol pwysicaf y genedl ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac yn creu canolfan bwysig ar gyfer diwylliant, dysgu a menter.
Ychwanegodd bod y cyhoeddiad ddydd Mawrth "yn gatalydd arwyddocaol" wrth baratoi at ddathliadau'r 150fed pen-blwydd, parhau i godi arian at gyfanswm terfynol y prosiect, a chreu cynlluniau ar y cyd ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru, G诺yl y Gelli a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2017