Pryder am fuddsodiad ffilm a theledu Llywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae record buddsoddi Llywodraeth Cymru mewn ffilm a theledu yn "destun pryder mawr", yn 么l y gwrthbleidiau.
Mae gweinidogion wedi buddsoddi dros 拢15m trwy'r cynllun a arferai gael ei redeg gan Pinewood. Dim ond un o'r 15 prosiect sydd wedi adennill yr arian yn llawn.
Nid yw pob prosiect wedi'i ryddhau hyd yn oed, gyda cholledion o tua 拢9m.
Dywed Llywodraeth Cymru nad gwneud elw oedd "prif amcan" y gronfa.
Dywedodd llefarydd fod arian yn dal i ddod i mewn o "fwyafrif" y prosiectau a'i fod wedi rhoi hwb o 拢25m i economi Cymru.
Roedd y gronfa yn rhan o brosiect a sefydlwyd gyda Pinewood yn 2012 i roi hwb i'r sector creadigol yng Nghymru.
Roedd y stiwdio yn rheoli'r gronfa ac fe agorwyd stiwdio ar wah芒n ar safle ger Caerdydd.
Gadawodd Pinewood reolaeth y cynllun buddsoddi yn 2017, ac mae'n tynnu allan o'r stiwdio ym mis Mawrth.
Mae ffigyrau a gyhoeddwyd trwy Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y cynulliad yn dangos, o'r buddsoddiadau a wnaed pan oedd Pinewood yn rheoli'r gronfa, mai dim ond un oedd wedi adennill yr arian a fuddsoddwyd erbyn mis Tachwedd diwethaf.
Dywedodd fod 拢15.1m wedi'i fuddsoddi trwy'r gyllideb, gan gynnwys 拢962,000 mewn grantiau.
Mae'n rhestru colled net i'r llywodraeth hyd yma o 拢9.6m, gyda 拢5.5m wedi'i adennill, er bod hynny ychydig dros 拢8.5m ar 么l tynnu grantiau.
Dywed Llywodraeth Cymru bellach fod 拢5.6m wedi'i adennill.
Rhai o'r ffilmiau sydd wedi derbyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru
'Take Down' (拢3.14m) - colled o 拢2m
'Their Finest' (拢2.05m) - elw o 拢50,000
'Show Dogs' (拢1.5m) - dim colled/elw
'Journey's End' (拢850,000) - colled o 拢219,000
Buddsoddwyd 拢9.9m mewn prosiectau dan reolaeth Pinewood, gyda cholled net i fis Tachwedd 2019 o tua 拢4.4m.
Wrth ofyn am berfformiad Show Dogs - a wnaeth $39m yn rhyngwladol, yn 么l IMDBpro - dywedodd Llywodraeth Cymru: "Nid yw ffigyrau'r swyddfa docynnau yn cyfateb i elw ffilm - gan nad yw'n ystyried y gyfran a gedwir gan y theatrau, asiantau gwerthu ac eraill.
"O ran Show Dogs, mae'r swm a gasglwyd eto i gyrraedd ffigwr lle mae Llywodraeth Cymru wedi gweld unrhyw ad-daliad."
Parhaodd Llywodraeth Cymru i wneud buddsoddiadau o dan y gronfa ar 么l i Pinewood adael ei rheolaeth, gan gynnwys rhoi 拢350,000 i'r gyfres deledu Cymraeg, Bang.
'Pryderon difrifol'
Dywedodd llefarydd ar ran diwylliant y Ceidwadwyr Cymreig, David Melding: "Dylai'r diwydiannau creadigol yng Nghymru fod yn gandryll bod eu cyllid yn cael ei wario mor ddiofal.
"Er bod yn rhaid derbyn rhai 'methiannau' mewn unrhyw ddull arloesol o fuddsoddi, mae'r lefel hon o fethiant yn peri pryder mawr."
Dywedodd Helen Mary Jones, llefarydd ar yr economi dros Blaid Cymru: "Mae hyn yn codi pryderon difrifol am allu Llafur - neu anallu, i gyflawni prosiectau buddsoddi hanfodol yng Nghymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Cyflwynwyd cyllideb buddsoddi'r cyfryngau i dyfu a chefnogi'r sector cynhyrchu yng Nghymru, nid elw ar y cynhyrchiad ei hun oedd prif amcan y gronfa.
"Mae derbynebau ar gyllideb buddsoddi'r cyfryngau yn parhau i gael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru a gyda rhai cynyrchiadau eto i'w rhyddhau, nid oes unrhyw elw wedi'i bennu eto.
"Disgwylir bod adennill cynyrchiadau yn broses a fydd yn parhau am nifer o flynyddoedd ar 么l y datganiad cychwynnol."
Gwrthododd Pinewood wneud sylw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2019