大象传媒

Oedd 'na ramant ar Bacha Hi O 'Ma?!

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Y cyflwynydd Alwyn Si么n yn ceisio cynnau cariad rhwng Wini a Dewi ar y gyfres gyntaf o Bacha Hi O 'Ma

Pwy sy'n cofio Bacha Hi O 'Ma, y gyfres ffeindio cariad o'r 90au lle roedd y dynion yn cael eu hongian ar fachau a'r merched yn cael eu rhoi mewn basgedi i droelli nes cael eu dewis?

Ers i S4C mae yna hen dagio ar y cyfryngau cymdeithasol wedi bod wrth i bobl geisio dod o hyd i wynebau cyfarwydd.

Ond oedd 'na ramant i'r cyplau unwaith roedd y camera wedi stopio ffilmio?

Dau wnaeth gyfarfod ar y gyfres gyntaf yn 1991 oedd Wini o Forfa Nefyn a Dewi o Dregaron. Bron i 30 mlynedd yn ddiweddarach, maen nhw yn dal mewn cysylltiad. Ond nid fel cariadon.

Er siom i gynhyrchwyr y rhaglen, doedd 'na ddim rhamant rhyngddyn nhw er iddyn nhw ennill eu rhaglen a mynd am ddau dd锚t, meddai Wini Jones Lewis.

'Dim hanky panky, jyst ffrindiau'

Roedd Wini yn ei thridegau ar y pryd. Oedd hi'n chwilio am gariad pan aeth hi ar y rhaglen?

"Argian nago'n si诺r! Oeddet ti'n gwbod mai lol oedd o," meddai Wini. "Roeddan nhw'n siomedig. Nes i ennill Dewi, wedyn wnaethon ni siarad a dyma fi'n dweud 'Dim hanky panky, jyst ffrindiau' - a chadw reiat er mwyn y camera."

Enillodd Dewi a hithau bryd o fwyd ym Mhortmeirion, a Dewi, am ei fod yn byw ymhell, yn cael aros yno.

"Dyma Dewi yn dweud 'Wini, maen nhw wedi rhoi double room i fi, ti'n gwybod be' maen nhw eisiau i ddigwydd yn dwyt?' Roeddan ni'n dau yn chwerthin am y peth."

Ffynhonnell y llun, S4c
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Enillodd Wini a Dewi bryd rhamantus ym Mhortmeirion

Yr ail dd锚t enillon nhw oedd penwythnos yn rasio drwy goedwig yng Ngharno.

"Gawson ni benwythnos wych!" meddai Wini.

"Roedd Dewi a fi yn chwerthin, mi roedd o'n amlwg bod y criw isho inni gonectio a syrthio mewn cariad a chael happy ever after.

"Fues i'n lwcus iawn efo pwy wnes i ennill. Nes i wneud ffrind chael gwobrau lyfli."

Yng Ngharno roedd 'na gyfle am swper rhamantus i ddau yn y gwesty.

Ond fe wnaethon nhw ymuno wedyn efo'r criw ffilmio yn y dafarn.

"Tasat ti'n gweld eu wynebau bach nhw pan ddaru ni gerdded i mewn - mor siomedig bod 'na ddim romantic tryst rhyngthan ni!"

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Wini wedi mynd yn 么l at ei chariad cyntaf erbyn hyn - sef arlunio

"Ond roeddan ni 'di joio - roedd o'n brofiad hwyliog a lyfli. Fuon ni'n lwcus bod ni 'di dewis ein gilydd a bod ni ddim yn disgwyl cariad."

Fe briododd Wini ymhen ychydig flynyddoedd a chael dau o blant ("trysor y byd i mi") ond ysgarodd yn 2012.

Wedi rhedeg cartref gofal gyda'i chyn-诺r am flynyddoedd mae hi bellach yn rhedeg busnes teuluol yn Morfa Nefyn ac wedi mynd yn 么l at ei chariad cyntaf, arlunio: mae'n paratoi at agor ei harddangosfa unigol gyntaf fel artist yn Oriel M么n.

Os yw hi byth yn mynd heibio i gartref Dewi a'i wraig, Caryl, yn Aberaeron, mae hi'n si诺r o alw ac fe drefnodd y ddau deulu i gwrdd am bryd o fwyd gyda'i gilydd tra roeddent yno ar wyliau unwaith.

'Crinj!'

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aeth Sioned a Caren ar y rhaglen efo'i gilydd 'am hwyl' a chanfod eu hunain yn cystadlu yn erbyn ei gilydd!

Dwy ffrind oedd ar un o raglenni cyntaf y gyfres yw Sioned Owen a Caren Brown, oedd yn fyfyrwyr yn y Coleg Normal ym Mangor ar y pryd.

"Roedden ni'n eitha sgint ar ddiwedd blwyddyn coleg a gafon ni'n recriwtio i fynd arno," meddai Sioned, sy'n byw yng Ngarndolbenmaen.

"Dyma ni'n deud 'Duwcs, gawn ni wneud ychydig o bres!'"

Aeth Caren a Sioned i rownd olaf eu rhaglen a chystadlu yn erbyn ei gilydd drwy redeg i fyny ac i lawr grisiau wedi eu clymu i'w partneriaid ac ateb cwestiynau.

"Oedd Caren yn chwys doman a wnaeth hi ateb fwy o gwestiynau a fi!" meddai Sioned. Ond hi a'i phartner Guto enillodd.

"Ti'n edrych n么l ar fformat y rhaglen a meddwl, yn enwedig i'r hogiau, oeddan nhw'n gorfod hongian... ac roedd 'na rai am wythnosau ar y bachyn am bod neb wedi eu dewis nhw! Fysach chdi ddim y cael getaway efo hynna r诺an!

"Fyswn i ddim yn croesawu'r fformat yn 么l!"

Enillodd Sioned dd锚t yng ngwesty'r Conrah ger Aberystwyth ond yn anffodus doedd dim rhamant iddi hithau chwaith.

"Dwi'n cofio Guto yn cyrraedd mewn car sporty coch! Ond gafon ni fwyd neis a 'nathon ni jyst mynd am sesh i Aberystwyth!

"Doedd 'na ddim sbarcs, roedden ni'n eitha gwahanol."

Dydi Sioned ddim wedi dweud wrth ei mab 20 oed am ei moment yn serenu ar Bacha Hi O 'Ma eto.

"Dwi ddim eisiau codi cywilydd arno fo! Mae o'r un oed 芒 fyswn i pan o'n i ar y rhaglen. Ti'n meddwl bod petha fel'na yn y gorffennol! 'Da ni yn edrych mor ifanc ac yn dod allan efo petha mor crinji!"

'Andros o sioc!'

Doedd Caren, sy'n gyfarwydd i gynulleidfa y rhaglen 'Run Sbit ar S4C, ddim yn disgwyl gweld y rhaglen o'i gorffennol eto chwaith.

Ffynhonnell y llun, S4c
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Ges i andros o sioc yn gweld fy hun," meddai Caren.

"Ges i andros o sioc yn gweld fy hun, o'n i'n meddwl bod rywbeth fel'na wedi hen fynd i'r bin flynyddoedd yn 么l! Nes i jyst gweld rhywbeth ar Facebook a rhywun yn fy nhagio.

"Mae'n si诺r fod 'na lot o fynd ar Facebook a pobl yn gwglo enwau - efallai fydd 'na rekindling of old romances!"

Nid dod o hyd i gariad oedd ei rheswm hi dros fynd ar y rhaglen chwaith, meddai.

"Dwi'n si诺r ein bod wedi ein denu i'w wneud o achos roedd o'n mynd i fod yn hwyl a hefyd roeddan ni'n cael noson am ddim yng ngwesty Eryl M么r efo bar agored, a doeddan ni ddim ond yn byw i fyny'r l么n yn neuaddau'r Coleg Normal!

"Ond roedd noson mewn gwesty neis yn bonus!"

Ffynhonnell y llun, Caren Brown
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddaeth Caren o hyd i gariad gyda'i g诺r ers 25 mlynedd, Dic!

Er gwaethaf peidio bachu d锚t ar Bacha Hi O 'Ma, mae Caren yn dathlu bod yn briod ers 25 mlynedd gyda'i g诺r, Dic Ben, yn 2020. Mae eu merch yn 22 mlwydd oed ac wedi gweld y rhaglen o 1991.

"Gafodd hi andros o sioc a wnaeth hi fynd, 'Mam, be' oedd y ffrog yna?!'. Mae fy ngwallt i'n hirach r诺an hefyd - dwi ddim yn edrych fel taswn i wedi cael shamp诺 a set r诺an!"

Roedd y Coleg Normal yn ffynhonnell ffrwythlon i'r cyfresi dilynol hefyd ac ymysg y rhai gafodd eu denu roedd y dramodydd Paul Griffiths, oedd yn fyfyriwr ifanc ar y pryd.

"Bob nos, fyddai'r ymchwilwyr yn dod adra i'r neuaddau preswyl, bron 芒 chrio methu cael bobl i gystadlu," cofia Paul heddiw.

Ffynhonnell y llun, Paul Griffiths
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Amod hollol bendant arall oedd na fyddwn i'n mynd ar y 'carousel' erchyll," meddai Paul

"Yn wirion bost, fe gytunais i fynd i stiwdio Barcud, fel stand by, rhag ofn na fyddai rhai yn troi fyny. Amod hollol bendant arall oedd na fyddwn i'n mynd ar y carousel erchyll, oedd fel rhyw fachau mewn marchnad, yn troi efo dewis o gyrff i ddewis ohono."

Ond unwaith iddo gyrraedd y stiwdio, roedd rhaid iddo fynd ar y rhaglen wrth gwrs ac er siom iddo, enillodd y rownd gyntaf a mynd i'r rownd derfynol ar y grisiau!

Ffynhonnell y llun, Paul Griffiths/Y Cymro
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Er ei atgofion o'r 'carousel erchyll' mae Paul wedi cadw darn o bapur newydd Y Cymro am y gyfres o'r 1990au

"Rhedeg i fyny a lawr rheiny wedyn, yn sownd i'r eneth, wrth drio ateb cwestiynau Alwyn Si么n, (duw comedi a cwisiau Cymru bryd hynny, y Cilla Black Cymraeg!). Wedi'r holl rialtwch, wnaethon ni ddim ennill, diolch byth!

"Roeddan ni i gyd yn gwylio'r gyfres, am ein bod ni'n adnabod gymaint arno!"

Tybed a wnaeth 'na unrhyw gwpl ar Bacha Hi O 'Ma ddod o hyd i gariad? Gadewch inni wybod os oeddech chi'n un o'r rhai lwcus! Ar , neu e-bost: cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol

Hefyd o ddiddordeb: