大象传媒

Cofio hanes hoyw Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mis Chwefror yw Mis Hanes LHDT (Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thraws).

Daryl Leeworthy yw awdur A Little Gay History of Wales, ac yma mae'n rhoi crynodeb i 大象传媒 Cymru Fyw o hanes hoyw Cymru, sydd, ar y cyfan, yn anodd i ddod o hyd iddo, meddai.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Bob blwyddyn, jest cyn G诺yl y Banc mis Awst, mae miloedd o bobl yn gorymdeithio drwy strydoedd Caerdydd i ddathlu g诺yl Pride. Dyma uchafbwynt yng nghalendr y ddinas, ac mae Pride yn rhoi'r cyfle i bobl LHDT, eu teuluoedd a'u ffrindiau i fod yn weledol ac i gael hwyl.

A chyda mwy o bobl yn dod mas, a mwy o lyfrau am y gorffennol LDHT nag erioed o'r blaen, mae hi'n hawdd dychmygu mai dyma'r Oes Euraidd - neu ddylai hynny fod yr Oes Enfysaidd? - wedi'r cwbl, nid oedd hyn bob amser yn wir.

'Problem' Seisnig

Pan cafodd yr orymdaith Pride gyntaf ei chynnal yng Nghaerdydd, n么l yn 1985, roedd nifer y gorymdeithwyr yn eu cannoedd, ac roedd ysbryd protest i'r achlysur.

'Ry'n ni'n mhobman' oedd y waedd wrth iddyn nhw gerdded i lawr Heol y Frenhines, yn herio'r rhagdybiaeth boblogaidd fod yna ddim pobl LHDT yng Nghymru.

Mae'n si诺r fod nifer o'r rheiny oedd yn gorymdeithio yn cofio, dim ond rhyw ddegawd ynghynt, Heddlu Gogledd Cymru yn datgan wrth ymgyrchwyr LHDT ym Mangor mai 'problem' Saesnig oedd pobl hoyw - un nad oedd angen i Gymry ddelio ag ef.

Ffynhonnell y llun, Daryl Leeworthy
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daryl Leeworthy yw awdur A Little Gay History of Wales

Ond pwy oedd y person LHDT cyntaf o Gymru? A phryd a lle oedden nhw'n byw? Cwestiynau anodd i'w hateb, os nad amhosib.

Mae yna wastad bobl LHDT (fel y byddwn ni'n adnabod y term) wedi byw yng Nghymru, ond mae sut mae rhywioldeb yn cael ei amgyffred wedi newid yn aruthrol dros y canrifoedd.

Anodd i'w brofi

Y prif gyfraith yn erbyn gweithredoedd hoyw yn ystod yr oesoedd canol oedd y Ddeddf Sodomiaeth (Buggery Act) a gafodd ei basio gan Harri VIII yn Lloegr yn 1533, ac a ddaeth felly yn rhan o gyfraith Cymru o dan y Deddfau Uno. Ond roedd hynny am y weithred gorfforol yn unig, a gallai hynny fod rhwng dyn a dynes, nid dim ond dau ddyn.

A gan fod rhannu gwely yn rhywbeth mor gyffredin beth bynnag, roedd yn beth anodd i'w brofi. Roedd cael "bedfellow" o'r un rhyw bryd hynny yn hanfodol ar gyfer y tlotaf, ac i'r cyfoethog yn arwydd o bwy oedd yn cael ei ffafrio ar y pryd, neu ddylanwad pwy oedd yn cael ei geisio. Nid oedd y naill na'r llall yn awgrymu beth fyddai'n cael ei dybio heddiw.

Rheolau cwrteisi oedd yn penderfynu os oedd cusan yn arwydd o barch neu gyfeillgarwch, neu'n awgrymu dyhead mwy cariadus. Prin yw cyfeiriadau tuag at bobl yn cael eu cosbi am hyn.

Ffynhonnell y llun, Mirrorpix
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr orymdaith Pride gyntaf yng Nghaerdydd yn 1985

Diffyg geirfa?

Roedd ein cyndeidiau canoloesol yn llawer llai prudeish nag ydyn ni'n dueddol o feddwl, a llawer llai na chymunedau'r capeli a ddaeth yn hwyrach. Byddai beirdd canoloesol, fel Dafydd ap Gwilym a Gwerful Mechain, yn defnyddio awgrymiadau er mwyn ysgrifennu'n fanwl am ddyheadau rhywiol, gan gynnwys dyheadau tuag at yr un rhyw.

Chwarae gyda geiriau oedden nhw er mwyn bod yn amlwg ond yn glyfar, oherwydd eu bod yn gallu gwneud hynny - ond hefyd oherwydd fod rhaid iddyn nhw. Ni chafodd y rhan fwyaf o'r geiriau Cymraeg yngl欧n 芒 sodomiaeth eu bathu tan o leia'r 16eg ganrif.

Os chwilotwch yn yr archifau am arwyddion o ddatganiadau ehangach am ddyheadau tuag at yr un rhyw, fodd bynnag, fe gewch chi'ch siomi, yn enwedig cyn yr 20fed ganrif.

'Llond llaw' o achosion llys

Erbyn y 18fed ganrif, roedd ond ychydig o bobl wedi cael eu harestio yn unol 芒 deddf 1533, a llai fyth wedi mynd o flaen eu gwell. Ym Mryste, efallai y byddai awdurdodau'r ddinas wedi ystyried sodomiaeth yn bechod a ddaeth o dramor - roedden nhw'n golygu Cymru neu Weriniaeth yr Iseldiroedd wrth hynny - ond mewn gwirionedd, nid oedd llawer o dystiolaeth o hynny o lysoedd Cymreig o gwbl. Dim ond llond llaw o achosion aeth i'r llys ac ni chafodd y gosb eithaf ei defnyddio o gwbl.

Wrth i ddiwydiannu ledu yn nechrau'r 19eg ganrif, dechreuodd nifer y bobl a gafodd eu harestio a'u herlyn gynyddu - yn enwedig ym Morgannwg a Sir Fynwy - ond o'u cymharu ag ardaloedd tebyg yn Lloegr, yr Alban neu Iwerddon, roedden nhw dal yn isel.

Ni chafodd y diwygiad cyfreithiol enwog yn 1885, a gyflwynodd y drosedd o anwedduster dybryd (gross indecency), lawer o effaith. Ddegawd ar 么l ei gyflwyno, roedd nifer y bobl oedd yn cael eu harestio yng Nghymru yn ddigon tebyg i'r hyn oedden nhw'n arfer bod.

Trawsnewidiadau

Erbyn diwedd yr 1960au a dechrau'r 1970au, dechreuodd bywyd LHDT ymdebygu i'w ffurf fodern. Roedd yna sefydliadau hawliau sifil, roedd yna gymdeithasau myfyrwyr, roedd yna bapurau newydd cymunedol, ac roedd yna fariau a chlybiau a hyd yn oed traethau oedd yn cael labelu eu hunain fel rhai hoyw.

Mae nifer ohonyn nhw, fel y clwb arloesol Showbiz yng Nghaerdydd, neu The Palace yn Abertawe, bellach wedi diflannu neu'r adeilad yn cael ei ddefnyddio fel rhywbeth arall. Ond os cerddwch chi strydoedd Caerdydd neu Abertawe, Merthyr Tudful neu Fangor, mae yna dal ambell i 么l, os wyddoch chi ble i chwilio.

Ffynhonnell y llun, Evening Standard
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y Gay Liberation Front ei sefydlu yn Llundain yn 1970 - gyda changennau Cymreig yn dilyn y flwyddyn wedyn

Bryd hynny hefyd cafwyd yr orymdaith LHDT gyntaf o unrhyw fath yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu gan gangen Caerdydd o'r Gay Liberation Front yn Rhagfyr 1971.

Nid balchder oedd ei thema, fodd bynnag, ond diweithdra ac ansefydlogrwydd. Yn y dyddiau hynny, gyda gweithgareddau hoyw ond wedi eu cyfreithloni'n rhannol a fawr ddim hawliau sifil, doedd yna ddim lle i barti.

Mae 2020 yn nodi hanner can mlynedd ers sefydlu'r Gay Liberation Front yn Llundain ym mis Hydref 1970, gyda'r rhan fwyaf o'r canghennau Cymreig yn dilyn yn 1971.

Mae bywyd LHDT yng Nghymru wedi newid yn aruthrol yn yr amser hynny, yn bennaf oherwydd ymgyrchu cymunedol a newidiadau cyfreithiol.

Dyw'r trawsnewidiadau yma ddim yn gadael llawer o amser i adlewyrchu ar yr hanes, ond os oes yna unrhyw arwydd o pa mor bell mae'r gymuned LHDT wedi dod yn y blynyddoedd diwethaf, dyma fe: llai na hanner canrif ar 么l i ymgyrchwyr glywed mai problem Saesnig oedd pobl hoyw, enillodd Gynulliad Cenedlaethol Cymru wobr am fod y cyflogwr mwyaf LHDT-gyfeillgar ym Mhrydain.

Ffynhonnell y llun, Cynulliad Cenedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aelodau a staff y Cynulliad yn paratoi i chwifio'r faner yn y Senedd ar gyfer Mis Hanes LGBT yn 2017

Hefyd o ddiddordeb: