Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Canslo trenau wrth i Storm Ciara agos谩u
Mae disgwyl i Storm Ciara ddod 芒 gwyntoedd cryfion a glaw trwm i Gymru gyfan dros y penwythnos, ac o ganlyniad mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd nifer o wasnaethau trenau yn cael eu canslo.
Gallai'r tywydd garw effeithio ar gefnogwyr rygbi Cymru wrth iddyn nhw geisio dychwelyd o Ddulyn wedi'r g锚m rhwng Iwerddon a Chymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi ymestyn y rhybudd melyn ar gyfer gwynt ddydd Sadwrn i ran fwyaf o siroedd gogledd Cymru a rhannau o Geredigion a Phowys.
Hefyd mae'r Swyddfa Dywydd wedi newid lliw'r rhybudd o felyn i oren ar gyfer dydd Sul sy'n golygu ei bod yn fwy tebygol y bydd gwyntoedd cryfion ar draws Cymru a thu hwnt - mae yna rybuddion hefyd am law trwm ddydd Sul.
Gallai'r gwyntoedd hyrddio ar gyflymder o 80mya, ac mae'r rhagolygon yn addo hyd at dair modfedd o law mewn mannau.
Mae cwmni Stena Line wedi rhybuddio y gall eu gwasanaethau fferi gael eu heffeithio'n sylweddol o brynhawn Sadwrn hyd at ddydd Llun.
Ddydd Sadwrn mae Pont Britannia rhwng Ynys M么n a'r tir mawr wedi ei chau i gerbydau uchel a seiclwyr a dyw cerbydau eraill ddim yn cael teithio yn gyflymach na 30mya.
Canslo trenau
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi annog cwsmeriaid i wirio eu teithiau ddydd Sul, gan ddweud y gallai'r amodau "fod 芒'r potensial i ddymchwel coed a difrodi isadeiledd".
Dywedodd llefarydd y bydd cyfyngiadau cyflymder ar rai trenau o achos y tywydd, ac ni fydd rhai gwasanaethau ar gael o gwbl.
Ni fydd gwasanaeth trenau ar hyd y llwybrau canlynol ddydd Sul:
- Rhwydwaith Rheilffordd Cymru a'r Gororau
- Rheilffordd Canol Cymru
- Rheilffordd y Cambrian (i'r gorllewin o Amwythig)
- Amwythig-Birmingham International (bydd gwasanaeth West Midlands Trains bob awr yn parhau)
- I'r gorllewin o Gyffordd Llandudno i Gaergybi
- Leiniau i'r gorllewin o Abertawe
- Y Bari i Ben-y-Bont ar Ogwr yn teithio drwy Fro Morgannwg
- Cangen y Blaenau
- Cangen Glyn Ebwy
- Cangen Maesteg
Leiniau'r cymoedd:
- Cwm Rhymni (ar gau yn barod o achos gwaith peirianyddol)
- Treherbert: Dim gwasanaeth i'r gogledd o Bontypridd
- Merthyr: Dim gwasanaeth i'r gogledd o Bontypridd
- Aberd芒r: Dim gwasanaeth i'r gogledd o Bontypridd
Mae'r rhybudd gwynt bellach mewn grym o 12:00 ddydd Sadwrn a thrwy ddydd Sul ar draws Cymru gyfan, tra bod y rhybuddion glaw mewn grym ar draws pob sir heblaw am siroedd Penfro a M么n tan 18:00 nos Sul.
Mae disgwyl i ffyrdd a chymunedau'r arfordir gael eu heffeithio gan donnau mawrion yn y gwynt.
Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru fod angen i bobl sydd yn byw ar yr arfordir i baratoi ar gyfer llifogydd. Fe allai gwyntoedd cryfion olygu llif llanw uchel, all arwain at donnau mawr yn taro'r arfordir.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn disgwyl y bydd y tywydd ar ei waethaf ddydd Sul ac mae swyddogion wedi galw ar bob i gadw draw o lwybrau arfordirol, promenadau a glannau afonydd.
Bydd rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru bob 15 munud ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae modd cael y wybodaeth ddiweddaraf drwy ffonio'r llinell lifogydd ar 0345 988 1188.
Storm Ciara yw'r drydedd storm i gael enw yn y tymor presennol yn dilyn Storm Atiyah ym mis Rhagfyr 2019 a Storm Brendan yng nghanol mis Ionawr.