Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Arian i awdurdodau lleol wedi Storm Dennis
Mae Llywodraeth Cymru yn paratoi i roi arian ychwanegol i awdurdodau lleol yn sgil y difrod a achoswyd gan Storm Dennis.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford brynhawn Sul bod ei lywodraeth yn ymgymryd 芒 "r么l cydlynu" ar y dechrau fel hyn ond y bydd yn trafod ymhellach gydag awdurdodau lleol "yn gynnar yn yr wythnos" er mwyn sicrhau bod "yr help ry'n ni'n gallu ei ddarparu yn eu cyrraedd mewn ffordd mor amserol 芒 phosib".
Ychwanegodd nad oedd trafodaeth wedi bod hyd yma i ofyn am help y fyddin, "gan ein bod wedi llwyddo i ddefnyddio yr holl wasanaethau sydd ganddon ni yn barod".
Fe ddiolchodd i bawb oedd o hanner nos nos Sadwrn, wedi bod allan mewn tywydd dychrynllyd yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu pobl oedd yn wynebu difrod gwaethaf y llifogydd gan hefyd s么n am "ymateb gwych y gymuned".
'Gweld beth sydd angen ei wneud'
Ychwanegodd: "Ond mae'r digwyddiad yma yn ddifrifol. Heddiw ( dydd Sul ) byddwn yn treulio'r diwrnod yn rheoli y sefyllfa, gan ddarparu ymateb brys.
"Erbyn yfory gobeithio, yn 么l y rhagolygon tywydd, byddwn yn gallu dechrau dod dros hyn a gweld beth sydd angen ei wneud i helpu.
"Mae yna niwed i'r isadeiledd ac mae cartrefi unigol wedi cael llifogydd."
"Bydd yna amddiffynfeydd llifogydd, sydd wedi gwrthsefyll y llif, ond nawr sydd angen profion pellach i sicrhau eu bod yn dal yn addas yn y dyfodol.
"Byddwn ni ochr yn ochr 芒'n cydweithwyr o fewn yr awdurdodau lleol yn sicrhau bod popeth sydd angen ei wneud yn cael ei wneud" ychwanegodd.