大象传媒

Ateb y Galw: Yr actor Morgan Hopkins

  • Cyhoeddwyd
Morgan HopkinsFfynhonnell y llun, Morgan Hopkins

Yr actor Morgan Hopkins sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar 么l iddo gael ei enwebu gan Aled Ll欧r Thomas yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Cael fy ngwely cyntaf, un sbrings gyda matres soled a gorchudd car rasio, yn ein t欧 cyngor ar stad Lansbury Park yng Nghaerffili. Ro'n i mor hapus a diolchgar.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Lindsay Wagner, y Bionic Woman a wedyn Lynda Carter, Wonder Woman. Dwi'n hoffi merched cryf.

Ffynhonnell y llun, Bettmann
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Lynda Carter fel Wonder Woman

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Wedi gwneud ff诺l o fy hun gormod o weithiau i ddewis un. Y ffilm Y Plentyn Cynta yn agos os nad ar y brig.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Dwi ddim yn cr茂o rhagor - beth yw'r pwynt?

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes. Dwi'n gwylltio a chwmpo mas gyda phobl dwp ar Facebook. Sy'n fy ngwneud i'n dwpach na nhw!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Castell Y Bere oherwydd y cwmni odd 'da fi pan es i yno'r tro cynta'.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Gig Catatonia, Parc Margam, Mai 1999. Ugain yn cwrdd yn y pyb - bws - mellt a tharannau - Angel, Cynfig - piano, canu, chwerthin - gig - ymladd ar fws - cysgu ar soffa. Cool Cymru i'r Saeson ond o'dd y Cymry ar d芒n!

Ffynhonnell y llun, Mirrorpix
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Chwaraeodd Catatonio gig anhygoel o flaen 30,000 o ffans ym Mharc Margam, Port Talbot

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Dad, Morgan, Mogs.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Ffilm: Martha, Jac a Sianco. Ffilm lwyddodd i sefydlu arddull 'Gymreig' o greu ffilm. Mae'n gwbl unigryw inni ac o'r herwydd yn ddirdynnol. Dwi'n cofio dweud wrth y cynhyrchydd na fyddai'n llwyddiant am fod y stori mor lleddf - gwel ateb rhif 3...

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Martha, Jac a Sianco oedd ffilm Nadolig S4C yn 2008, sef addasiad o'r nofel gan Caryl Lewis

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Unrhywun. Peint?

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Wedi imi farw, dwi am gael fy nghladdu mewn eco pod, gyda choeden afalau yn tyfu ohoni.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Paratoi fy eco pod, bwyta afal.

O archif Ateb y Galw:

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Ragtime, Randy Newman, neu unrhyw g芒n mae Mefin, Gwennan, Cadog neu Eos yn chwarae imi. Gwrando ar hoff fiwsig fy mhlant yw un o bleserau mwyaf 'y mywyd.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Pintxos. Unrhyw fwyd gallwch chi godi gyda'ch bysedd a'i chwifio o gwmpas tra'n siarad. Mewn pyb.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Y dyn neu'r ddynes sy'n sicrhau annibyniaeth i Gymru. S'dim, heblaw 'nheulu, yn bwysicach ifi.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Dr Iestyn Jones

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap 大象传媒 Cymru Fyw