大象传媒

Gallai afancod gwyllt ddychwelyd i ran o Gymru 'eleni'

  • Cyhoeddwyd
AfancFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'n bosib y gallai afancod gwyllt gael eu rhyddhau ym Machynlleth eleni.

Dyma fyddai'r tro cyntaf i'r afanc gael ei ailgyflwyno yng Nghymru.

Yn 么l amgylcheddwyr, byddai'r afanc yn helpu sefydlogi'r ecosystem.

Ond mae ffermwyr a physgotwyr lleol yn dadlau y byddan nhw'n "taflu'r cydbwysedd" rhwng ffermio a bywyd gwyllt.

Yn 么l Prosiect Afancod Cymru, byddai "system rheoli afancod" yn helpu i "liniaru" unrhyw bryderon.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae afancod yn creu argaeau ar nentydd bach sy'n gallu helpu rheoli llif y d诺r a gwella bioamrywiaeth

Fe ddiflannodd afancod o Brydain tua 400 mlynedd yn 么l.

Ar hyn o bryd, mae Prosiect Afancod Cymru yn ymgynghori ar ailgyflwyno'r anifail yn Afon Dyfi.

Maen nhw'n gobeithio sicrhau trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru i gyflwyno 10 p芒r o afancod, dros gyfnod o bum mlynedd.

Yn 2009, cafodd afancod eu rhyddhau fel rhan o arbrawf yn yr Alban. Mae ganddyn nhw statws gwarchodedig yno erbyn hyn.

'Effaith syfrdanol'

Mae Gareth Wyn Jones yn ffermio ar Afon Dyfi ger Llanwrin ac yn dweud bod y prosiect afancod yn golygu "ailwylltio" yn y b么n.

Mae prosiect ailwylltio arall, o'r enw O'r Mynydd I'r M么r, wedi ennyn gwrthwynebiad cryf yn yr ardal.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r ffermwr lleol, Gareth Wyn Jones, ag amheuon ynghylch gwerth ailgyflwyno afancod i'r ardal

"Rydyn ni'n cael ein hannog, trwy gynlluniau amgylcheddol i blannu coed, rhywbeth y byddai afancod yn ei ddadwneud," meddai.

"Mae'r coed sydd gen i ar hyd glannau'r afon yn hanfodol er mwyn cadw'r afon lle mae hi ac i atal erydiad.

"Dim ond ar dir ffermwyr lleol y gall y prosiect hwn ddigwydd a fy ngh诺yn mwyaf ydi'r diffyg cyfathrebu rhwng Ymddiriedolaeth Natur Maesyfed a'r tirfeddianwyr."

Gallai Prosiect Afancod Cymru sicrhau trwydded i ailgyflwyno afancod eleni.

Er, mae rhai afancod eisoes wedi cael eu rhyddhau yn anghyfreithlon yn yr ardal.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bonyn coeden sydd wedi ei fwyta'n llwyr, gan ysgogi ofnau bod afancod eisoes wedi eu rhyddhau'n anghyfreithlon ym Machynlleth

Dywed Gareth Wyn Jones: "Fe ddylai'r prosiect orfod cael ein caniat芒d ni cyn newid rhywbeth sy'n mynd i effeithio yn sylweddol ar ein tir ni.

"Mae hi mor bwysig bod Cyfoeth Naturiol Cymru, trwy'r ymgynghoriad yn siarad 芒 ffermwyr yma."

Mae casgliad preifat o Afancod Ewropeaidd yng Ngwarchodfa Natur Blaeneinion, ger Machynlleth.

Yno, maen nhw wedi gweld budd wrth i afancod greu cyfres o argaeau ar y nentydd bach sy'n gallu helpu i "reoleiddio llif a gwella'r ansawdd dwr o safbwynt bioamrywiaeth".

'Buddion enfawr'

Sharon Girardi sy'n rhedeg y prosiect yng Nghwm Einion, ger Machynlleth.

"Mae mor bwysig dod ag afancod yn 么l oherwydd y ffordd maen nhw'n rheoli llifogydd. Yn ogystal maen nhw'n ddefnyddiol mewn creu ecosystem mwy sefydlog," meddai.

Mae Cymdeithas Pysgodfa Dyfi yn rheoli pysgota ar oddeutu 15 milltir o'r afon. Mae'r ardal yn adnabyddus am ei brithyll brown, eog a brithyll m么r.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Richard Evans, ysgrifennydd Cymdeithas Pysgodfa Dyfi

Dydy Richard Evans, ysgrifennydd y Gymdeithas "ddim yn gweld un rheswm" dros ailgyflwyno afancod i'r ardal.

"Unwaith y bydd yr afancod yma, byddant yn cael eu gwarchod, ac mi fydd hi'n amhosib wedyn i ni atal problemau erydiad y byddant yn eu hachosi.

"Dydyn nhw ddim yn bwyta pysgod ond mae goblygiadau mawr eraill.

"Cafodd yr un faint o afancod eu hailgyflwyno ar y Rio Grande yn Yr Ariannin ym 1947.

"Mae'r afancod wedi torri'r holl goed i lawr yno ac wedi cynyddu i'r fath raddau fel bod y Llywodraeth bellach yn talu i bobl eu saethu wrth iddyn nhw geisio eu dileu.

"Mi fydd yr un peth yn digwydd yma gan nad oes unrhyw beth i'w hela a chadw rhifau i lawr."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd gwirfoddolwyr lleol yn ymateb i unrhyw faterion sy'n codi, medd Alicia Leow Dyke

Wrth ymateb i'r pryderon, mae Alicia Leow Dyke o Brosiect Afancod Cymru'n "cydnabod na fyddai'n addas cael argaeau ym mhob ardal".

"Mae'r prosiect yn cynllunio tuag at reoli hynny - yn seiliedig ar brosiectau tebyg yn Yr Alban a Sir Ddyfnaint," meddai.

"Maen nhw'n dweud bod ffyrdd o liniaru unrhyw newidiadau neu bryderon sydd gan bobl am effaith yr afancod."