Cymwysterau Cymru yn ystyried asesu TGAU yn electronig

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae disgyblion yn treulio llawer o'u hamser yn defnyddio cyfrifiaduron yn y dosbarth

Gallai defnyddio papur a beiros mewn arholiadau TGAU ddod i ben wrth i'r corff sy'n rheoleiddio cymwysterau yng Nghymru ymgynghori ar ddyfodol arholiadau.

Yn 么l David Jones, cadeirydd newydd Cymwysterau Cymru, mae'n bosib y bydd mwy o asesiadau electronig yn cael ei gyflwyno yn y cwricwlwm newydd er mwyn adlewyrchu'r ffordd y mae pobl ifanc yn byw eu bywydau.

Ond dywedodd bod yn rhaid sicrhau bod y dechnoleg yn gweithio.

Mae Mr Jones yn credu y dylai'r enw TGAU barhau er mwyn osgoi dryswch gydag enw newydd.

Ar hyn o bryd mae un o'r newidiadau mwyaf mewn degawdau i'r cwricwlwm ysgol yng Nghymru ar fin digwydd, wrth i gwricwlwm newydd ar gyfer plant tair i 16 oed gael ei gyflwyno.

Bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei ddysgu o 2022 ymlaen a bydd chwech "maes o ddysgu a phrofiad" yn dod yn lle'r pynciau traddodiadol.

Fel rhan o'r newidiadau mae ymgynghoriadau yn digwydd ar hyn o bryd ar y ffordd orau i brofi disgyblion 16 oed o 2026 ymlaen.

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Ydy disgyblion yn ysgrifennu mewn arholiadau ar fin dod i ben?

Dywedodd Cymwysterau Cymru, corff statudol annibynnol sy'n rheoleiddio arholiadau yng Nghymru, bod yn rhaid i gymwysterau fod yn addas ar gyfer "byd sy'n symud yn gyflym".

Ychwanegodd Mr Jones: "Dyw e ddim yn ymddangos yn iawn fod plant yn treulio y rhan helaethaf o'u bywydau yn defnyddio technoleg ac yna unwaith neu ddwywaith y flwyddyn yn gorfod gwneud arholiadau sydd o leiaf yn 50 mlwydd oed."

'Cymru yn llusgo tu 么l'

Ond mae symud i'r oes ddigidol yn gallu creu problemau.

Ym mis Mai 2018 bu'n rhaid i CBAC ymddiheuro wedi i "fater technegol" effeithio ar ddisgyblion oedd yn sefyll arholiad cyfrifiadureg.

Doedd hi ddim yn glir faint o ddisgyblion gafodd eu heffeithio ond fe gafodd y mater ei godi yn siroedd Bro Morgannwg, Caerdydd, Penfro a Rhondda Cynon Taf.

"Mae yna bryderon a pheth risg. Y llynedd yn Yr Alban roedd yna broblemau am asesiad electronig," meddai Mr Jones.

"Felly mae'n rhaid i ni sicrhau bod y dechnoleg yn gweithio fel bod modd gwneud cymwysterau ar-lein.

"Ond yn anorfod yn y dyfodol bydd yn rhaid i ni gael tipyn yn fwy o asesiadau electronig - neu mi fyddwn yn llusgo tu 么l gweddill y byd."

Disgrifiad o'r llun, "Mae gwledydd eraill yn symud tuag at asesiadau electronig," medd David Jones

Tra bod y corff goruchwylio yn credu y dylid newid cynnwys ac asesiad cymwysterau yn "sylweddol", mae'n annog peidio gollwng y brand TGAU.

Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol am gael gwared ar TGAU a symud i ffyrdd eraill o asesu.

Dywedodd Mr Jones: "Am y tro rwy'n credu y dylem aros gyda'r enw TGAU.

"Bydd strwythur, fframwaith ac asesiad o'r cymhwyster yn newid yn sylweddol ond fe all newid enw fod yn ddryslyd.

"Mae'r enw TGAU yn adnabyddus ac yn cael ei barchu. Yr hyn sy'n bwysig yw'r hyn sydd wedi'i gynnwys yn y cymhwyster."