Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gohirio pencampwriaeth Euro 2020 tan yr haf nesaf
Mae UEFA wedi cadarnhau bod pencampwriaeth Euro 2020 wedi cael ei gohirio am flwyddyn oherwydd y pandemig coronafeirws.
Daw'r penderfyniad wedi cynhadledd fideo brys rhwng y corff llywodraethu UEFA a phartneriaid allweddol ddydd Mawrth.
Dywedodd UEFA, y corff sy'n rheoli p锚l-droed yn Ewrop, y bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal rhwng 11 Mehefin ac 11 Gorffennaf 2021.
Mae'r penderfyniad yn golygu bod modd cynnal yr holl gemau sy'n weddill yn y cynghreiriau domestig, sydd wedi cael eu gohirio ar draws Ewrop oherwydd coronafeirws, yn ystod yr haf eleni.
Dywedodd llywydd UEFA, Aleksander 膶eferin mai "iechyd cefnogwyr, staff a chwaraewyr yw ein blaenoriaeth bennaf".
Cymru i fod i herio'r Eidal
Roedd rowndiau terfynol y gystadleuaeth i fod i gael eu cynnal mewn sawl stadiwm ar draws Ewrop rhwng 12 Mehefin a 12 Gorffennaf eleni.
Roedd g锚m olaf Cymru yng Ngr诺p A i fod ar 21 Mehefin, yn erbyn Yr Eidal yn Rhufain.
Yr Eidal sydd wedi cofnodi'r nifer fwyaf o farwolaethau y tu hwnt i'r wlad o ble darddodd yr haint, sef China.
Roedd carfan Ryan Giggs hefyd i fod i chwarae dwy g锚m yn Baku, yn Azerbaijan - yn erbyn y Swistir ar 13 Mehefin, ac yn erbyn Twrci ar 17 Mehefin.
Cafodd gemau cyfeillgar Cymru yn erbyn Awstria a'r Unol Daleithiau - oedd fod i gael eu cynnal ddiwedd mis Mawrth - eu canslo yr wythnos ddiwethaf.