大象传媒

Bywyd ar 么l Ned: Galar a鈥檔 teulu ni

  • Cyhoeddwyd
Sharon a NedFfynhonnell y llun, Sharon Marie Jones

Yn 2016, collodd Sharon Marie Jones o Aberystwyth ei mab pump oed, Ned, mewn damwain ddifrifol.

Yma mae hi'n s么n am sut mae ei theulu a'i ffrindiau wedi ei helpu dros y bedair blynedd ddiwethaf... ac ambell beth y dylid osgoi ei wneud gyda pherson sy'n galaru.

Ar 25 Mawrth, mi fydd hi'n bedair blynedd ers i mi golli fy mab bach, Ned, mewn damwain car.

Byse Ned wedi dathlu ei ben-blwydd yn 9 oed ar 2 Mawrth eleni, felly penderfynais ysgrifennu naw peth sy' wedi fy helpu i fyw gyda'r galar mwyaf annioddefol.

Ond wrth eu hysgrifennu, deuai'r pethau sy' ddim wedi helpu i'm mhen hefyd. Felly daeth y rhestr yn ddwy - y 'da a'r drwg' mewn ffordd.

Ffynhonnell y llun, Sharon Marie Jones

Nid cyfeirio at gymorth proffesiynol ydw i, ond at bethau cyffredinol, y pethau bach sy'n bethau anferthol ym mywyd un sy'n galaru.

Mae cefnogi rhywun sy'n dioddef yn un o'r pethau pwysicaf gallech wneud yn eich bywyd.

Y 9 'Da':

1 - (Y dyddiau cynnar) Cael teulu a ffrindiau agos yn y t欧. Doeddwn i methu diodde'r tawelwch. Roeddwn i angen clywed bywyd.

2 - (Y dyddiau cynnar) Help gyda fy nau fab arall, Tomi a Cai - dod draw i chwarae efo nhw, neu mynd 芒 nhw i gael chwarae efo'u ffrindiau.

3 - (Y dyddiau cynnar) Dod 芒 bwyd draw. Doeddwn i ddim yn gwybod pa ddiwrnod o'r wythnos oedd hi, heb s么n am allu meddwl paratoi pryd o fwyd.

4 - (Y dyddiau cynnar) Help ymarferol - gwneud paneidiau o de i ymwelwyr, rhoi llwyth o ddillad i'w olchi, llenwi'r dishwasher.

Ffynhonnell y llun, Sharon Marie Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tomi, Ned a Cai

5 - (Y dyddiau cynnar) Ffeindio cymorth proffesiynol. Fe lwyddodd ffrind gysylltu gyda fy meddyg teulu, a hithau wedyn yn dod draw i'r t欧 a fy nghyfeirio at y T卯m Iechyd Meddwl.

6 - Siarad am Ned a rhannu atgofion. Rhoi lluniau a llythyron i mi gan ei ffrindiau bach - dwi'n eu trysori.

7 - Cadw cyswllt cyson, dim ond er mwyn fy atgoffa eich bod yma, heb unrhyw ddisgwyliad i mi ateb.

8 - Gwrando heb feirniadu, hyd yn oed yn ystod yr amserau tywyllaf oll.

9 - Derbyn fi fel ydw i. Dydw i ddim yr un person ag oeddwn i, ond dwi'n trio fy ngorau i ail-adeiladu fy hun.

Ffynhonnell y llun, Sharon Marie Jones

Y 9 'Drwg':

1 - Cadw draw. Dwi'n deall nad yw'n hawdd i ddod i'm cartref (yn enwedig yn ystod yr wythnosau cyntaf), ond mae cadw draw yn brifo.

2 - Osgoi fi, esgus eich bod heb fy ngweld, croesi'r ffordd. Does dim rhaid sgwrsio. Mae gw锚n yn ddigon.

3 - Rhoi'r disgwyliad arnaf i i gysylltu. Dwi ddim yn gallu. Dwi ddim yn cofio bo' chi wedi dweud, 'Cysyllta os ti angen rhywbeth.' Mae derbyn negeseuon testun cyson yn f'atgoffa bo' chi yma a heb anghofio amdanaf.

4 - Newid y pwnc pan dwi'n siarad am Ned. Dwi isho siarad amdano. Fy machgen bach i ydi o.

5 - Dweud pethau di-feddwl a barnu - 'mae rhaid i ti drio'n galetach', 'mae bywyd yn mynd yn ei flaen', 'ti'n lwcus fod gen ti ddau blentyn arall'. Mae mynegiadau o'r fath fel cic i'r stumog.

Ffynhonnell y llun, Sharon Marie Jones

6 - Gwneud sylwadau am fy edrychiad - yn enwedig fy mhwysau. Collais lot o bwysau yn ystod yr wythnosau cyntaf gan nad oeddwn yn gallu bwyta ond erbyn hyn dwi ar goctel cryf o feddyginiaeth ac mae fy mwyta yn eratig iawn, a fy mhwysau'n gyson codi.

7 - Stopio sgwrs pan dwi'n agosau. Does dim angen. Dwi'n gwbod fod bywyd yn parhau. Dwi'n iawn yn gweld chi'n hapus.

8 - Rhoi fyny gofyn a gwahodd. Dwi wedi fy llethu. Ond efallai byddaf yn teimlo'n wahanol ymhen wythnos neu ddwy. Cadwch i checio mewn.

9 - Bod ofn fy emosiynau. Does dim angen 'geiriau cywir'; jyst derbyn, aros a dal yn dynn.

Ffynhonnell y llun, Sharon Marie Jones

Gan fod galar mor bersonol ac yn wahanol i bawb, galla i ddim ond s么n am fy mhrofiadau i, a fy ngalar i.

Ond dwi'n gobeithio y bydd rhywun sy'n darllen yn gallu cymryd rhywbeth o fy ngeiriau, yn gallu gafael mewn brawddeg a meddwl 'Dyma rywbeth dwi'n gallu gwneud i helpu.'

Hefyd o ddiddordeb: