Canslo Tafwyl 2020 ym mis Mehefin achos coronafeirws

Ffynhonnell y llun, Tafwyl

Disgrifiad o'r llun, Roedd yr ŵyl i fod i symud o Gastell Caerdydd i Barc Biwt ar gyfer 2020

Mae Tafwyl wedi'i ganslo eleni yn sgil yr ansicrwydd parhaus am haint coronafeirws.

Roedd Menter Caerdydd wedi bwriadu cynnal yr ŵyl rhwng 19-21 Mehefin 2020.

Dywedodd y trefnwyr fod y penderfyniad yn destun "siom, ond yn anorfod" yn sgil y pandemig.

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Cafodd Tafwyl ei sefydlu'n 2006 fel gŵyl flynyddol sydd am ddim i ddathlu'r iaith, celfyddydau a diwylliant Cymreig yng Nghaerdydd.

Mae cynulleidfa Tafwyl wedi tyfu dros y blynyddoedd o'r ychydig dros 1,000 o bobl yn y Mochyn Du yn 2006, i'r 37,000 fynychodd yn 2019.