Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cwmnïau Cymru i gael 'yr un gefnogaeth â Lloegr'
Bydd gweinidogion Cymru yn buddsoddi ychydig o dan £1.4bn i helpu busnesau yng Nghymru ddygymod â'r achosion o coronafeirws.
Dywedodd y Gweinidog Economi, Ken Skates, y bydd y llywodraeth ym Mae Caerdydd yn cyflwyno cynlluniau cyfatebol i'r hyn a gafodd ei gyhoeddi gan y Canghellor i helpu busnesau yn Lloegr, trwy grantiau a saib ar daliadau trethi.
Ychwanegodd y bydd cronfa ychwanegol yn cael ei sefydlu i gynorthwyo busnesau a'r rheiny sy'n hunangyflogedig.
Mae'r cyhoeddiad yn dilyn trywydd tebyg i'r hyn a gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU er mwyn ceisio cynorthwyo'r economi.
Mae'r mesurau'n cynnwys £330bn mewn benthyciadau a £20bn mewn cymorth arall.
Ddydd Mawrth fe gyhoeddodd y Canghellor, Rishi Sunak y byddai yna saib i daliadau trethi busnesau yn Lloegr yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch am 12 mis, a grantiau cyllido rhwng £10,000 a £25,000 ar gyfer busnesau bach.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn arian i sefydlu ei phecyn o fesurau ei hun oherwydd bod cyfraddau busnes a chymorth i fusnesau bach wedi'u datganoli.
Wrth siarad ddydd Mercher, dywedodd Mr Skates: "Ar ôl cadarnhau'r holl ffigyrau gyda llywodraeth y DU, byddwn yn buddsoddi ychydig o dan £1.4bn mewn busnesau yng Nghymru.
"Rydyn ni'n mynd i gyfateb yn llwyr â'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr.
"Ond byddwn hefyd yn sefydlu cronfa a fydd yn cynorthwyo rhai pobl a busnesau hunangyflogedig y tu allan i'r sectorau hynny a'r meysydd hynny o'r economi sy'n mynd i elwa o'r saib ar drethi busnes a'r grantiau."
Esboniodd Mr Skates y gallai'r gronfa newydd helpu "pobl hunangyflogedig sy'n wynebu straen penodol ar hyn o bryd oherwydd effeithiau coronafeirws neu gallai fod yn fusnesau y tu allan i'r sector manwerthu, y sector hamdden, y sector lletygarwch sy'n wynebu brwydr benodol ar hyn o bryd."
Galwodd hefyd ar lywodraeth y DU i gyflwyno "cymhorthdal ​​cyflog i fusnesau fel y gallant aeafgysgu os oes angen trwy'r achosion coronafeirws, neu barhau i ddal ati, tra'n gwarantu incwm sylfaenol i'w gweithwyr".
"Gobeithio y cawn ateb yn ôl [gan lywodraeth y DU] erbyn dechrau'r wythnos nesaf," ychwanegodd.
Mae Ben Cottam, o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, wedi galw am "well cysylltiad rhwng llywodraethau'r DU a Chymru" ar gymorth busnes.
"Ar hyn o bryd rydyn ni ar ei hôl hi o hyd, achos rydyn ni'n cael cyhoeddiad sy'n amlinellu'r sefyllfa ar gyfer Lloegr, a Lloegr yn unig, ac yna mae'n rhaid i ni fynd ati i edrych ar y ffigyrau a cheisio dadansoddi beth mae hyn yn ei olygu i fusnesau yng Nghymru," meddai.
Wrth ymateb i'r pwynt penodol hwnnw, dywedodd Mr Skates: "Rydyn ni bellach wedi cael addewid [gan lywodraeth y DU] y byddwn ni'n rhan annatod o'r broses o ffurfio'r cynlluniau hynny sydd mor bwysig i'r economi."
"All busnesau ddim fforddio aros i ni gymhwyso'r hyn y byddwn yn ei wneud yn seiliedig ar y ffigyrau sy'n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth y DU.
"Rhaid i ni fod yno yn rhan o'r trafodaethau yn gynharach."