Y sefyllfa'n ysgogi rhai papurau i gyhoeddi'n ddigidol

Disgrifiad o'r llun, Mae rhai papurau bro wedi ymateb trwy gyhoeddi'n ddigidol

Mae'r argyfwng coronafeirws wedi gorfodi un papur bro i roi'r gorau i gyhoeddi am gyfnod.

Mae eraill wedi penderfynu arloesi a chyhoeddi'n ddigidol am y tro cyntaf.

Mae 大象传媒 Cymru wedi bod yn siarad 芒 rhai ohonyn nhw.

ECO'R WYDDFA

Yn cael ei gyhoeddi ers 1978, mae Eco'r Wyddfa'n rhoi'r gorau i gyhoeddi am gyfnod - y tro cyntaf yn ei hanes.

Disgrifiad o'r llun, Tony Elliot, cadeirydd Eco'r Wyddfa

Roedd criw iau o wirfoddolwyr i fod yn gyfrifol am rifyn mis Ebrill gyda mwy o bwyslais ar gynnwys digidol.

Oherwydd yr argyfwng coronafeirws, penderfynwyd y byddai'n well aros am adeg mwy ffafriol ac felly cymryd saib.

Ond roedd iechyd a diolgelwch hyd yn oed yn bwysicach meddai Cadeirydd y papur, Tony Elliott:

"Roedd hi'n gwbl annerbyniol yn ein golwg ni i ddisgywl i'n gweithwyr ni, ein tim ni, fynd rownd o ddrws i ddrws yn gwerthu'r papur, yn curo drysau ac yn cael darllenwyr yn dod wyneb yn wyneb efo nhw."

"Ac yn y diwedd roedd hi'n gwbl amlwg i ni mai dyma oedd yr unig gam ymlaen oedd yn bosibl."

TAFOD ELAI

Mae darllenwyr papur Tafod Elai yn yr ardal rhwng Pontypridd a Chaerdydd.

Mae'r gwirfoddolwyr am geisio parhau am y tro, tra'n defnyddio mwy falle ar dechnoleg ddigidol.

"Mae Tafod Elai mis Ebrill wedi mynd i'r wasg a den ni'n gobeithio dosbarthu cymiant ag sy'n bosib yr wythnos yma." meddai'r Golygydd, Penri Williams.

"Ond hefyd den ni'n mynd i ddosbarthu trwy ebost i bawb yn yr ardal a hefyd fydd o ar gael ar wefan Tafod Elai a hefyd ar Facebook a Twitter."

"Den ni'n gobeithio bydd pawb yng Nhymru yn medru darllen y rhifyn arbennig yma o Tafod Elai."

"Yn y dyfodol den ni'n gobeithio defnyddio hen erthyglau o rifynnau i lenwi'r gofod a den'n ni'n gobeithio dal i fynd am dipyn eto."

PAPUR FAMAU & BRO360

Mae papurau eraill wedi manteisio ar gynnig gan gwmni Golwg i gyhoeddi rhifynnau ar wefan prosiect Bro360.

Yn ol cydlynwyr y prosiect, mae nhw'n cefnogi ac ategu'n ddigidol y gwaith mae'r papurau bro yn ei wneud mewn dwy ardal beilot yn Arfon a gogledd Ceredigion.

"Yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf wnaethon ni sylweddoli bod pobl yn mynd i gael trafferthion i wneud eu busnes arferol o blygu a dosbarthu oherwydd y cyfyngiadau." meddai Lowri Jones, Cydlynydd Bro360.

"Nethon ni roi'r cynnig mas 'na i bobl gyhoeddi'n rhad ac am ddim ar ein platform ni."

"Erbyn hyn fi'n credu bod wyth o bapurau bro wedi cysylltu 'da ni, y rhan fwyaf o tu fas i'r ardol ni'n gweitiho ynddi ac wedi gosod rhifyn Mawrth neu Ebrill ar wefan Bro 360 felly mae eu darllenwyr nhw'n medru darllen y cynnwys yn ddigidol sy'n safio nhw rhag gorfod poeni bod neb yn gallu gweld y newyddion lleol 'na."

"Mae'n gret gallu cyrraedd rhywfaint o Gymru gyfan yn gynt na'r disgwyl achos bod ni'n medru ymateb rhywfaint i angen amlwg yn lleol."

Yn Sir y Fflint, mae Papur Famau yn un o'r rhai sydd wedi manteisio ar gynnig Bro360.

"Heblaw am yr argyfwng hwn, dwi ddim yn meddwl fysen ni wedi mentro cyhoeddi'r papur arlein a dweud y gwir", meddai Gareth Williams, Is-gadeirydd Papur Famau.

"Mae 'na ryw 500 o ddarllenwyr traddodiadol bob mis, ond yn sicr mae 'na lot mwy o bobl yn mynd i gael mynediad yn rhad ac am ddim i'r rhifyn hwn."

"Den ni wedi lleihau yn llwyr ar y costau felly mae'n debyg y byddwn ni yn y dyfodol yn ystyried mynd arlein rhyw bythefnos yn ddiweddarach."