大象传媒

Miloedd yn cofnodi symptomau dyddiol Covid-19 ar ap

  • Cyhoeddwyd
Ap Zoe
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nod yr ap yw creu darlun mwy cyflawn o sut mae'r feirws yn effeithio ar bobl ac ar ardaloedd gwahanol

Mae ap sydd yn cadw cofnod o symptomau Covid-19 wedi cael ei lawrlwytho 38,000 o weithiau yng Nghymru hyd yn hyn, yn 么l Llywodraeth Cymru.

Bwriad gwneuthurwyr yr ap, , yw ceisio rhagweld sut mae'r haint yn datblygu mewn gwahanol ardaloedd, sut mae'n effeithio ar wahanol bobl a ble fydd y pwysau mwyaf ar y gwasanaeth iechyd.

Mae'r ap ar gyfer pawb, nid dim ond pobl sydd 芒 symptomau.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething ar 大象传媒 Radio Wales Breakfast y byddai'r wybodaeth yn helpu'r llywodraeth a'r gwasanaeth iechyd i weld patrymau a phrofi pobl mewn ardaloedd sydd wedi'u taro'n waeth.

Arwydd cynnar o'r galw tebygol

Cafodd yr ap ei ddatblygu gan ymchwilwyr yng Ngholeg King's yn Llundain a chwmni gwyddoniaeth gofal iechyd, ZOE fel bod pobl yn gallu cadw cofnod o'u hiechyd dyddiol.

Bydd y wybodaeth sy'n cael ei rhannu'n ddyddiol gyda Llywodraeth Cymru a GIG Cymru, yn rhoi arwydd cynnar o'r galw tebygol ar ysbytai yn y dyfodol.

Bydd Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) Prifysgol Abertawe yn cydweithio gyda gwyddonwyr Coleg King's a Llywodraeth Cymru i ddadansoddi'r data.

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford yn annog pawb i lawrlwytho'r ap "os oes gennych chi unrhyw symptomau neu os ydych chi'n teimlo'n iach".

Byddai hynny, meddai, yn helpu casglu gwybodaeth hanfodol fel bod gwasanaethau'r GIG yn barod ar gyfer nifer uwch o gleifion mewn mannau penodol a "helpu i warchod ein gweithwyr ac achub bywydau".

Dywedodd yr Athro Ymchwil Arweiniol o Goleg King's, Tim Spector: "Mae data amser real manwl gywir yn hanfodol os ydyn ni am drechu'r afiechyd yma.

"Heb brofi manwl gywir ac eang mae'n hanfodol bod gennym ni gymaint o ddata 芒 phosib i'n helpu ni i ragweld ble rydyn ni'n mynd, i weld y cynnydd nesaf o ran galw, fel bod modd defnyddio adnoddau'n effeithiol yn barod i ddiwallu anghenion y cleifion."