Ateb y Galw: Y cerddor Bethan Rhiannon

Ffynhonnell y llun, Bethan Rhiannon

Y cerddor Bethan Rhiannon sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar 么l iddi gael ei henwebu gan Gareth Jones yr wythnos diwethaf.

Mae Bethan yn aelod o'r gr诺piau gwerin Calan a Pendevig - ac yn aml-dalentog ym mhopeth gwerniol, gan ddawnsio, canu a chwarae'r acordion!

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Gwylio Dad a fy Wncl Tim yn clocsio ar lwyfan yr Eisteddfod yn 1991!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

OMB, Dafydd Du, heb amheuaeth. Dwi dal yn ffansio Dafydd Du!

Disgrifiad o'r llun, Dafydd Du wedi perffeithio ei 'smouldering look' pan oedd o'n cyflwyno C2 ar 大象传媒 Radio Cymru yn 2002

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Pan ges i food poisoning yn Malaysia, a methu rheoli fy mol! A'th pethau bach yn embarrassing pan o'n i ar y traeth mewn bicini gwyn!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Wir ddim yn cofio, a ddim yn si诺r os ydy hwnna'n beth drwg neu beidio?!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi dal yn sugno bawd yn y gwely!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Abertyleri. Dyma ble dwi 'di treulio rhan fwya' o fy mywyd yn tyfu lan. Mae'r dre erbyn hyn mond yn cynnwys pubs a kebab shops, ond mae'n dref lle ma pawb dal yn cerdded i fewn i dai ein gilydd i gal chat, a mae pawb yn nabod pawb.

Gallwch chi werthfawrogi'r tirwedd hyfryd, wrth syllu ar yr ardal o dop un o'r mynyddoedd, a dyma'r dref dwi'n ystyried yn gartref i mi.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Fy mharti penblwydd yn 30 blwyddyn d'wetha. Gan mod i'n gerddor llawn amser, o'n i'n lwcus iawn i gael nifer o fy ffrindiau sy'n chwarae mewn bandiau i ddod i chwarae yn fyw, a daeth teulu a ffrindiau o bob cwr o Gymru a Lloegr i ddathlu yn Nghaerdydd. O'n i'n teimlo'n lwcus iawn y noson hynny!

Ffynhonnell y llun, Calan

Disgrifiad o'r llun, Fel aelod o nifer o fandiau, fel Calan, roedd gan Bethan ddigon o gerddorion yn ei pharti penblwydd

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Diamynedd, cysglyd, styfnig.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Peter Pan - y llyfr

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Louis Theroux. Byswn i wrth fy modd yn cael clywed straeon Louis o'r 20 mlynedd d'wetha! Am foi!

Disgrifiad o'r llun, Mae Louis Theroux wedi teithio'r byd i gyfweld 芒 nifer o unigolion gwych a gwallgof dros y blynyddoedd

Beth yw dy hoff g芒n?

Pam Fod Adar yn Symud i Fyw gan Sibrydion. Lush!

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf - jin pinc. Prif gwrs - cinio dydd Sul. Pwdin - jin pinc.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Pan o'n i'n fach, o'n i ishe tyfu lan i fod yn rhywun odd yn gyrru zamboni a glanhau rinc sglefrio i芒!

O archif Ateb y Galw:

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Dim byd rhy sbeshal! Fyswn i'n treulio amser gyda nghathod, mynd i'r hot tub, yfed jin, smocio ffags a peidio 'neud dim un darn o waith t欧!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Fy nith bach. Ma' hi'n bedair mlwydd oed, llawn egni, ac mae'n cael llenwi ei diwnodau gyda pheintio, canu, dawnsio, chwerthin, rhedeg mor gyflym 芒 galle hi, ac ma' hi yn ei gwely erbyn 8! Be' arall all unrhywun ofyn amdano?!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Beth Celyn