大象传媒

Lluniau: Portread o gymdogion ar stepen y drws

  • Cyhoeddwyd

Mae'r ffotograffydd Katie Barrett wedi troi'r cyfnod lle mae gofyn i bobl aros yn eu cartrefi yn gyfle i ddogfennu bywyd ei chymdogion a'i chymuned yn Ystum Taf, Caerdydd, lle mae wedi byw ar hyd ei hoes.

Gyda phandemig Covid-19 yn dod 芒'i gwaith arferol mewn priodasau a digwyddiadau haf i ben yn sydyn, roedd hi'n colli mynd allan i dynnu lluniau.

Felly ar 么l tynnu llun ei ffrind tu allan i'w th欧 yn dathlu ei phen-blwydd yn 40, penderfynodd ddal ati wrth fynd am ei thro dyddiol.

"O'n i'n colli tynnu lluniau ond hefyd fi'n hoffi mynd allan i gerdded a mynd ar y beic. So oni'n meddwl bydde fe'n lyfli gallu mynd rownd, tynnu lluniau o bobl yn eu tai nhw, yn y ffenest, wrth y drws neu yn yr ardd ffrynt, jyst i neud rhywbeth neis iddyn nhw a'r un pryd rhoi cyfle i fi fynd allan, cael ymarfer corff a cael chat neis 'da pobl.

Ffynhonnell y llun, Katie Barrett
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Luke, Sara, Lowri ac Isla yn mwynhau bod gartref gyda'i gilydd

Ffynhonnell y llun, Katie Barrett
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sian a Rhosyn: "Rwy'n colli rhai agweddau o fywyd 'normal '(nid pob un!) ond rydw i wir yn mwynhau gwario amser gyda'n gilydd fel teulu ac mae'r tywydd hyfryd wedi bod yn fendith go iawn," meddai Sian. Dywedodd Rhosyn ei bod yn colli ei ffrindiau o'r ysgol feithrin.

"Fi 'di cwrdd 芒 lot o bobl neis sydd 'di bod yn byw o amgylch fan hyn ers blynyddoedd a fi di cael lot o chats am beth oedd e fel yn yr hen ddyddiau," meddai Katie.

Ffynhonnell y llun, Katie Barrett
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Maureen i fod i fynd ar ei gwyliau i Hastings yn yr haf ond bydd yn ei dreulio adref nawr. Mae hi'n edrych ymlaen i gofleidio ei phlant a'i wyrion, sy'n ei helpu ac yn ymweld - ond o bellter.

Ffynhonnell y llun, Katie Barrett
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Val a Terry yw rhieni Katie. Maen nhw wedi bod yn treulio'r amser yn mwynhau sganio hen luniau sy'n dod 芒 llawer o atgofion melys yn 么l, ond maen nhw'n awyddus i'r 'lockdown' ddod i ben yn fuan nawr.

Mae pobl bellach yn cysylltu i ofyn i Katie ddod i dynnu eu llun: naill ai pobl sydd eisiau cofnod o'u hunain a'u teulu yn ystod y cyfnod rhyfeddol yma neu bobl sydd eisiau nodi pen-blwydd neu achlysur arbennig, fel John a Janet oedd yn dathlu 28 mlynedd o briodas.

Ffynhonnell y llun, Katie Barratt
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gofynnodd Janet a John am lun i ddathlu eu pen-blwydd priodas 28 mlynedd. Mae Janet yn dal i fynd i'r gwaith bob dydd yn Ysbyty Felindre. Maen nhw'n dal i gael hwyl ond yn colli teulu a ffrindiau. Mae'r 'lockdown' yn bendant yn gwneud i chi sylweddoli pwy a beth sydd fwyaf pwysig yn eich bywyd, meddai Janet.

"Fi'n cael lot o bobl gwahanol yn cysylltu, pobl sydd jyst moyn cofnodi'r cyfnod yma achos mae'n gyfnod mor od a rhai pobl sy'n dathlu pethau a moyn marcio hwnna.

Ffynhonnell y llun, Katie Barrett
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sian, Jamie, Pearl a Ted sydd yn cymryd yr agwedd y bydd hyn, fel popeth arall, yn pasio.

"Mae'n rhoi cyfle i gofnodi'r amser yma, achos ni byth yn mynd i gael hwn eto," meddai Katie.

"Hefyd mae'n torri lan y diwrnod, mae'n rhoi cyfle i bobl wisgo - dim gwisgo lan, ond newid allan o'u pyjamas nhw a rhoi colur 'mlaen!"

Ffynhonnell y llun, Katie Barrett
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cath, Daz, Teifi, Osian ac Anest. I'r rhieni, mae cael eu plant i gyd o dan yr un to wedi bod yn fantais fawr ... ond ddim gymaint i'r brodyr a'r chwiorydd efallai!

Ffynhonnell y llun, Katie Barratt
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Anest yn ffrindiau gorau gyda Phoebe, sy'n byw drws nesaf, ond dydyn nhw ddim yn gallu chwarae gyda'i gilydd ar hyn o bryd. Dydi'r trampol卯n ac adeiladu den ddim yn gymaint o hwyl heb Anest, meddai Phoebe, ac mae Anest yn colli'r sgyrsiau gyda Phoebe ar y ffordd i'r ysgol.

Mae Katie yn tynnu'r lluniau gyda lens hir o'r pafin a ddim ond yn mynd o fewn 20 munud i'w chartref yn ardal Ystum Taf, Eglwys Newydd a Llandaf.

Mae nifer o neiniau a theidiau yn methu eu hwyrion meddai Katie, pobl fel Carole a Peter sy'n byw yn agos at eu pedair merch a'u teuluoedd yn Ystum Taf. Fe dynnodd Katie luniau o'r holl deulu yn eu gwahanol gartrefi cyfagos.

Ffynhonnell y llun, Katie Barratt
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Carole a Peter (yma gyda Lola y ci) yn byw yn agos at eu pedair merch a'u teuluoedd. Maen nhw'n edrych ymlaen at roi cwtshys i'w wyrion i gyd ac yn gobeithio y bydd y byd yn lle mwy caredig pan ddaw hyn i ben.

Ffynhonnell y llun, Katie Barratt
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Lindsay (merch hynaf Carole a Peter') gyda Matt, Enzo ac Emilio. Mae'r plant wedi bod yn mwynhau chwarae yn yr ardd... ac ar eu Nintendo Switch!

Ffynhonnell y llun, Katie Barratt
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jeni (ail ferch Carole a Peter) gyda Nicholas, Rudy, Ossie a Wren. Mae'r plant yn sgwrsio dros y wal gyda'r plant drws nesa bob dydd.

Ffynhonnell y llun, Katie Barratt
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hannah, trydedd merch Carole a Peter, gyda Scott, Betty a Maggie

Ffynhonnell y llun, Katie Barratt
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Esther (pedwaredd merch Carole a Peter) gyda Chris, Wilson a Rosa. Mae Wilson wedi dysgu reidio ei feic ac mae'n edrych ymlaen i'w reidio i'r ysgol.

"Pryd fi'n gofyn i bobl beth maen nhw'n ei hoffi o ran beth sydd wedi dod allan o hwn y peth cyntaf mae'r rhan fwyf o bobl wedi s么n amdano yw'r ysbryd cymunedol a sut maen nhw wedi dod i adnabod eu cymdogion nhw," meddai Katie.

"Fi'n credu mai rhywbeth da sy'n dod allan o'r sefyllfa yma yw bod hwnna yn cadw lan a bod pobl yn cadw mewn cysylltiad."

Hefyd o ddiddordeb: