大象传媒

Cadarnhad na fydd ysgolion Cymru'n ailagor ar 1 Mehefin

  • Cyhoeddwyd
Dosbarth gwagFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd ysgolion Cymru'n aros ynghau am y tro, yn 么l y Gweinidog Addysg Kirsty Williams.

Roedd dyfalu a fyddai ysgolion yn ailagor ar 1 Mehefin fel rhan o unrhyw lacio ar gyfyngiadau coronafeirws.

Ond mewn fideo ar ei chyfrif Twitter cadarnhaodd Ms Williams na fyddai unrhyw newid i'r sefyllfa ar hyn o bryd.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion arolwg ar lacio'r cyfyngiadau presennol ddydd Gwener.

Mae disgwyl i'r Prif Weinidog Mark Drakeford amlinellu sut a phryd y gellid gwneud newidiadau bychan.

Daw wedi i Downing Street awgrymu y gallai Cymru a gwledydd eraill y DU lacio'r cyfyngiadau ar amseroedd gwahanol i'w gilydd.

'Llawer o ddyfalu'

"Fel y gwyddoch, mae llawer o ddyfalu yngl欧n 芒'r hyn a allai gael ei gyhoeddi o bosib ynghylch ysgolion yn Lloegr y penwythnos hwn," meddai Ms Williams.

"Fel yr wyf wedi'i ddweud o'r blaen, byddwch bob amser yn clywed gennyf yn uniongyrchol am y penderfyniadau a wnawn yng Nghymru ar gyfer ein disgyblion, ein rhieni a staff yr ysgol.

"Ni fydd y sefyllfa i ysgolion yng Nghymru yn newid ar 1 Mehefin. Rwy'n eich sicrhau y byddwn yn rhoi digon o amser i bawb gynllunio cyn i'r cam nesaf ddechrau."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Kirsty Williams y bydd "digon o amser i bawb gynllunio"

Ychwanegodd: "Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod ysgolion yn cael eu cefnogi yn y gwaith paratoi hwn.

"Yn y cyfamser, dylai gweithwyr allweddol a'r rhai sydd angen defnyddio ysgolion neu ganolfannau addysg ar gyfer eu plant barhau i wneud hynny.

"Byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y cyngor gwyddonol diweddaraf a byddwn ond yn ystyried cael mwy o ddisgyblion a staff mewn ysgolion pan fydd yn ddiogel gwneud hynny. Wrth gwrs, bydd angen i ni sicrhau y gellir cadw at ofynion cadw pellter cymdeithasol."

Mae Ms Williams wedi ysgrifennu at y prif undebau athrawon mewn ymateb i'w pryderon y bydd ysgolion yn agor i'r mwyafrif o ddisgyblion cyn ei bod yn ddiogel i wneud hynny.

Yr wythnos nesaf, bydd y gweinidog yn cyhoeddi dogfen ar gyfer y camau nesaf i addysg yng Nghymru, gan gynnwys gofal plant ac addysg bellach.

Bydd y ddogfen yn cynnwys sut y bydd penderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud a phwy fydd yn darparu cyngor ar y penderfyniadau hynny.