大象传媒

'Cyngor Cymru ddim yn newid' wedi araith Boris Johnson

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ymateb y Prif Weinidog i ddatganiad Boris Johnson

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi dweud na fydd y cyngor yng Nghymru am gyfyngiadau coronafeirws yn newid dim yn dilyn araith Prif Weinidog y DU yn Downing Street nos Sul.

"Byddwn yn parhau i wneud penderfyniadau i Gymru," meddai, "gan ddefnyddio gwybodaeth a chyngor arbenigol."

Yn ei araith dywedodd Boris Johnson na fydd y cyfyngiadau coronafeirws yn Lloegr yn dod i ben yn fuan ond mae e wedi llacio rywfaint ar y mesurau.

O ddydd Mercher ymlaen bydd hawl gan bobl sy'n byw yn Lloegr yrru i fannau eraill.

Yn wahanol i'r hyn a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru ddydd Gwener, bydd hawl gan bobl yn Lloegr hefyd eistedd yn yr haul yn eu parc lleol.

Bydd modd ymgymryd 芒 chwaraeon ond dim ond ymhlith y rhai sy'n byw yn yr un cartref.

Ffynhonnell y llun, Andrew Parsons / 10 Downing Street

Dywedodd Boris Johnson hefyd ei fod yn hyderus y bydd plant yn dychwelyd i'r ysgol erbyn Mehefin fel bod plant sy'n sefyll arholiadau flwyddyn nesaf yn derbyn rhywfaint o wersi yn y flwyddyn ysgol bresennol - mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud na fydd ysgolion yn ailagor yn llawn erbyn 1 Mehefin.

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd y diwydiant lletygarwch ar ei draed erbyn diwedd Gorffennaf.

Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi dweud bod cyhoeddiad Boris Johnson yn un "byrbwyll", ac nad yw pedair gwlad y DU yn cyd-weld ar y cyfyngiadau bellach.

Ychwanegodd bod neges Llywodraeth y DU o fod yn wyliadwrus yn hytrach nac aros adref yn "ddryslyd", ac yn "tanseilio" ymdrechion hyd yn hyn i daclo'r haint.

"Dyma'r penderfyniad anghywir i Loegr, ond fe fydd hefyd yn anfon negeseuon cymysg," meddai.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig ond yn gyfrifol am yr ymateb i coronafeirws yn Lloegr. Tu allan i Loegr, y llywodraethau datganoledig sy'n rheoli'r ymateb.

Ddydd Gwener fe gyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod yn ymestyn y cyfyngiadau ond yn llacio rhai rheolau.

Eisoes roedd Boris Johnson wedi datgelu slogan newydd, sy'n dweud wrth y cyhoedd i "Aros yn wyliadwrus, rheoli'r feirws ac achub bywydau" ac mae e wedi amlinellu "cynllun amodol" ar gyfer y cam nesaf yn y frwydr yn erbyn Covid-19.

Bydd y slogan newydd yn cael ei defnyddio yn lle'r hen slogan, sef "Aros adref, gwarchod y GIG, achub bywydau."

Yn gynharach ddydd Sul fe ddywedodd Vaughan Gething nad yw llywodraethau eraill y DU wedi cytuno i'r slogan newydd.

'Ymarfer corff, gyrru a chwaraeon'

Fe wnaeth Mr Johnson rybuddio yn erbyn cael gwared 芒'r cyfyngiadau gan ddweud: "Mae'n dibynnu ar bob un ohonom - y wlad gyfan [Lloegr] i ddilyn y cyngor, i lynu at bellhau cymdeithasol a chadw y raddfa R yn isel."

Dywedodd hefyd ei fod yn awyddus i atal ail don o achosion gan y byddai hynny yn llethu'r GIG. Mynnodd yn ogystal y byddai unrhyw newidiadau yn Lloegr yn cael eu gwylio ar lefel lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

O ddydd Llun bydd pobl Cymru yn cael caniat芒d i ymarfer corff tu allan fwy nag unwaith y dydd ac fe fydd hynny yn digwydd yn Lloegr ddydd Mercher

Dadansoddiad y Gohebydd Gwleidyddol James Williams

Doedd hi ddim yn glir yn narllediad y prif weinidog, ond heblaw am gyflwyno cwarant卯n 'ar bobl sy'n dod i'r wlad hon drwy'r awyr,' bydd gweddill ei gyhoeddiad ond yn berthnasol i Loegr.

Ond, wrth gwrs, Boris Johnson yw prif weinidog y Deyrnas Gyfunol gyfan, felly mae ei araith ar gyfer cynulleidfa ehangach. Mae'n gymhleth.

Yn y pendraw, yn achos y prif newidiadau, mae'r prif weinidog wedi penderfynu cadw Lloegr ar yr un llwybr a Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, am nawr o leiaf.

Ond, gallai'r gwahaniaethau rhwng negeseuon, sloganau a m芒n newidiadau achosi problemau posib i weinidogion Cymru.

O glywed araith y prif weinidog, fydd pawb ym Mryste sy'n ffans茂o gyrru i'r Bannau i ddringo yn gwybod bod rheolau Cymru yn wahanol?

Yn 么l ffynhonnell o fewn Llywodraeth Cymru, mae angen 'cyfathrebu clir' ar bobl, ac efallai bydd rhaid nawr 'wastraffu amser' yn egluro'r gwahaniaethau ar ddwy ochr y ffin.

Yn ystod ei araith fe ddiolchodd Mr Johnson i'r cyhoedd am bob aberth bersonol sydd wedi cael ei gwneud er mwyn atal haint coronafeirws rhag lledu ac er mwyn diogelu'r GIG.

"Dyna sy'n gyfrifol," meddai, "am y gostyngiad yn y marwolaethau a'r nifer sy'n gorfod mynd i'r ysbyty."

Ond fe rybuddiodd "y byddai'n beth ff么l dadwneud y gwaith da a chaniat谩u ail don".

"Dyw hi ddim yn amser dod 芒'r cyfyngiadau i ben ond mi allwn gymryd y camau cyntaf - camau diogel sy'n newid rhywfaint ar y mesurau," meddai.

O ddydd Mercher ymlaen bydd hawl gan bobl Lloegr dreulio cyfnod y tu allan ar gyfer dibenion hamdden cyn belled eu bod yn ymbellhau yn gymdeithasol.

Ychwanegodd Mr Johnson: "Ry'n ni am annog pobl i ymarfer tu allan o ddydd Mercher ymlaen - fydd yna ddim cyfyngiad.

"Bydd modd eistedd yn yr haul yn eich parc lleol, bydd modd gyrru i fannau eraill a bydd modd ymgymryd 芒 chwaraeon ond dim ond ymhlith y rhai sy'n byw gyda chi."

Yng Nghymru bydd pobl yn cael ymarfer corff tu allan fwy nag unwaith y dydd o ddydd Llun ymlaen a bydd rhai llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu a garddio yn ailagor.

Fore ddydd Sul dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles, ar raglen Dewi Llwyd bod Llywodraeth Cymru wedi llacio rhywfaint ar y rheolau er budd lles meddwl y cyhoedd. Byddai hawl gan bobl yrru deg milltir i ganolfan arddio os oes rhaid, ond ychwanegodd bod y cyfyngiadau yn parhau a bod angen ystyried o hyd pa mor angenrheidiol yw'r daith.

Yn ei araith nos Sul pwysleisiodd Mr Johnson pa mor bwysig oedd ufuddhau i'r rheolau ymbellhau cymdeithasol yn Lloegr. Er mwyn gorfodi'r rheolau hynny dywedodd y byddai'n cynyddu'r dirwyon i'r rhai sy'n eu torri.

Dywedodd hefyd y dylai unrhywun sydd ddim yn gallu gweithio o adref fynd i'r gwaith o ddydd Llun ymlaen - er enghraifft pobl sy'n gweithio ym meysydd adeiladu a chynhyrchu.

Ac ychwanegodd: "Ry'n am iddi fod yn ddiogel i chi fynd i'r gwaith - felly peidiwch defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os yn bosib gan ein bod am barhau i sicrhau ymbellhau cymdeithasol.

Felly gweithiwch o adre os yn bosib - os nad yw hynny'n bosib, ewch n么l i'r gwaith."

Mae llywodraethau'r Alban a Gogledd Iwerddon hefyd wedi ymestyn y cyfyngiadau yn eu gwledydd nhw.

Bydd yr arolwg nesaf o'r cyfyngiadau yng Nghymru yn cael ei gynnal ymhen tair wythnos ar 28 Mai.