大象传媒

Gwasanaethau ffrwythloni IVF i ailagor ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd
IVF being done on a microscopeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd rhai clinigau yn gallu ailagor ddydd Llun

Fe all menywod yng Nghymru sy'n gobeithio derbyn triniaeth IVF fod gam yn agosach at dderbyn triniaeth wedi i ddau o'r tri darparwr triniaethau ffrwythloni yma gadarnhau eu bod am ailagor ddydd Llun.

Roedd apwyntiadau cleifion allanol a llawdriniaethau cyffredinol wedi eu hatal gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth er mwyn ysgafnhau'r baich ar y gwasanaeth iechyd yn wyneb y pandemig coronafeirws.

Yn gynharach yn y mis, dywedodd yr Awdurdod Ffrwythloni Dynol ag Embryoleg - yr HFEA - y byddai clinigau ar draws y DU yn gallu gwneud cais i ailagor o 11 Mai, os oedd modd dangos eu bod yn darparu triniaeth ddiogel ag effeithiol.

Ond mae elusen Fertility Network UK yn poeni y bydd llawer yn methu cael y profion angenrheidiol er mwyn cael eu cyfeirio at glinigau.

Ffynhonnell y llun, Amanda Faulkiner-Farrow
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Amanda a'i g诺r James

Roedd Amanda Faulkiner-Farrow, 38, o Fethel, Gwynedd, i fod i dderbyn triniaeth ym mis Mehefin cyn i'r gwasanaeth gael ei ganslo oherwydd y pandemig.

Dywedodd fod y newyddion ar y pryd wedi bod yn ergyd iddi, ond roedd y newyddion diweddaraf am ailagor gwasanaethau yn hyn yr oedd wedi bod yn awchu i'w glywed.

"Roeddwn i'n meddwl na fyddai'r triniaethau hyn yn ail ddechrau eto tan 2021. A flwyddyn nesaf fe fyddwn i'n 39," meddai.

Aros i glywed

"Ac mae hyn yn pwyso'n drwm am rhywun.

"Mae'r gwahaniaeth rhwng gallu beichiogi yn y misoedd nesaf o gymharu gyda'r flwyddyn nesaf...dyna all fod y gwahaniaeth.

"Dydyn nhw ddim yn sylweddoli faint o obaith maen nhw wedi ei roi i ni."

Dywedodd Ms Faulkiner-Farrow nad oedd hi wedi clywed dim gan ei chlinig eto, ond fe fyddai'n cysylltu gyda nhw i ddarganfod pa bryd fyddai'n gallu ail ddechrau ei thriniaeth.

Mae dau allan o dri darparwr triniaethau ffrwythloni GIG Cymru - Canolfan Ffrwythloni Sir Amwythig a Chanolbarth Cymru, a Chanolfan Ffrwythloni Hewitt yn Ysbyty Menywod Lerpwl, yn dweud fod eu ceisiadau i ailagor wedi eu derbyn gan yr HFEA, ac fe fydd eu gwasanaeth yn ailgychwyn yn fuan.

Dywedodd Canolfan Ffrwythloni Sir Amwythig a Chanolbarth Cymru eu bod yn gobeithio y byddai eu gwasanaeth yn ailgychwyn ar 15 Mehefin.

Dywedodd Canolfan Ffrwythloni Hewitt na fyddai modd iddyn nhw gynnal yr un nifer o driniaethau ag o'r blaen gan fod rhaid cadw a reolau ymbellhau cymdeithasol, ac fe fyddai nifer y triniaethau'n cael eu monitro.

Mae trydydd darparwr triniaethau ffrwythloni ar y gwasanaeth iechyd - Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru - wedi dweud y bydd yn gobeithio ailgychwyn y gwaith o ddarparu gwasanaethau "cyn gynted ag y bo modd".

Alice Matthews ydy cydlynydd Cymru ar ran Fertility Network UK, ac fe ddywedodd ei fod "yn galonogol fod nifer o glinigau ffrwythloni'n ailagor."

Ond fe ychwanegodd: "Mae nifer fawr yn parhau i fethu derbyn profion ymchwiliadol sydd eu hangen cyn hyd yn oed cael eu cyfeirio at glinig ffrwythloni.

"Nes bydd modd ailgychwyn apwyntiadau allanol hanfodol, fe fydd nifer fawr o bobl yn parhau i fod yn sownd mewn limbo, yn teimlo'n ynysig, pryderus a heb wybodaeth am eu cyflwr".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae coronafeirws wedi arwain at effaith sylweddol ar wasanaethau IVF ac rydym yn sylweddoli maint y pryder y mae hyn wedi ei achosi i gleifion.

"Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi gofyn i bob un o wasanaethau ffrwythloni Cymru i ddarparu cynlluniau i ddangos sut mae modd iddyn nhw ailddechrau gwasanaethau yn ddiogel a chyn gynted ag y bo modd."