大象传媒

Cyngor i hunan-ynysu os yn methu blasu neu arogli

  • Cyhoeddwyd
Aelod o'r cyhoedd yn cael ei brofi am coronafeirws yn Ffrainc, ar 贸l colli'r gallu i arogliFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aelod o'r cyhoedd yn cael ei brofi am coronafeirws yn Ffrainc, ar 么l colli'r gallu i arogli

Dylai pobl sydd wedi colli eu synnwyr arogli (anosmia) hunan-ynysu, yn 么l y cyngor diweddaraf.

Mae pedwar prif swyddog meddygol y DU wedi cyhoeddi datganiad newydd ar y cyd yn dilyn cyngor gan gynghorwyr gwyddonol.

Mae ansomia yn gallu effeithio ar eich synnwyr blasu hefyd gan fod cysylltiad agos rhwng y ddau.

Hyd yma, roedd y cyngor meddygol yn annog pobl i hunan-ynysu dim ond os oedd ganddyn nhw dwymyn a/neu pheswch.

Roedd rhai meddygon y glust, y trwyn a'r gwddf wedi bod yn rhybuddio ers wythnosau y dylid cynnwys mwy o symptomau.

"Mae'r data a'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ynghylch Covid-19 wedi bod yn cael eu monitro'n agos gennym," meddai datganiad y pedwar swyddog - Dr Frank Atherton (Cymru), Dr Michael McBride (Gogledd Iwerddon), Dr Gregor Smith (Yr Alban), a'r Athro Chris Whitty (Lloegr).

"Ar 么l ystyried hyn yn drylwyr, rydym bellach yn ddigon hyderus i argymell y mesur newydd hwn.

"Dylai'r bobl eraill sy'n byw yng nghartref yr unigolyn hunan-ynysu hefyd am 14 diwrnod, yn unol 芒'r canllawiau cyfredol a dylai'r unigolyn aros gartref am saith diwrnod, neu'n hirach na hynny os oes gan y person symptomau heblaw peswch neu golli'r gallu i arogli neu flasu."

Daw hyn wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi eu bod wedi cofnodi pedwar yn rhagor o farwolaethau o bobl gyda coronafeirws ddydd Llun.

Mae cyfanswm y meirw bellach yn 1,207.

Cafodd 101 o achosion newydd o Covid-19 eu cofnodi yng Nghymru, sy'n golygu bod 12,404 o bobl yma wedi profi'n bositif am yr haint.

Ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod bod y gwir ffigyrau yn debyg o fod yn llawer uwch yn y ddau achos.