大象传媒

Gwirfoddolwyr yn helpu cannoedd o bobl ym Mlaenau Gwent

  • Cyhoeddwyd
Tredegar volunteersFfynhonnell y llun, Kevin Phillips
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Claire Morris o gr诺p cymunedol Nantybwch a Waundeg a Ffion Cudlip, myfyriwr ffilm gyda Cymru Creations

Pan ddechreuodd Phillip Dobbs - gweithiwr dur sydd wedi ymddeol - hunan ynysu yn Nhredegar, doedd ganddo neb i roi cymorth iddo.

Roedd un perthynas iddo yn Birmingham mor bryderus nes iddyn nhw ffonio'r heddlu.

Yr heddlu yn eu tro wnaeth ei annog i gysylltu gyda chriw o wirfoddolwyr sydd bellach wedi cludo 4,000 o eitemau i bobl sydd eu hangen ar draws Blaenau Gwent.

Mae gweithlu cymunedol Tredegar wedi sicrhau fod pobl yn derbyn eitemau gan gynnwys bwyd, prydau ysgol a meddyginiaethau.

'Ysbryd Aneurin Bevan yn fyw'

Pan ddechreuodd y pandemig yn y DU roedd Mr Dobbs, 81 oed, yn nerfus iawn o fynd allan o'i gartref.

"Maen nhw wedi fy helpu i allan o sefyllfa anodd iawn," meddai.

"Mae ysbryd Aneurin Bevan yn fyw ac yn iach yn y gwaith y mae'r bobl yma'n gwneud.

"Fedra i ddim diolch digon iddyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Cymru Creations
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Philip Dobbs yn un o'r bobl sydd wedi cael help gan y gwirfoddolwyr cymunedol

Pan ddechreuodd y cyfyngiadau ym mis Mawrth, fe ddaeth yn amlwg na fyddai Theatr Fach Tredegar yn denu cynulleidfaoedd am beth amser.

Yn hytrach na'i gau fe benderfynodd y t卯m oedd yn gweithio yno ddefnyddio'r adeilad mewn ffordd wahanol.

Mae Cymru Creations fel arfer yn rhedeg prosiectau sy'n ymchwilio i hanes yr ardal ac yn gwneud ffilmiau addysgol gyda phlant lleol.

Ond fe ddefnyddiodd y staff eu sgiliau i gynnig rhywbeth gwahanol i'r ardal - Kevin Phillips, Alan Terrell, Richard Warner, Jay Sweeney a John Morgan oedd wrth y llyw.

I ddechrau roedd y tasglu newydd yn rhedeg negeseuon i'r 160 o aelodau o glwb dros-60 Tredegar, a chyn hir roedd y cyngor tref wedi dosbarthu taflenni i bob cartref yn yr ardal.

Ffynhonnell y llun, Cymru Creations
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Alan Terrell, un o'r rhai sefydlodd y gr诺p, yn siopa ar ran rhywun lleol sy'n hunan ynysu

Tyfodd y pump gwreiddiol i d卯m o 25 o wirfoddolwyr oedd yn derbyn 200 o alwadau y dydd gan bobl yn gofyn am help.

Dywedodd Mr Phillips: "Roedd hi'n amlwg o'r wythnos gyntaf bod gwir angen tasglu fel hyn.

"Cyn hir roedden ni'n cludo prydau ysgol am ddim i Ysgol Gyfun Tredegar, meddyginiaethau a phresgripsiynau i ddwy siop fferyllydd lleol, siopa personol a mynd 芒 phecynnau bwyd am ddim i deuluoedd oedd wir angen cymorth."

Ffynhonnell y llun, Cymru Creations
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r criw wedi derbyn pentwr o gardiau diolch

Gyda chymorth capeli lleol, elusennau a sefydliadau fel Cefn Golau Together a Chanolfan Gymunedol Sirhowy, a gyda becws Brace's yn darparu 200 torth bob wythnos i'w dosbarthu, mae'r criw wedi ehangu eu gwaith ar draws Blaenau Gwent.

Ychwanegodd Mr Phillips: "Beth sy'n anhygoel am y criw o gyn-athrawon, gweithwyr dur, cynghorwyr lleol, gwneuthurwyr ffilmiau ac ati, yw sut y maen nhw wedi ateb yr her yma mewn cyfnod o ansicrwydd.

"Bob dydd mae'r criw yn ceisio darparu cymorth i bwy bynnag sydd angen ein help."

Ffynhonnell y llun, Cymru Creations
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Maer Tredegar, David Jones wedi bod yn cynorthwyo i ddosbarthu pecynnau bwyd

Yn cydlynu'r cyfan mae Ffion Cudlip - myfyriwr ffilm - a Jacquelin Thomas, sy'n gweithio yn y diwydiant dur.

Ymhlith y rhai sydd wedi cael help mae Rhyanedd Price, 71 oed, a ddywedodd bod y criw wedi bod yn gwbl allweddol iddi.

Mae Maria Phillips yn 76 oed ac yn dweud bod yr help gan y t卯m wedi bod "yn anhygoel."

"Dydw i ddim yn gwybod beth fydden ni wedi ei wneud hebddyn nhw," meddai.