Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Hiraethu am gwmni yn ystod 'lockdown unig'
Mae'r cyfnod yma o gloi cymdeithasol yn anodd i nifer, ond mae'n arbennig o anodd i'r rheiny ohonom sydd yn byw ar ein pennau ein hunain.
Un o'r rheiny yw Llywydd y Senedd, Elin Jones. Yma, mewn darn gonest ac agored, mae hi'n rhannu sut beth yw hi i oroesi'r cyfnod yma heb gwmni, a'i hiraeth am gael treulio amser gyda phobl eraill.
Ar fore Sul ar Radio Cymru'n ddiweddar, mi glywais emyn Pantycelyn, Pererin Wyf. Roeddwn yn morio canu yn y gegin gyda Gwenda Owen, yn cofio'r geiriau o fy nyddiau Cwlwm. A dyma'r cwpled yma yn y pedwerydd pennill yn fy nharo yn stond.
'Mae hiraeth arnaf am y wlad
lle mae torfeydd di-ri'
Mi wn fy mod yn dyfynnu geiriau o'u cyd-destun a dwi'n ymddiheuro am hynny. Ond am gwpled i gyfleu fy nheimladau ar ddechrau wythnos deg o'r cyfnod clo!
Dwi'n ysu am dorfeydd di-ri, llond gwlad o dorfeydd.
Dwi'n hiraethu am y torfeydd hynny y b没m yn eu canol yn y dyddiau a'r wythnosau cyn i mi gychwyn fy hunan-ynysu gyda symptomau'r feirws - cynulleidfa'r Theatr Genedlaethol, tyrfa g锚m rygbi ryngwladol, Senedd o 60 aelod, maes awyr, gorsaf dr锚n.
A dwi'n ysu am ginio yn Crwst Aberteifi a swper yn Medina Aberystwyth, am sinema neu gyngerdd gyda ffrind yng Ngheredigion neu'r Bae, a stryd llawn pobl.
Nawr, mi wn fod y rhan fwyaf o bobl yn ysu am y profiadau torfol yma a'r lleoliadau hynny hefyd, o'r theatr i'r stadiwm i'r caffi, ac yn ysu iddynt ailgychwyn ac ailagor.
Ond mae rhai, a dwi'n un o'r rheiny, yn byw ar eu pen eu hunain ar hyn o bryd ac yn dibynnu ar y lleoliadau torfol i ddiwallu'r angen am gwmni pobl. Ac ar hyn o bryd, mae'r ffynhonnell yna'n sych, a'r ymweliad wythnosol 芒'r Co-op neu Costcutter, neu'r siopa i rieni neu neges i gymydog, ddim cweit yn cymharu.
'Lockdown' unig
Delwedd o berson oedrannus sy'n cael ei chyflwyno'n amlach na pheidio pan mae'r cyfryngau'n cyfeirio at bobl yn byw ar eu pen eu hunain. Ond mae yna filoedd o bobl, o bob oedran, mewn cartrefi un-person erbyn hyn.
A thra bod polis茂au cyfyngiadau coronafeirws wedi'u seilio, am resymau teilwng, ar ynysu ar sail cartref, yna lockdown unig yw hi i'r bobl yma.
Ac ychydig iawn o sylw sydd i'r rhain ar y cyfryngau yn ystod yr argyfwng, a phrin iawn yw'r bobl sy'n tynnu sylw at eu statws solo ar y cyfryngau cymdeithasol.
Profiadau a lluniau o dai llawn pobl sy'n amlwg ar y cyfryngau cymdeithasol - y profiadau hynny yn llawn heriau a chwmpo mas, mae'n si诺r, ond hefyd yn llawn sgwrsio a chwerthin.
Mae'r sgwrsio a'r chwerthin bellach drwy gyfrwng teclyn electronig yn unig i nifer fawr o'r rhai mewn cartrefi un-person, er bod rhai ohonom wedi troi at siarad gyda chorynnod y t欧 neu golomennod yr ardd erbyn hyn, ac yn canu'n barhaus.
- CANLLAW: Beth yw'r newidiadau i'r cyfyngiadau?
- AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
- IECHYD MEDDWL: Gofalu am iechyd meddwl wrth hunan ynysu
- CYMDEITHAS: Codi calon drwy godi canu dros y we
O'r Siambr i Skype
Mae fy ngwaith hefyd, wrth gwrs, ar declyn electronig. Drwy e-byst di-ri a negeseuon Facebook, yn hytrach na chymhorthfa a chyfarfod, y mae'r gwaith o ateb gofynion a chynrychioli etholwyr Ceredigion bellach yn digwydd.
Zoom yw'r Senedd nawr; Teams yw'r cyfarfodydd o gwmpas hynny a Skype yw cyfrwng y cyfarfodydd diweddaru gyda'r Cyngor a'r Bwrdd Iechyd.
Llywyddais gyfarfod cyntaf erioed Senedd Cymru (wrth i'r enw newid o Gynulliad i Senedd) o fy soffa yn Aberaeron. O'r soffa honno y ceisiais yn ofer i dawelu'r Gweinidog Iechyd wrth iddo siarad braidd yn garlamus heb ddiffodd ei feicroffon. Fe deithiodd y delweddau hynny, a'r geiriau, i bedwar ban byd!
Profiad swrreal yw cadeirio'r Senedd o'r soffa. Dwi'n fy ffeindio fy hun yn gwagio'r peiriant golchi a cherdded i waelod yr ardd yn ystod yr egwyl fer rhwng datganiad y Prif Weinidog a datganiad y Gweinidog Iechyd. Rhyfedd o fyd, ond hynod o arloesol ac effeithiol hefyd mewn cyfnod o wahanu cymdeithasol.
Er nid gwahanu cymdeithasol yw hyn mewn gwirionedd, mae'n gymaint mwy na hynny.
Pawb yn yr un storm
Mi ddwedodd Damian Barr mewn cerdd boblogaidd ar ddechrau'r cyfnod clo, nad oedd pawb yn yr un cwch yn ystod coronafeirws, ond yn hytrach yn yr un storm. Gwir pob gair. Mae pob cwch yn wahanol, o ran moethusrwydd a maint, yn ogystal 芒 chriw y cwch.
Kayak bach sydd gan rai ohonom, ond kayak bach digon cysurus a diogel er hynny. Ac er bod unigrwydd ac unigedd yn ddau beth cwbwl wahanol, maent ychydig yn agosach i'w gilydd yn ystod y cyfnod clo.
Felly, oes, mae hiraeth arnaf am y wlad lle mae torfeydd di-ri. Ond mewn gwirionedd, wrth nes谩u at wythnos 10 o lockdown, mi fyddai tyrfa fach o ddau neu dri yn ddigon.
Hefyd o ddiddordeb: