大象传媒

Skates: Twristiaeth i ddioddef tan o leiaf Pasg 2021

  • Cyhoeddwyd
arwyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae gweinidog economi Cymru wedi dweud fod ganddo "bryder mawr" am y diwydiant twristiaeth yn sgil coronafeirws.

Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement ddydd Sul dywedodd Ken Skates y gallai sector twristiaeth Cymru "ei chael yn anodd cynhyrchu unrhyw refeniw sylweddol" cyn y Pasg 2021 ar y cynharaf.

Dywedodd y gallai fod yn hirach, yn dibynnu ar "pa mor fuan y gallwn ni reoli'r feirws".

Mae yna amcangyfrif bod twristiaeth werth 拢3bn i economi Cymru ac mae penaethiaid yn y maes hefyd wedi mynegi ofnau am ei ddyfodol.

"Rhaid i ni amddiffyn tymor 2021 trwy sicrhau ein bod yn cael gwared ar y feirws cyn gynted 芒 phosib," meddai Mr Skates.

Dywedodd Mr Skates hefyd ei fod wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU i ystyried ymestyn y cynllun furlough ymhellach.

"Mae'r sector twristiaeth wir yn mynd i gael trafferth cynhyrchu unrhyw refeniw arwyddocaol cyn Pasg y flwyddyn nesaf yn sicr, haf y flwyddyn nesaf o bosib," meddai.

Dywedodd y gallai rhai rhannau o'r sector weld rhyw fath o fusnes yn dychwelyd, fel parciau carafanau, ond dim ond pan fydd hynny'n ddiogel.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ken Skates hefyd yn poeni am y diwydiant awyrofod

Dywedodd fod yna "gyfle wrth i ni ddod allan o coronafeirws i adeiladu'n 么l yn well" gydag "economi wyrddach, economi decach".

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag arbenigwyr i ystyried arferion "gweithio'n ddoethach" ar gyfer busnesau, meddai, fel ailfeddwl a oedd angen "blociau swyddfa ffansi" o hyd ac a allai gweithwyr weithio o bell o drefi llai.

Ychwanegodd Mr Skates y gallai diweithdra yng Nghymru godi i 10% neu fwy yn ddibynnol ar sut fydd y wlad yn dygymod 芒 sgil effeithiau'r pandemig.