Rhyddhau c芒n newydd Iwan Llwyd 10 mlynedd ers ei farwolaeth

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Hen ffrindiau - Geraint L酶vgreen ac Iwan Llwyd

Cyn ei farwolaeth, roedd y bardd Iwan Llwyd a'i ffrind a chyd-gerddor Geraint L酶vgreen yn mynd o gwmpas tafarndai Cymru yn cynnal nosweithiau gyda'i gilydd.

Byddai nhw'n perfformio caneuon oedd yn fwy addas ar gyfer set deuawd acwstig yn hytrach na band llawn yr Enw Da.

Nawr, er mwyn cofio amdano mae Geraint L酶vgreen wedi rhyddhau un o'r caneuon hynny gyfansoddwyd gan ei ffrind.

Bu'n s么n ar raglen Bore Cothi fod ei ffrind Barrie 'Archie' Jones, y cyfansoddwr ac aelod o'r gr诺p Celt, wedi cysylltu yn ddiweddar i'w atgoffa o'r g芒n recordiwyd rhai blynyddoedd yn 么l, ar 么l i Iwan farw.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Y Prifardd Iwan Llwyd

Meddai Geraint: "Nes i recordio yn nh欧 Archie a doeddwn i ddim yn cofio amdano fo dweud gwir tan i mi gael neges gan Archie wythnos yma, ac yn dweud ei bod yn 10 mlynedd.

"Y g芒n ydi Hen Drefn - "Hen drefn, hen drafod, hen dorri ar yr un cyfamod, hen syrthio rhwng y pared a'r pry, hen d芒n mewn hen d欧".

"Mae'n g芒n eitha' tywyll a thrist... mae'n swnio fel un o'r hen benillion a'r gair 'hen' o hyd yn ail adrodd... 'hen friw yn hir yn mendio a mynd, hen ffrae efo hen ffrind hen bader hen bennill, hen frwydr does neb yn ennill.

"Dwi'n gweld y g芒n yn ysgytwol o broffwydol erbyn hyn fel bod o wedi proffwydo ei hun yn mynd lawr ac yn methu codi allan o'r sefyllfa."

Roedd Iwan Llwyd, enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni 1990 ac yn awdur ar gyfer y teledu a'r theatr, wedi chwarae mewn bandiau ar hyd ei oes.

Ar 么l bod yn aelod o Doctor yn yr 1980au, bu'n chwarae'r git芒r bas am flynyddoedd gyda bandiau Steve Eaves a Geraint L酶vgreen a'r Enw Da.

Bu ar Fai 28, 2010, yn 52 oed.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Hel atgofion efo cyd-aelodau'r gr诺p Doctor

Meddai Geraint: "Roedd Iwan yn fardd yn fwy na dim ond yn sgwennwr caneuon arbennig a dwi ddim yn meddwl bod pobl wedi sylweddoli cymaint o ganeuon mae o wedi sgwennu fel T欧 Coz Dafydd Dafis a chlasuron eraill.

"Wnaeth o sgwennu dipyn o ganeuon ei hun, roedd o hefyd yn sgwennu dipyn o eiriau a fi'n rhoi alaw iddyn nhw, ond roedd o'n sgwennu caneuon cyfan ei hun.

"Cerbyd i ganeuon Iwan oedd Doctor a dwi'n jest yn teimlo yn lwcus mod i wedi rhannu gymaint o amser efo fo wedyn, pan ddaeth Doctor i ben ein bod ni wedi gwneud Geraint L酶vgreen a'r enw da a'i fod o wedi bod ar y bas efo fi drwy'r amser.

"Gan mod i dal i fynd o gwmpas efo'r gr诺p - ond heb wneud ers rhai misoedd r诺an wrth gwrs - dwi wrth fy modd bod cymaint o'i ganeuon o geno ni yn y set a pan dwi'n canu ei ganeuon o dwi'n teimlo bod o yn bresennol o hyd."

Hefyd o ddiddordeb: