Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dathlu Dydd Crysau T Bands Cymru
Mae 12 Mehefin yn Ddydd Crysau T Bands Cymru - cyfle i chi wisgo crysau T eich hoff fandiau rydych chi wedi eu prynu mewn gigs dros y blynyddoedd, a defnyddio'r hashnod #dyddcrysautbandscymru.
Cafodd y cyflwynydd radio Huw Stephens y syniad i gefnogi artistiaid Cymraeg gan nad oes modd iddynt drefnu gigs ar hyn o bryd. I nodi'r diwrnod, dyma gasgliad rhai o Gymry o'u hoff grysau T eiconig:
Rhys Mwyn: "Un o hoff grysau T gan Traddodiad Ofnus sy'n seiliedig ar gynllun albwm Welsh Tourist Bored."
Gisella Albertini o'r Eidal: "Mae'r crys T Hwgr-Grawth-Og wedi ei argraffu mewn siop argraffu leol. Y caneuon o'r record honno oedd y peth cyntaf erioed i mi ddysgu mewn Cymraeg, felly mae'n golygu llawer. Dyma oedd fy ffordd i mewn i bopeth sy'n gysylltiedig 芒 Chymru - byd doeddwn i prin yn gwybod dim amdano cyn hynny.
"Anrheg gan ffrind annwyl o Gymru oedd y crys T gyda llun Dave Datblygu arni. Heblaw am fy niddordeb yn y band, byswn ni ddim wedi cwrdd, ac mae'r crys T yma yn fy atgoffa o hynny bob amser!"
Awen Schiavone: "Dwi'n hoff iawn o'r crys T yma gyda geiriau'r g芒n epic gan Y Cyrff, Cymru Loegr a Llanrwst. Dwi'n hoff o hwn hefyd am ei fod ar gyfer merched o ran maint."
Non Tudur: "Y ffefryn yw un brynais i ar stondin ar Faes yr Eisteddfod yn eitha' diweddar. Mae'n bwysig achos fod dau athrylith yn rhan o'r crys T - y sawl 'nath ei wneud a'r sawl sy' 芒'i lun arno fe - a'r ddau'n f'atgoffa i o fy magwraeth yn ardal Aberystwyth. Crys T gynlluniodd Ruth J锚n, yn defnyddio ffotograff eiconig o Dave Datblygu, a'r geiriau Mas a Lawr - un o ganeuon tywyllaf, mwyaf enwog Datblygu.
"O'dd Ruth J锚n ei hunan yn arwr i mi yn fy arddegau achos o'dd hi mor wahanol i bawb ac yn byw ar ei gwaith celf... a'i eiriau fe mor allweddol i'n magwraeth i yr adeg hynny. Mae cael y ddau yn agos at galon dyn yn gwneud y lle 'ma yn lle gwell i fod."
Dylan Ebenezer: "Dwi'n ffan enfawr o'r Furries ac yn caru'r crys yma. Mae popeth amdano yn berffaith - hyd yn oed font y llythrennau, a'r lliwiau hefyd yn hyfryd. 'Nes i brynu hwn flynyddoedd yn 么l er bod e ddim yn ffitio ar y pryd - mae'n ffitio erbyn hyn - sydd yn golygu bod e hyd yn oed yn fwy sbesial!"
Geraint L酶vgreen: "Pan ryddhaodd Geraint Jarman Brecwast Astronot yn 2011 cynhaliodd ddwy gig agos-atoch-chi eiconig yn Neuadd Ercwlff, Portmeirion i ryw 200 o bobl. Dyma grys T y gig honno, efo llun clasurol y Jarman ifanc.
"Genod Droog - Crys T gr诺p arloesol ein ffrind ni oll Dyl Mei a'r criw o Borthmadog. Dyluniad yn seiliedig ar y ffilm A Clockwork Orange a welais yn fachgen ysgol yn 么l yn y 1970au.
"Ges i grys T Yr Eira yn bresant Nadolig ryw ddwy flynedd yn 么l. Dwi'n hoffi'r lliw a dwi hefyd yn hoffi cerddoriaeth yr Eira yn fawr, mae ganddyn nhw s诺n da iawn.
"Y Barry Horns o'r Barri sy'n cyfeilio i ni ymhob man yr awn ni i gefnogi t卯m p锚l-droed Cymru. Ac mae'r Barry Horne gwreiddiol yn dod o Wrecsam.
"Un o fy hoff fandiau - ges i hwn yn Steddfod Llanrwst yn 2019. O'n i yn y gig gwreiddiol yng nghefn tafarn yn Llanrwst yn 1989 ond mae wedi cymryd tan rwan i fi gael crys T!"
Lisa Gwilym: "Roeddwn i isio bod yn ofodwr pan yn iau a dwi'n dal i freuddwydio am gael mynd i'r gofod. Dim syndod felly bod crys T Omaloma yn dipyn o ffefryn a dwi wrth fy modd efo'r band o Ddyffryn Conwy. Dydd Crysau T Bandiau Cymru hapus i chi gyd!"
Hefyd o ddiddordeb: