大象传媒

Coronafeirws: Pryder am b锚l-droed ar lawr gwlad yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
treborth

Wrth i b锚l-droed ddychwelyd yn Lloegr ddydd Mercher mae 'na bryder bod rhai o glybiau lleiaf Cymru yn dioddef o achos sgil effaith coronafeirws.

Yn 么l rheolwr Clwb P锚l-droed Bangor 1876, gallai gymryd hyd at ddwy flynedd i rai clybiau Cymreig ddygymod 芒'r effaith ariannol.

Tra bod nifer yn awchu i ddychwelyd i'r cae p锚l droed, does dim dyddiad pendant wedi ei osod yma yng Nghymru.

Yn 么l llefarydd ar ran Cymdeithas B锚l-droed Cymru, maen nhw'n gweithio gyda'r llywodraeth i ddod 芒'r g锚m yn 么l.

Erbyn hyn mae caeau CPD Bangor 1876 wedi bod yn wag ers bron i dri mis, sydd wedi rhoi amser i'r clwb wella'r cyfleusterau yno.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mel Jones ydy rheolwr Bangor 1876

Ond er gwaethaf awch y chwaraewyr a chefnogwyr i ddychwelyd, mae 'na bryder am effaith y cyfnod clo.

"Fel 'da chi'n gwybod i'r clybiau lleol, arian ydy pob dim iddyn nhw," meddai rheolwr CPD Bangor 1876, Mel Jones.

"Jest gwerthu te a choffi sy'n talu am bethau iddyn nhw drwy'r tymor.

"Mae 'di bod yn amser anodd yma oherwydd does 'na ddim arian wedi bod yn dod mewn.

"Dwi'n meddwl neith o effeithio y clybiau hyn am ryw flwyddyn neu ddwy," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dafydd Huws ydy ysgrifennydd y clwb, a gafodd ei sefydlu yn 2019

Yn ystod y cyfnod clo mae'r hyfforddwyr a'r chwaraewyr wedi bod yn hyfforddi a chymdeithasu dros Zoom, ond mae ysgrifennydd y clwb r诺an am weld p锚l-droed ar lawr gwlad yn dychwelyd yn fuan.

"Fel cefnogwr dwi'n falch o weld bod y g锚m yn 么l [yn Lloegr] ond bydd 'na'm llawer o awyrgylch yna," meddai Dafydd Huws.

"Efallai bod 'na achos gwell i ddechrau ar y gwaelod a gadael timau ar lawr gwlad i chwarae lle does 'na ddim problem efo pobl yn gwylio'r g锚m ac yn y blaen."

Dywed Cymdeithas B锚l-droed Cymru eu bod nhw'n gweithio gyda'r llywodraeth ac yn "adolygu'r canllawiau" yn gyson.