Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llifogydd am y trydydd tro yn Rhondda Cynon Taf eleni
Mae bron i 200 o gartrefi wedi cael eu taro gan lifogydd yn Rhondda Cynon Taf - y trydydd achos o lifogydd yn yr ardal eleni.
Mae'r cyngor yn dweud bod nifer o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi unwaith eto wedi i storm achosi fflachlif.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y De yn dweud iddyn nhw dreulio pump awr yn pwmpio dwr o gartrefi yn Pentre.
Llifodd dŵr i'r pentref ddwywaith yn ystod Storm Dennis ym mis Chwefror gan achosi difrod gwerth hyd at £5m.
Yn ôl y gwasanaeth tân, daeth 51 galwad am help o 18:15 ddydd Mercher.
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter, 1
"Roedd e'n ofnadwy," medd Cynthia Mainwaring, sy'n byw ym Maerdy, "Roedd cymaint o law. Yn ffodus, fe lwyddon ni osod tywelion a phapur lawr. Ond daeth e drwodd o fewn munudau, ac wedyn roedd e wedi mynd.
"Dyw'r difrod ddim yn rhy wael, sai'n credu, ond bydd e'n cymryd sbel i'w lanhau e i gyd. Byddwn ni'n cofio'r cyfnod clo am beth amser fan hyn."
Fe ddywedodd Nigel Williams o Wasanaeth Tân ac Achub y De bod Pentre wedi'i daro yn "eithaf gwael".
Mae arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan wedi dweud bod y cyngor wedi darparu adnoddau ychwanegol i gefnogi criwiau'r prif-ffyrdd ac i helpu'r gwasanaethau brys i ddelio â'r fflachlif.
Ychwanegodd bod y llifogydd diweddaraf "yn anffodus wedi taro cymunedau oedd wedi dioddef dinistr y llifogydd yn gynharach eleni".
Mae un eiddo yn Rees Place wedi dymchwel yn rhannol ac mae peirianwyr strwythurol wedi archwilio'r safle.
Mae un o drigolion Queen Street wedi dweud wrth ´óÏó´«Ã½ Cymru ei fod e'n grac yn gwylio'i gartref dan ddŵr unwaith eto.
"Hoffen i weld rhai o'r cynghorwyr yn byw yn y tai yma a mynd drwy beth ry'n ni wedi byw drwyddo fe," meddai.
"Dwi ddim wedi bod i'r tÅ· yma ers mis Chwefror. Roedd rhaid i fi fynd i fyw gyda 'merch i rownd y gornel."
Mae'r gwasanaethau brys yn dweud eu bod wedi cael eu galw i bentref cyfagos Maerdy hefyd.
Mae galw nawr am gynllun ymateb cryf i geisio sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto.
"Mae angen plan, mae angen ni eistedd lawr gyda arweinydd y cyngor a gweld beth yn gwmws sydd wedi digwydd," dywedodd cynghorydd Pentre, Shelley Rees-Owen ar raglen y Post Cyntaf ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru fore Iau.
"Mae'n debyg bod 'na broblem gyda'r pwmp dwr, ac wedi cael gymaint o law mewn cyn lleied o amser a bod y drêns yn methu côpo. Mae angen plan yn gloi."
Ychwanegodd bod y sefyllfa wedi effeithio'n aruthrol ar drigolion lleol sy'n methu teimlo'n ddiogel yn eu tai.
"Mae'n ofnadwy," meddai. "Dyw pobl ddim ishe bod yma. Dyw pobl ddim eisiau bod yn eu tai a dyna le mae pobl yn teimlo mwyaf saff, yn enwedig yn ystod pandemig yw yn eu cartrefi a dyw pobl Pentre ddim yn teimlo yn saff yn eu cartrefi."
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter, 2
Ddydd Mercher, fe rybuddiodd Swyddfa'r Dywydd bod 'na storm o fellt a tharanau yn debygol o effeithio ar 20 o 22 o siroedd Cymru.
Mae'r AS Plaid Cymru yn y Rhondda, Leanne Wood wedi galw am ymchwiliad ar frys i weld pam bod trydydd llifogydd difrifol wedi taro'r ardal mewn cyn lleied o amser.
"Mae pobl yn grac a rhwystredig bod hyn wedi digwydd ddwy waith yn barod eleni. Mae rhai cartrefi wedi dioddef llifogydd fwy na hynny. Rwy'n rhannu eu rhwystredigaeth a'u dicter - dyw e ddim yn dderbyniol.
"Beth ry'n ni ei angen yw cymorth ar frys gan yr awdurdodau amrywiol i atal rhagor o lifogydd."
Dywedodd ei bod yn grac nad oedd bagiau tywod ar gael ar ddechrau'r llifogydd diweddaraf, ac na ddylai'r trigolion lleol fod wedi gorfod dibynnu ar gymorth cwmni adeiladwyr lleol.
Mae hefyd yn dweud y byddai'n cefnogi rhoi saib i drigolion y tai dan sylw o dalu treth cyngor am gyfnod.
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter, 3
Mae 'na rybudd arall am storm fellt a tharanau yn holl siroedd de Cymru ar gyfer dydd Iau - gan sgubo draw i sir Gaerfyrddin a gogledd Aberhonddu ym Mhowys rhwng canol dydd a 21:00.
Mae 'na rybudd melyn am law trwm rhwng 03:00 tan 12:00 ddydd Iau ym mhob sir heblaw am Sir Benfro, Bro Morgannwg a Chaerdydd.