Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ateb y Galw: Yr actores Mali Ann Rees
Yr actores Mali Ann Rees sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar 么l iddi gael ei henwebu gan Elgan Rhys yr wythnos diwethaf.
Mae Mali yn wyneb cyfarwydd ar y sgrin fach, ac wedi ymddangos yn y cyfresi poblogaidd Craith/Hidden, Merched Parchus a Tourist Trap. Mae hi hefyd yn gweithio ar y llwyfan, ac yn ddiweddar wedi bod yn rhan o brosiect ddigidol Sherman Ten.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Fy atgof cyntaf i yw bod yn asyn yn sioe Nadolig Ysgol Feithrin Treganna!
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Gareth Gates. On i'n hoffi ei wallt pigog!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Pan 'naeth athro Blwyddyn 6 ddarganfod nodyn rhwng fi a ffrind yn gweud pwy o'n ni'n ffansio yn y dosbarth! Mae dal yn gyfrinach rhyngo fi, fy ffrind a'r athro.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Marwolaeth George Floyd.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Defnyddio llawr f'ystafell wely yn hytrach na'r cwpwrdd dillad.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Aberporth: Mamgu a Dadcu, y traeth, ac atgofion melys.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noson mas yn Goa, India yn 2013 gyda ffrindiau.
O archif Ateb y Galw:
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Gofalgar, swnllyd, angerddol.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Angela Griffin - dw i wedi addoli hi ers on i'n ifanc. Byddwn i'n dwli gofyn llawer iddi am ei gyrfa.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Chicken Run - byth yn blino ohono ac yn hoffi bod y ieir yn sefyll lan yn erbyn y sefydliad.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Yn syth ar 么l fy arholiad TGAU olaf es i ganol Caerdydd i gael chwech piercing heb drafod e 'da Mam gynta! Doedd hi ddim yn hapus...
Beth yw dy hoff g芒n?
Plastic 100潞C - Sampha. Dwi'n dwli ar ei lais a mae'r piano yn y g芒n yn hudol.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Cwrs cyntaf - Cregyn gleision mewn saws gwin gwyn a garlleg.
Prif Gwrs - St锚c sirloin, sglodion, pys, tomatos, wiwns, madarch garllegog.
Pwdin - Cr猫me br没l茅e.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Baswn i'n cael parti t欧 enfawr gyda fy nheulu a ffrindiau.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Beyonc茅 - am resymau amlwg!
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Izzy Rabey