Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dysgu ar-lein yn debygol o barhau 'am gryn amser'
Mae dysgu ar-lein o adref yn debygol o barhau'n rhan o addysg plant "am gryn dipyn o amser", meddai'r Gweinidog Addysg.
Bydd disgyblion yn dychwelyd i'r dosbarth ddydd Llun nesaf, ond dim ond ychydig ddyddiau y byddan nhw'n treulio yno dros yr wythnosau nesaf oherwydd yr angen i gadw dau fetr ar wah芒n.
Ar hyn o bryd does dim sicrwydd pryd y bydd modd dychwelyd i'r ysgol yn llawn.
Dywedodd Kirsty Williams wrth gynhadledd newyddion ddyddiol Llywodraeth Cymru: "Rwy'n amau y bydd angen i ni barhau gyda chymysgedd o ddysgu ar-lein a chyswllt wyneb yn wyneb gydag athrawon am gryn dipyn o amser."
Ychwanegodd ei bod yn dal yn ystyried y posibilrwydd y gallai plant ddychwelyd i'r ysgol yn 么l yr arfer ym mis Medi.
"Bydd yn rhaid i ni gynllunio ar gyfer nifer o opsiynau, ond byddwn yn parhau i ddilyn y wyddoniaeth ar hynny," meddai.
"Dydw i'n bendant ddim wedi diystyru unrhyw beth eto."
Yn 么l Ms Williams mae yna 'na "amryw o resymau" pam y bydd nifer o ysgolion yn dychwelyd am dair wythnos yn unig, nid pedair, er gwaethaf gwaith caled staff ac athrawon.
Ond dywedodd ei bod "yn obeithiol" y bydd rhieni'n hyderus bod hi'n ddiogel i ddisgyblion ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth yr wythnos nesaf.
"Rydyn ni wedi ceisio cydnabod a pharchu barn rhieni," meddai. "Ond mae hefyd yn bwysig iawn...ein bod ni'n magu hyder rhieni fel eu bod nhw eisiau gwneud penderfyniad positif i anfon eu plant yn 么l i'r sesiwn, ac rwy'n obeithiol ein bod wedi gallu cyflawni hynny."