Ateb y Galw: Y cyfarwyddwr a cherddor Izzy Rabey

Ffynhonnell y llun, Izzy Rabey

Y cyfarwyddwr a cherddor Izzy Rabey sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar 么l iddi gael ei henwebu gan Mali Ann Rees yr wythnos diwethaf.

Mae Izzy yn gyfarwyddwr theatrig ac yn hwylusydd gweithdai drama, ac yn gyd-sylfaenydd cwmni theatr Run Amok. Mae hi hefyd yn canu ac yn rapio.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Chware ar llawr y gegin tra odd Mam yn coginio, cyn oeddwn i'n 2 mlwydd oed.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Mutya Buena o Sugababes a Johnny Depp fel Captain Jack Sparrow.

Disgrifiad o'r llun, Mutya (chwith) oedd un o aelodau gwreiddiol y band poblogaidd o'r 2000au cynnar, Sugababes

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Yn 10 mlwydd oed oeddwn i'n defnyddio'r toiled ar y tr锚n a heb gau'r drws yn iawn. 'Nath y drws agor yn ara' bach i dr锚n llawn pobl. O'dd e'n un o'r rhai automatic hanner cylch a nath lot o bobl chwerthin ar pa mor awkward o'dd y sefyllfa.

'Nath y drws gloi yn ara' bach 'fyd ac es i n么l i sedd fi yn hollol mortified!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Wythnos dwetha... ar 么l therapi. O'dd e'n gr茂o positif o brosesu stwff 'sai wedi wynebu ers amser hir.

Un o'r pethe gore 'wi 'rioed wedi neud yw cymryd 50 munud yr wythnos i drafod a phrosesu stwff 'da rhywun sy' ddim yn rhan o dy fywyd bob dydd. Os 'da chi'n gallu, 'wi'n argymell e MASSIVELY! 'Sdim angen bod mewn creisis i gymryd amser allan i ti dy hun fel hyn.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

'Wi'n gallu bod yn anhygoel o galed ar fy hunan! 'Wi rili ishe newid hyn. 'Wi hefyd yn dal i siopa ar Amazon weithie ac yn teimlo'n euog am hynny...

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Machynlleth a'r ardal o'i gwmpas (o dyna ble 'wi'n dod!) a'r holl raeadrau yng Nghwm Nedd. Mae'r ddau le mor brydferth. 'Wi'n teimlo mor falch o ddod o le mor brydferth.

Disgrifiad o'r llun, Gan fod yna nifer o raeadrau hardd yn yr ardal o amgylch Pontneddfechan ac Ystradfellte, mae'n cael ei alw yn 'waterfall country'

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Waw! Mae 'na gymaint 'di bod! Nosweithiau allan fel myfyrwraig yn Exeter i'r clwb hoyw Vaults (sy' ddim yn bodoli rhagor, sy'n drist!) a nosweithie mas i Gwdih诺 yng Nghaerdydd (hefyd yn feniw arall arbenning sy' ddim yn bodoli rhagor!).

'Wi 'di cael nosweithie eitha eiconig mas mewn gwylie 'fyd - fel arfer 'wi'n treulio'r haf mewn gwylie naill ai'n perfformio neu redeg gweithdai.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Brwdfrydig. Angerddol. Uchelgeisiol.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Fy nhaid. Odd e wastad yn berson gwych i gael diod 'da.

O archif Ateb y Galw:

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

'Wi'n caru gymaint o lyfrau - base ni 'ma am orie! Fy hoff dri ffilm yw: Appropriate Behaviour, But I'm A Cheerleader a Merlin (y ffilm 90au 'da Sam Neill - CLASUR! Mor dros y top!)

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Es i ddisgo ysgol unwaith mewn drag yn 14 oed!

Beth yw dy hoff g芒n?

Move On Up gan Curtis Mayfield.

Disgrifiad o'r llun, Ysgrifennodd Curtis Mayfield nifer o ganeuon a fu'n gyfeiliant i'r brwydr hawliau sifil yn America yn yr 1960au

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf: Tacos 'da LOT o dips wahanol a lot o guacamole.

Prif gwrs: Cinio rhost fy Mam.

Pwdin: Cheesecake gwyn fegan.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Bwyta 'da ffrindie a teulu.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Beyonc茅. Byse fe jest yn ddiddorol gweld sut mae hi'n treulio diwrnod arferol.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Eleri Morgan