Ergyd ariannol 'enfawr' canslo Eisteddfod Llangollen

Disgrifiad o'r llun, Byddai hyd at 40,000 wedi dod i Langollen yr wythnos hon i fynychu'r Eisteddfod Ryngwladol
  • Awdur, Liam Evans
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Fe fyddai'r Eisteddfod Ryngwladol yn Llangollen wedi wynebu dyfodol ansicr oni bai am nawdd gan Lywodraeth Cymru, yn 么l cadeirydd yr 诺yl.

Wrth siarad 芒 大象传媒 Cymru fe ddywedodd y cadeirydd Rhys Davies y gallai'r Eisteddfod wedi wynebu colledion o "gannoedd ar filoedd" oni bai am grantiau i gefnogi'r 诺yl.

Mae heddiw yn nodi dyddiad dechrau arferol yr Eisteddfod Ryngwladol - ond fel gymaint o wyliau diwylliannol, mae'r Eisteddfod wedi ei chanslo.

Mae dros 拢800,000 o gyllid wedi ei rannu rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen "i helpu gyda pharhad busnes yn ystod 2020", yn 么l Llywodraeth Cymru.

Mae'r 诺yl yn adnabyddus fel un swnllyd, lliwgar ac yn dod 芒 pherfformwyr o bedwar ban byd at ei gilydd. Ond eleni bydd pont eiconig y dref yn wag.

Disgrifiad o'r llun, Y cigydd, Gwyn Davies

Wrth i wledydd y byd geisio dygymod 芒'r feirws, dyma fydd y tro cyntaf i'r 诺yl beidio 芒 chael ei chynnal yn hanes hirfaith yr Eisteddfod o 73 mlynedd.

"Mae bob man wedi cau, yr Eisteddfod, y sioeau", meddai cigydd lleol, Gwyn Davies.

"Mae'r tafarndai wedi cau felly mi fydd rheini yn colli allan, byddan."

Mae'r Eisteddfod yn Llangollen fel nifer o ddigwyddiadau mawr wedi gorfod meddwl am ffyrdd amgen i gyfleu ysbryd yr 诺yl, ond i'r gymuned leol mae canslo'r digwyddiad yn ergyd.

Disgrifiad o'r llun, Cadeirydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ydy Rhys Davies

"Mae lot wedi cael problemau yn enwedig tafarndai, y bwytai a'r siopau ac wrth gwrs y gwestai," meddai cadeirydd yr 诺yl, Rhys Davies.

"Y peth ydi, mae pawb yn y wlad wedi cael problemau ac maen nhw gyd ar gau ar hyn o bryd ar 么l Covid-19."

Tra bod y gymuned ehangach yn dioddef o achos y feirws mae'r effaith ariannol ar yr 诺yl yn enfawr.

"Gallai fo bosib wedi bod yn y cannoedd ar filoedd heb y cymorth gan y Senedd a 'da ni'n ddiolchgar iawn am y cymorth 'da ni weld cael ganddyn nhw," meddai Mr Davies.

"Heb y cymorth dwi'n si诺r byddai wedi bod yn broblem cario 'mlaen ond hefo'r arian dwi'n si诺r byddwn ni yma'r flwyddyn nesaf."

Disgrifiad o'r llun, Llinynnau soniarus Ensemble Guzheng yn perfformio yn Llangollen yn 2018

Er na fydd cyfle i gystadlu yn yr Eisteddfod eleni mae 'na gyfle i olrhain yr hanes.

Mae cwmni Rondo wedi uwchlwytho rhai o berfformiadau mwyaf llwyddiannus yr 诺yl ers canol y '90au i wylwyr fwynhau a chynnal ysbryd yr Eisteddfod a'r neges o ewyllys da.

Yn 么l Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan mae'r Eisteddfod yn ddigwyddiad o "bwys yng nghalendr digwyddiadau Cymru, sy'n darparu llwyfan gwych i arddangos ein celfyddydau a'n diwylliant".

Bydd modd gwylio'r perfformiadau o Eisteddfodau gynt drwy fynd ar wefan Llangollen TV.