Gweithwyr gofal dal heb dderbyn taliadau bonws o 拢500

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dydy gweithwyr gofal a chymdeithasol Cymru dal heb dderbyn taliad ychwanegol o 拢500 y cyhoeddwyd deufis yn 么l y bydden nhw'n eu derbyn i gydnabod eu cyfraniad.

Yn 么l y Gweinidog Iechyd, mae Llywodraeth Cymru'n "troi pob carreg" i berswadio llywodraeth y DU na ddylid trethu'r bonws.

Ychwanegodd Vaughan Gething na ddylai'r Trysorlys elwa o'r taliad, gan sicrhau fod y gweithwyr gofal yn derbyn "pob ceiniog".

Dywed Llywodraeth y DU fod gweinidogion Cymru 芒'r hawl a'r cyllid i gynyddu'r taliadau er mwyn wneud yn iawn am gyfraniadau treth.

64,000 i elwa

Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ar 1 Mai y byddai dros 64,000 o weithwyr y sector gofal a chymdeithasol yn cael bonws o 拢500 ar gost o 拢32.2m.

Ar y pryd, dywedodd Mr Drakeford fod staff sy'n darparu gofal yn y cartref ac mewn cartrefi gofal "yn aml yn derbyn elfen uwch o risg" ac y byddai'r taliadau ychwanegol yn cydnabod hynny.

Ddechrau Mehefin, cafodd y taliad ei ymestyn i gynnwys staff cegin a chynorthwywyr personol mewn cartrefi gofal, gweithwyr asiantaeth, a gweithwyr cymorth gofal cartref.

Ond yn gynharach yr wythnos hon, fe gyhoeddodd WalesOnline fod dim taliadau wedi eu gwneud eto.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch hynny ar raglen 大象传媒 Politics Wales, dywedodd Mr Gething: "Mae'n rhwystredig eithriadol, nid dim ond i'r llywodraeth ond yn enwedig i'r gweithwyr cartrefi gofal eu hunain.

"Rydym yn dal yn ceisio cael Llywodraeth y DU mewn sefyllfa ble rydyn nhw ddim yn cymryd treth nag Yswiriant Cenedlaethol o'r taliadau yma.

"Rydym yn bwriadu troi pob carreg cyn rhoi'r ffidil yn y to.

"Mae'n bosib o hyd i Lywodraeth y DU wneud dewisiadau gwahanol gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi, ac rwy'n meddwl taw'r peth cywir i'w wneud yw sicrhau fod gweithwyr cartref gofal yn derbyn pob ceiniog ac nad yw'n swm annisgwyl i'r Trysorlys."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"拢500 ddim yn ddigon"

Yn 么l prif weithredwr Fforwm Gofal Cymru, Mary Wimbury, byddai'r taliad ychwanegol "ddim yn ddigon", hyn yn oed petai gweithwyr yn derbyn y swm yn llawn.

"Rydym yn gweld 拢500 fel cam cyntaf ateb hirdymor sy'n cydnabod yn briodol r么l allweddol gweithwyr gofal," meddai.

"Gallwn ni ddim parhau gydag awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn gosod cyfraddau t芒l sy'n cymryd yn ganiataol y bydden nhw ond yn talu'r isafswm cyflog cyfreithiol."

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth y DU eu bod wedi rhoi 拢2.3bn i Lywodraeth Cymru at gefnogi pobl, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yn ystod y pandemig.

"Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i benderfynu union fanylion y bonws arfaethedig," meddai llefarydd.

"Mae taliadau sy'n gysylltiedig 芒 chyflogaeth, fodd bynnag, yn destun treth incwm ac Yswiriant Cenedlaethol, oni bai bod eithriad penodol.

"Mae gan Lywodraeth Cymru'r pwerau a'r cyllid i grosio'r taliad, os taw'r bwriad yw i weithwyr gofal cymdeithasol dderbyn o leiaf 拢500."