Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
G诺yl AmGen yn denu miloedd 'ar draws Cymru a thu hwnt'
Mae yna arwyddion fod G诺yl AmGen wedi denu cynulleidfaoedd o du hwnt i'r ardaloedd traddodiadol Gymraeg, gan barhau 芒'r gwaith o ymestyn ap锚l yr Eisteddfod Genedlaethol yn yn 么l Llywydd y Llys a Chadeirydd Bwrdd Rheoli'r Brifwyl.
Fe drefnodd 大象传媒 Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol yr 诺yl ar-lein i lenwi'r bwlch diwylliannol yn y cyfnod y byddai'r Brifwyl wedi ymweld 芒 Cheredigion.
Mae'n cynnwys y math o drafodaethau a pherfformiadau sydd i'w disgwyl ar faes yr Eisteddfod, gan eu dangos ar , Radio Cymru, gwasanaeth Hansh S4C a Cymru Fyw.
Dywedodd Ashok Ahir wrth Post Cyntaf: "Mae'r ffigyrau diweddaraf sydd gen i yn dangos ein bod ni wedi cyrraedd dros 400,000 o bobl ar sianeli'r Eisteddfod - sydd ddim yn cynnwys y bobl sydd wedi gwrando ar raglenni, er enghraifft, ar Radio Cymru.
"Wrth gwrs mae rhai pobl yn gwylio mwy nag un waith, ond o ran views ni wedi cyrraedd dros 400,000 yn barod."
"'Da ni'n gallu gweld faint ohonyn nhw sydd ddim yn dod o ardaloedd sydd fel arfer yn rhan o'r Eisteddfod, a dim jest pawb o Geredigion, neu Gaerdydd neu Gwynedd sy'n rhan o'r ffigyrau sydd yn gwylio.
"Ni'n gweld ffigyrau ar draws Cymru, ar draws Prydain ac ar draws y byd.
"Bydd mwy o waith ar 么l gorffen y prosiect AmGen i weld faint ohonyn nhw oedd yn unigryw, a faint oedd yn dod o ardaloedd annisgwyl."
'Cadw momentwm'
Wrth gael ei ethol yn Llywydd y Llys y llynedd, fe bwysleisiodd Mr Ahir fod denu cynulleidfaoedd newydd o wahanol gymunedau ar hyd Cymru a thu hwnt yn rhan fawr o ddyfodol yr iaith a dyfodol y Brifwyl.
"Ers Eisteddfod Caerdydd, pan o'n i'n gadeirydd y pwyllgor lleol, 'da ni wedi bod yn trio cadw momentwm o ran y math o Steddfod 'da ni'n trio ei greu," dywedodd.
"Ry'n ni ar fin lansio strategaeth newydd pum mlynedd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol, gan fod ymestyn y 'Steddfod - nid yn unig o ran y diwylliant a'r iaith, ond i gymunedau gwahanol dros Gymru -yn hollbwysig.
"Felly mae cael pobl doedd pobl ddim yn ei ddisgwyl fel llywydd y dydd wedi bod yn hollbwysig a ma' cyfraniad nhw wedi bod yn wych.
"Mae wedi creu dadlau, nid yn unig ar y cyfryngau cymdeithasol ond ar y radio ac ar y teledu hefyd, ac rydyn ni eisiau hynny barhau.
"Mae'n rhan fawr o ddyfodol yr iaith, mae'n rhan fawr o ddyfodol y 'Steddfod."