Jamie Roberts yn cael prawf positif am coronafeirws

Ffynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Roberts ymuno 芒'r Dreigiau ddechrau'r mis wedi cyfnod yn Ne Affrica

Mae canolwr Cymru a'r Dreigiau, Jamie Roberts wedi cael prawf positif am coronafeirws, ddyddiau'n unig cyn i gynghrair y Pro14 ailddechrau.

Fe wnaeth Roberts ymuno 芒'r Dreigiau ddechrau Awst, ac maen nhw i fod i herio'r Gweilch ddydd Sul.

Dywedodd y Dreigiau nad oes gan Roberts symptomau a'i fod yn teimlo'n iach, ond y bydd nawr yn hunanynysu ac felly ni fydd ar gael i chwarae.

Mae gweddill y chwaraewyr wedi cael eu profi ddydd Mawrth ac mae disgwyl iddyn nhw gael y canlyniadau ddydd Mercher.

Pe bai mwy o chwaraewyr y Dreigiau'n cael prawf positif fe allai'r g锚m yn erbyn y Gweilch gael ei gohirio.

Fe wnaeth y canolwr 33 oed ddychwelyd i Gymru o Dde Affrica ar ddechrau'r pandemig yn dilyn cyfnod yn chwarae dros y Stormers.

Yn ystod yr argyfwng bu Roberts, sydd wedi cymhwyso fel meddyg, yn gwirfoddoli gyda Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro fel rhan o'u hymgyrch i godi ymwybyddiaeth am coronafeirws.