Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ble mae'r cyrff 'normal' ar y cyfryngau cymdeithasol?
Yn draddodiadol, mae cwmn茂au harddwch, ffasiwn a phersawr wedi bod yn defnyddio delweddau o'r corff 'perffaith' i farchnata eu cynnyrch. Boed yn ddynion neu'n fenywod, fel arfer does dim bloneg, na cellulite i'w weld a dim blewyn allan o'i le.
Dwy sydd yn ymgyrchu dros hyder corfforol a'r pwysigrwydd o ddangos pob math o gyrff wrth farchnata ac ar y cyfryngau cymdeithasol ydy Shoned Owen o gwmni Tanya Whitebits a Mari Gwenllian o gwmni h.i.w.t.i.
"Dwi'n teimlo bod gen i gyfrifoldeb mawr fel brand i gynnwys delweddau mwy eang allan yna, yn enwedig gyda'r ymgyrch nesa' fyddai'n neud," meddai Shoned Owen a sefydlodd y cwmni Tanya Whitebits sy'n gwerthu cynnyrch lliw haul ffug, yn 2013.
"Mae gen i ddwy ferch fy hun, efeilliaid sydd yn 17, ac mae gymaint o bwysau ar bobl ifanc dyddie yma a dwi'n teimlo bod angen cynrychiolaeth fwy eang o gyrff gwahanol, croen gwahanol, croen ar 么l cael babi, plus size, cellulite - fel bod o yn fwy cynwysiedig," meddai wrth Jennifer Jones ar raglen Dros Ginio ar Radio Cymru.
"Os chi'n edrych ar magazines neu Instagram, does na ddim scars ar y croen... a dwi'n meddwl bod ni angen cael fwy o gynrychiolaeth - nid jyst si芒p gwahanol neu liw croen gwahanol ond pethau ychwanegol hefyd."
Mae ei chwmni wedi gwneud ymchwil gyda'r cwsmeriaid yn holi beth fydden nhw'n hoffi gweld fel rhan o ymgyrch farchnata nesaf y cwmni. Roedd y canlyniadau yn dangos yn glir, meddai Shoned, fod y cwsmeriaid eisiau gweld cynrychiolaeth ohonyn nhw, gan gynnwys creithiau, corff ar 么l cael babi a meintiau corff fwy.
"Dan ni yn gobeithio creu posteri newydd... nid y ferch mewn bicini draddodiadol. Mae dynion yn defnyddio tan ffug hefyd felly rydyn ni am fwy o gynrychiolaeth.
"Oedd lot yn s么n am gyrff efo scars, body tech devices - [pobl sy'n] diabetic, neu efo stoma.
"Dwi'n meddwl bod pethau yn newid yn ofnadwy, mae cymaint o s么n am body positivity a iechyd meddwl. Mae pethau angen newid achos mae gymaint o ffilters ar social media ac mae'n bwysig i gael yr ochr arall - yr ochr go iawn.
"Achos dyna'n cwsmeriaid ni, dyna pwy sy'n prynu ganddon ni."
Mae Mari Gwenllian, sy'n wreiddiol o Aberystwyth yn siarad am hyder corff ar ei chyfrif Instagram, wedi blynyddoedd o deimlo diffyg hyder a rhwystredigaeth am si芒p ei chorff.
Fe gyhoeddodd yn trafod hyn, a dyna sydd wedi cael yr ymateb fwyaf gan ei dilynwyr, meddai.
"Mae gymaint o bobl yn uniaethu ac yn teimlo yr un peth neu o leia' yn 'nabod rhywun sy'n teimlo yr un peth.
"Wnes i dyfu lan yn fy arddegau mewn oes [gyda dylanwad y] Kardashians. Mae gen i hips bach a dim lot o ben-么l ac yn y 90au roedd yn fwy ffasiynol i fod yn really denau a tal. Wedyn yn y noughties a'r 2010s cael si芒p fel y Kardashians gyda hips mawr - dyna oedd y ffordd oedd pobl yn trio edrych.
"A mae fy nghorff i y math o gorff fydde byth yn edrych fel 'na.
"Doeddet ti byth yn gweld unrhyw un gyda bol, hip dips, love handles beth bynnag ti mo'yn galw nhw, mewn cylchgronau, rhaglenni teledu, adverts - a mae hynny'n neud gwahaniaeth i sut ti'n teimlo am dy gorff di," meddai Mari sydd wedi magu hyder i ddechrau modelu ei chrysau T yn ei dillad isaf ar Instagram.
"Mae pwy ti'n eu dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol yn neud gymaint o wahaniaeth i sut mae brain ti'n meddwl am ti dy hun. Ni'n treulio gymaint o amser ar y cyfryngau cymdeithasol - dyna beth mae brain ti'n meddwl sy'n normal achos dyna ti'n gweld bob dydd trwy'r dydd."
Mae Mari yn annog pobl i feddwl o ddifri pwy maen nhw'n eu dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol a sut mae'r negeseuon a'r delweddau y maen nhw'n eu gweld yn eu gwneud i deimlo:
"Fi'n credu bod angen i ti feddwl- a yw'r cyfrif yma yn neud i fi deimlo yn dda am fi fy hun, neu ydy e'n neud fi feddwl pethau negyddol a self concious?
"Dwi'n trio annog pobl i ddilyn pobl sydd 芒 math tebyg o gorff iddyn nhw eu hunain - pob math o gorff, nid jyst fel wyt ti mo'yn edrych.
"Mae hyder corff fi wedi newid yn llwyr yn y dwy, dair blynedd dwetha. Dwi heb newid fy nghorff i gymaint a hynna ond ffordd fi o feddwl sydd wedi newid, wedi cymryd fy nghorff fel rhywbeth positif a neis.
"Mae dangos fy nghorff i yn fy helpu i, ac oes mae hynny yn gallu helpu rhywun arall hefyd, gorau oll."
Hefyd o ddiddordeb: