'Llywodraeth angen talu i ymestyn Rheilffordd Llyn Tegid'

Disgrifiad o'r llun, Mae Rheilffordd Llyn Tegid yn cludo ymwelwyr o Lanuwchllyn at gyrion Y Bala
  • Awdur, Llyr Edwards
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Mae galwad ar Lywodraeth Cymru i gyfrannu'r 拢2.5m sydd ei angen i ymestyn Rheilffordd Llyn Tegid i'r Bala ei hun.

Ers 1972 mae Rheilffordd Llyn Tegid wedi bod yn cludo ymwelwyr o'r orsaf yn Llanuwchllyn bedair milltir a hanner ar hyd ymyl y llyn i gyrion Y Bala.

Mae wedi bod yn freuddwyd gan gefnogwyr y rheilffordd i ymestyn y lein dros hanner milltir i mewn i'r Bala ei hun fel bod pobl yn gallu cael mynediad i'r tr锚n yn y dref.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "parhau i gael trafodaethau cadarnhaol" gydag Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llyn Tegid yngl欧n 芒'r prosiect.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd David Jones y byddai manteision i'r dref a'r rheilffordd o'i hymestyn

Mae cynllun mewn lle i ymestyn y rheilffordd, ac mae 拢1.2m eisoes wedi ei wario arno.

Ond r诺an mae 'na alwad gan Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llyn Tegid ar i Lywodraeth Cymru gyfrannu 拢2.5m er mwyn gwireddu'r cynllun yn llawn.

Maen nhw wedi lansio deiseb ar-lein i gael cefnogaeth y cyhoedd i'r alwad.

'Manteision anferth'

Dywedodd David Jones, rheolwr Rheilffordd Llyn Tegid: "Mae 'na fanteision anferth i'r dref ei hun - fe fyddan ni yn symud pobl i'r dref yn hytrach na thu allan i'r dref.

"Fe fyddan ni'n denu mwy o bobl i mewn i'r Bala ei hun a'r gobaith ydy byddan ni'n codi'r niferoedd sy'n teithio ar y tr锚n i fyny i tua 55,000 o bobl y flwyddyn."

Y disgwyl ydy y bydd cais cynllunio llawn yn cael ei chyflwyno i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fis nesa'.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Dilwyn Morgan y byddai ymestyn y rheilffordd yn "hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy"

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, sy'n cynrychioli'r Bala ar Gyngor Gwynedd, bod cefnogaeth eang i'r cynllun yn lleol.

"Mae symud y cynllun yma yn ei flaen i'r cam nesaf yn hynod o bwysig dwi'n meddwl," meddai.

"Mae gennym ni gyfle unigryw yn fan'ma i hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy ag i ddod 芒 budd economaidd eang iawn, dim jest i'r Bala ond i'r ardal ehangach hefyd.

"Mae pawb yn hynod gefnogol i hyn."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn parhau i gael trafodaethau cadarnhaol gyda'r ymddiriedolaeth gan ein bod yn ystyried hwn yn brosiect strategol pwysig i'r ardal."