Cyllid y Llyfrgell Genedlaethol angen 'sylw brys'

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi colli 23% o'i staff ers 2008
  • Awdur, Huw Thomas
  • Swydd, Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau 大象传媒 Cymru

Mae adolygiad annibynnol o Lyfrgell Genedlaethol Cymru wedi dweud bod angen "sylw brys" ar ei chyllid ac wedi galw am newidiadau i'r drefn rheoli.

Dywedodd yr adolygiad, a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru, fod y llyfrgell yn wynebu bygythiad i'w "hyfywedd cyllidol".

Beirniadodd hefyd rywfaint o drefn llywodraethu'r llyfrgell gan ei bwrdd o ymddiriedolwyr, a galwodd am well hyfforddiant a mwy o amrywiaeth ymhlith ei haelodau.

Wrth ymateb i'r adolygiad rhybuddiodd pennaeth y llyfrgell y byddai "mesurau niweidiol" yn cael eu cyflwyno i arbed arian pe bai'r adolygiad yn cael ei anwybyddu gan y llywodraeth.

Incwm wedi gostwng 40%

Cynhaliodd y panel annibynnol eu hasesiad o'r llyfrgell cyn y pandemig coronafeirws, ac mi archwilion nhw weithgareddau'r llyfrgell a'r t卯m rheoli.

Wrth drafod cyllid y llyfrgell, dwedodd yr adroddiad fod ei hincwm wedi gostwng 40% mewn termau real rhwng 2008 a 2019.

Roedd y llyfrgell hefyd wedi colli 23% o'i staff yn yr amser hwnnw.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Pedr ap Llwyd fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar ganfyddiadau'r adroddiad

Roedd y llyfrgell yn gweithredu gydag incwm o 拢9.6m yn 2018/19, ond dywedodd yr adroddiad ei bod yn wynebu costau sylweddol yn y dyfodol a diffyg pensiwn cynyddol.

Dywedodd yr adroddiad fod hyn wedi effeithio ar ei gallu i wella'r gwasanaethau mae'n darparu ar hyn o bryd.

"Mae'r her yma'n cyd-ddigwydd gyda'r gofyn i barhau i gynnal adnoddau cyfalaf y llyfrgell, gan gynnwys ei hisadeiledd technoleg gwybodaeth a'i st芒d, a'r angen i ddatblygu gwasanaethau digidol, er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach ar gyfer ei gwasanaethau," meddai'r adroddiad.

Galwodd y panel annibynnol am fwy o sicrwydd o ran cyllid, a dywedodd yn aml mai dim ond gwerth 12 mis o gyllid ar y tro oedd wedi'i gadarnhau gan Lywodraeth Cymru.

'Tangyllido systemig'

Wrth ymateb i'r adroddiad, rhybuddiodd y prif weithredwr a'r llyfrgellydd Pedr ap Llwyd fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar ganfyddiadau'r adroddiad.

Mewn datganiad dywedodd: "Mae'r sefyllfa ariannol bresennol yn ddifrifol, ac os anwybyddir argymhellion yr adolygiad fe fydd yr argyfwng presennol yn arwain at weithredu nifer o fesurau niweidiol i fantoli'r gyllideb yn y tymor hir.

"Gall hyn olygu lleihau ein gweithlu a diswyddo hyd at 30 o aelodau o staff.

"Byddai goblygiadau hyn i'r llyfrgell, Aberystwyth a Cheredigion yn ddifrifol a niweidiol.

"Heb os, canlyniad tangyllido systemig Llywodraeth Cymru dros nifer o flynyddoedd sy'n gyfrifol am y sefyllfa bresennol, ac y mae'r Adolygiad Teilwredig yn mynegi pryder mawr ynghylch dyfodol y Llyfrgell Genedlaethol gan nodi'n glir iawn nad yw'r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy."

'Angen 拢1.2m ychwanegol'

Ar raglen Post Cyntaf ddydd Iau, fe wnaeth Mr Ap Llwyd ymhelaethu trwy ddweud: "Rydyn ni yn s么n am swm o 拢1.2m sydd angen ei ychwanegu yn barhaol i'n baseline - dyna sydd angen i gynnal y Llyfrgell.

"Mae amser yn brin ac os na chawn ni ymateb gan Lywodraeth Cymru erbyn Ionawr yna fe fydd yn rhaid rhoi trefniadau yn eu lle i leihau costau refeniw fydd yn cael effaith ddifrifol ar unigolion ac ar y Llyfrgell fel sefydliad.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas bod angen sicrhau fod y llyfrgell yn "parhau'n berthnasol i Gymru gyfan"

Cododd y panel annibynnol bryderon hefyd am fwrdd yr ymddiriedolwyr ac ansawdd y gwaith papur a oedd yn cyd-fynd 芒 chyfarfodydd bwrdd.

Dywedodd nad oedd pob ymddiriedolwr yn mynychu cyfarfodydd pwyllgorau'r bwrdd roeddynt yn aelodau ohonynt, gyda rhai cyfarfodydd yn cael eu gohirio oherwydd diffyg argaeledd aelodau "a hyn er fod dyddiadau'r pwyllgorau wedi eu trefnu rhai misoedd ynghynt".

Awgrymodd yr adroddiad y dylid trefnu cyfarfodydd gan ddefnyddio meddalwedd fideo yn y dyfodol.

Croesawodd y panel y penderfyniad i benodi tair menyw i fwrdd yr ymddiriedolwyr ym mis Ionawr 2020, a oedd wedi gwella'r cydbwysedd rhwng y rhywiau i naw dyn a chwe menyw.

Ychwanegodd: "Dylai'r sylw i amrywiaeth gynnwys sylw i fwy na rhywedd yn unig, ac mae'r llyfrgell a'r ymddiriedolwyr fel ei gilydd yn cydnabod bod angen i ddenu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol, gan sicrhau amrediad o leoliadau daearyddol, a chynrychiolaeth o gymunedau difreintiedig."

Argymhellodd y panel hefyd y dylid cynyddu digideiddio ei gasgliad, ac ehangu'r uwch d卯m rheoli i gynnwys mwy o arbenigedd o'r tu allan i'r sefydliad.

'Cyfnod eithriadol o heriol'

Mewn datganiad dywedodd y dirprwy weinidog diwylliant, chwaraeon a thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: "Rwy'n croesawu sylwadau annibynnol Panel yr Adolygiad ac rwy'n edrych ymlaen at gydweithio cadarnhaol wrth i ni fynd i'r afael 芒'r argymhellion.

"Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn sefydliad diwylliannol pwysig y mae'n hollbwysig ein bod yn sicrhau ei pharhad a hefyd sicrhau ei bod yn parhau'n berthnasol i Gymru gyfan.

"Mae'r casgliadau hyn yn cynnig meysydd y mae angen i'r llyfrgell a Llywodraeth Cymru roi sylw iddynt - a bydd y llywodraeth a'r llyfrgell yn cydweithio er mwyn sicrhau bod y llyfrgell yn parhau'n gadarn ac yn addas i'w diben mewn cyfnod eithriadol o heriol i'n holl gyrff a noddir."