S4C yn penodi Golygydd Newyddion Digidol

Ffynhonnell y llun, S4C

Mae S4C wedi cyhoeddi mai'r newyddiadurwr Ioan Pollard sydd wedi ei benodi i swydd Golygydd Newyddion Digidol y sianel.

Yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle, aeth Mr Pollard i Brifysgol Bangor i astudio'r gyfraith, cyn symud ymlaen i weithio ym maes newyddiaduraeth gyda 大象传媒 Cymru fel cynhyrchydd cyfryngau cymdeithasol.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd: "Dwi wrth fy modd o gael y cyfle i arwain y gwasanaeth newydd cyffrous hwn.

"Dwi'n gobeithio gosod cyfeiriad clir i'r gwasanaeth i sicrhau ein bod yn cyhoeddi straeon o safon ac yn cyrraedd cynulleidfaoedd eang.

"Mae na fwlch gwirioneddol am wasanaeth newyddion digidol newydd, sy'n cyfuno fideo a thestun i gyhoeddi'r straeon diweddaraf i'r gynulleidfa wrth iddyn nhw dorri."

Dywedodd Geraint Evans, Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C: "Wrth i batrymau gwylio ein cynulleidfaoedd newid, mae angen i ni sicrhau ein bod yn gallu dod 芒'r straeon diweddaraf i'n gwylwyr ar flaenau eu bysedd.

"Mae gan Ioan y weledigaeth i arwain t卯m o newyddiadurwyr er mwyn datblygu llais unigryw i'r gwasanaeth hwn, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio."

Bydd y gwasanaeth newyddion digidol newydd yn lansio yn y flwyddyn newydd, meddai S4C.