大象传媒

'Angen mwy o hyblygrwydd' i helpu busnesau yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Closed Wales shopFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae siopau sydd ddim yn gwerthu nwyddau hanfodol ar gau yn ystod y cyfnod clo

Mae angen mwy o hyblygrwydd gan y Trysorlys os yw Llywodraeth Cymru i wneud "ymrwymiadau penagored" i helpu busnesau yn ystod y pandemig, yn 么l adroddiad academaidd.

Mae'r adroddiad gan ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn dweud fod dros 拢1 biliwn o gyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru heb ei ddyrannu er mwyn brwydro Covid-19.

Mae hyn, meddant, yn adlewyrchiad o "ansicrwydd parhaus" ynghylch yr arian sy'n dod o Lywodraeth y DU.

Ond er gwaethaf cefnogaeth "ddigynsail" Llywodraeth Cymru, mae'r adroddiad yn dweud y bydd "mwyafrif y gefnogaeth economaidd" i fusnesau a gweithwyr Cymru yn dod o'r Trysorlys.

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth y DU eu bod wedi darparu lefel digynsail o gefnogaeth ariannol i Lywodraeth Cymru eleni - gan warantu 拢4.4 biliwn yn ychwanegol i'r gyllideb wanwyn.

"Mae pobl a busnesau yng Nghymru yn parhau 芒 mynediad llawn i holl fesurau'r DU i'w cefnogi yn y pandemig, gan gynnwys Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogedig, Cynllun Adfer Swyddi Coronafeirws, budd-daliadau di-waith ymhlith nifer o fesurau eraill." 聽

Ar hyn o bryd mae gan Lywodraeth Cymru dros 拢5 biliwn er mwyn mynd i'r afael 芒 Covid-19, gan gynnwys arian sydd wedi'i symud o'i chyllidebau ei hun a 拢4.4 biliwn o'r Trysorlys o ganlyniad i amcangyfrif o wariant ychwanegol yn Lloegr.

Mae'r rhan fwyaf o'r arian wedi'i wario ar gefnogi busnesau, gyda thua 拢1.6 biliwn o grantiau a chymorthdaliadau wedi'u dyrannu.

Mae llawer hefyd wedi'i wario ar gyllideb y gwasanaeth iechyd, gan gynnwys cronfa gwerth 拢800 miliwn a gyhoeddwyd yn yr haf i baratoi ar gyfer y don bresennol mewn achosion Covid-19.

Mae cynghorau wedi derbyn tua 拢490 miliwn o gefnogaeth.

Yn 么l y corff craffu Archwilio Cymru mae awdurdodau lleol yn wynebu costau ariannol o 拢325 miliwn dros chwe mis cyntaf y pandemig.

Ond nid yw bron i 拢1.2 biliwn o'r cyllid sydd ar gael ar gyfer brwydro Covid-19 wedi'i ddyrannu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Mark Drakeford nad yw'r Trysorlys wedi bod yn deg

Mae'r adroddiad gan ymchwilwyr yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn dweud: "Mae'r ffaith nad yw'r swm sylweddol hwn o arian wedi cael ei ddyrannu yn adlewyrchu'r ansicrwydd sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wynebu wrth gynllunio ei chyllideb eleni.

"Mae'r ansicrwydd hwn ynghylch pwysau ar wasanaethau cyhoeddus y gaeaf hwn a'r angen posibl am gymorth economaidd pellach yn cael ei dwysau gan y trefniadau cyllidebol anhyblyg sydd ar waith ar hyn o bryd [rhwng Trysorlys Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru].

"Dylai Llywodraeth y DU naill ai fod yn llawer mwy hyblyg yn y ffordd o gyllido llywodraethau datganoledig eleni, gan ddarparu cyllid yn y b么n ar sail y galw fel yn Lloegr, neu roi'r offer rheoli cyllideb a'r pwerau benthyca i'r llywodraethau datganoledig i ganiat谩u iddynt wneud hynny eu hunain."

Berinidadu'r Trysorlys

Mae'r rhan fwyaf o'r gefnogaeth ariannol ar gyfer gweithwyr wedi dod gan Lywodraeth y DU, gyda'r adroddiad yn dweud bod "dros 400,000" yng Nghymru wedi manteisio ar y cynllun ffyrlo.

Ond mae'n ychwanegu nad oes "unrhyw dystiolaeth bod dargyfeiriadau mewn canllawiau iechyd cyhoeddus hyd yma wedi arwain at wariant cymharol fwy y pen gan Lywodraeth y DU yng Nghymru o'i gymharu 芒 gwariant y pen yn Lloegr."

Dechreuodd ffrae dros y penwythnos ar 么l i'r Trysorlys gyhoeddi y byddai'r cynllun ffyrlo a oedd i fod i ddod i ben ddiwedd mis Hydref yn cael ei ymestyn tan fis Rhagfyr yn sgil y penderfyniad i gyflwyno cyfnod clo yn Lloegr.

Dywedodd prif weinidog Cymru nad oedd "yn deg o gwbl" bod Trysorlys y DU wedi gwrthod ei geisiadau am hybu cyflogau cyn cyflwyno'r cyfnod clo yng Nghymru.

Mae adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru yn amcangyfrif bod "tua 224,000 o weithwyr yng Nghymru yn gweithio mewn sectorau sydd wedi'u cau i lawr yn rhannol neu'n gyfan gwbl oherwydd y cyfnod clo byr" - tua 16% o weithlu Cymru.