Ceisio olrhain 'achau Cymreig' Abraham Lincoln
- Cyhoeddwyd
Un, o nifer, o honiadau Donald Trump yn ystod etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau yw mai ef yw'r arlywydd gorau ers Abraham Lincoln, arlywydd cyntaf y blaid Weriniaethol.
Wedi i Cymru Fyw gyhoeddi erthygl yn tynnu sylw at y defnydd o'r Gymraeg yn ymgyrch Lincoln i ennill yr arlywyddiaeth i'w blaid newydd yn 1860, fe gawson ni negeseuon gan ddarllenwyr yn dweud wrthon ni fod hen gartref cyndeidiau a neiniau Lincoln yn dal i sefyll yn Ysbyty Ifan, Conwy.
Yn 么l yr hanes lleol, merch fferm Bryngwyn, Ellen Morris, oedd hen nain Abraham Lincoln. Ond mae'n anoddach dod o hyd i dystiolaeth gadarn ar ochr arall yr Iwerydd i brofi hyn.
Felly fe ofynnon ni i'r hanesydd lleol Dafydd Whiteside Thomas, sy'n ymddiddori mewn hel achau, geisio mynd i wraidd y stori.
"Roedd profi cysylltiadau Cymreig Hilary Clinton yn 2016 yn weddol rhwydd, a hynny oherwydd fod y ffeithiau ar gael, er fod cymysgu wedi bod yn yr achos hwnnw hefyd. Mae profi cysylltiadau Cymreig Abraham Lincoln - os oes rhai - gryn dipyn anoddach, a chofio iddo gael ei eni dros 200 mlynedd yn 么l," meddai Dafydd Whiteside Thomas.
"Mae achau ei dad, Thomas Lincoln, yn haws eu cadarnhau. Achau ei fam, Nancy Hanks, sy'n creu trafferthion, a hynny am ei bod yn blentyn anghyfreithlon yn 么l ffynonellau Americanaidd.
"Ond yma yng Nghymru, honnir i un gangen o'r teulu ddeillio o ffermdy Bryngwyn yn Ysbyty Ifan.
Rhieni Nancy Hanks Lincoln
"Dywedir fod Ellen, merch John Morris, Bryngwyn wedi mudo i America gyda'r Crynwyr yn yr ail ganrif ar bymtheg, sef rywdro cyn 1700.
"Yno priododd gyda Cadwaladr Evans, yn wreiddiol o'r Bala. Ganed iddynt ferch, Sarah, a briododd gyda g诺r o'r enw John Hanks. Eu merch hwy, Nancy, oedd mam Lincoln, yn 么l yr hanes sydd wedi ei basio i lawr yn ardal Ysbyty Ifan."
Ond mae'r achau sydd wedi eu cofnodi yn yr Unol Daleithiau a yn wahanol.
"Mae'r rhain yn honni fod y Nancy Hanks a oedd yn fam i Lincoln yn ferch anghyfreithlon i Lucy Hanks, sef merch 17 mlwydd oed Joseph Hanks a'i wraig Ann Lee," meddai Dafydd Whiteside Thomas.
Nid yw hyn, wrth gwrs, yn gwrthbrofi'r theori mai dyma linach Cymreig Lincoln, ond mae'n taflu amheuaeth ar gywirdeb y fersiwn hon o'r hanes.
"Roedd Joseph Hanks yn fab i ddyn o'r enw John Hanks a'i wraig Catherine. Roedd y John Hanks hwn (a fyddai'n hen hen daid i Lincoln felly) wedi ei eni yn 1681. Ganed ei fab, Joseph yn 1725, a'i ferch yntau, Lucy, yn 1768. Felly, cyn geni Nancy Hanks, mam Abraham Lincoln, yn 1784 roedd 40 mlynedd o wahaniaeth rhwng pob cenhedlaeth.
"O ddefnyddio'r llinyn mesur hwn (sef 40 mlynedd rhwng pob cenhedlaeth) ar gyfer y stori o Gymru, byddai'r Ellen y credir ei bod yn hen nain i Lincoln, wedi ei geni tua 1704, ond roedd eisoes wedi mudo i'r America cyn hynny!
"Mae'n ymddangos fod cenhedlaeth, os nad dwy, 'ar goll' o fersiwn Ysbyty Ifan. Nid yw hyn, wrth gwrs, yn gwrthbrofi'r theori mai dyma linach Cymreig Lincoln, ond mae'n taflu amheuaeth ar gywirdeb y fersiwn hon o'r hanes."
Lucy Hanks
"Wedi geni Nancy daethpwyd 芒 chyhuddiad o 'gamymddwyn' yn erbyn ei mam, Lucy Hanks, sef geni plentyn allan o briodas. Ond priododd Lucy Hanks gyda Henry Sparrow yn 1790, a bu'n rhaid gollwng yr achos yn ei herbyn.
"Ac i gymhlethu'r gwahanol ffeithiau, roedd gan Lucy chwaer o'r enw Nancy ac roedd eu mam, sef Ann Lee, hefyd yn cael ei hadnabod fel Nancy neu Nanny. Dyna dair Nancy Hanks mewn tair cenhedlaeth. Bu Nancy Hanks Lincoln (mam Abraham) farw yn 1818.
"Mae theori arall yn honni nad Lucy, merch Joseph Hanks, oedd mam Nancy, ond gwraig o'r enw Lucy Shipley, a briododd James Hanks, sef un o feibion Joseph! Cymhlethdod ar gymhlethdod."
Llinach Cadwaladr ac Ellen
Pwy felly oedd y John Hanks a briododd Sarah Evans o'r llinach Gymreig sy'n cael eu henwi yn y stori o Gymru fel rhieni Nancy Hanks, mam Abraham Lincoln?
"Nid yw'n syndod o gwbl i ddarganfod fod yna John Hanks arall yn ymddangos yn nheulu Joseph Hanks ac Ann Lee. Roedd hwn yn frawd i Joseph a phriododd ferch o'r enw Susan. Tybed a allai'r enwau Sarah a Susan fod wedi eu cymysgu? Ac a gafodd John a Susan/Sarah blentyn a'i galw'n Nancy?" awgryma Dafydd Whiteside Thomas.
o'r enw The Lincoln Kinsman i geisio profi fod gan Lincoln linach frenhinol drwy deulu Cadwaladr ac Ellen o Gymru.
Mae'r ddogfen hon yn dangos fod yna sawl cangen o deulu Hanks, sawl John Hanks a Joseph Hanks ym Mhensylfania ac yn Virginia. Mae hefyd yn dweud fod traddodiad yn y teulu Hanks Cymreig mai mab John Hanks a Sarah Evans, oedd hefyd yn John Hanks, oedd tad Nancy Hanks Lincoln.
Tybed ai'r ffaith fod Nancy yn blentyn anghyfreithlon yw'r allwedd i ddatrys y dirgelwch wedi'r cyfan?
Mae sawl trywydd arall difyr yn cael ei dilyn yn y ddogfen yma ond yn y pen draw mae'r awdur yn dweud ei bod wedi methu 芒 dod o hyd i'r dystiolaeth ddogfennol i brofi'r cysylltiad.
Mae'r chwilio yn parhau felly a chyda diddordeb mawr mewn gwefannau achau a phrofion DNA modern, pwy a 诺yr na ddaw ateb i'r dirgelwch maes o law.
"Yr unig sicrwydd yngl欧n 芒 hyn oll yw fod Abraham Lincoln ei hun wedi awgrymu i'w gyfaill fod ei fam yn blentyn anghyfreithlon, ac iddo ddweud 'I don't know who my grandfather was. I am much more concerned to know what his grandson will be.'" meddai Dafydd Whiteside Thomas.
"A byddai ei daid, pwy bynnag oedd, wedi bod yn hynod falch o'i 诺yr."
Hefyd o ddiddordeb: