Ysgolion: Gwisgo masg 'ym mhobman heblaw'r dosbarth'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

  • Awdur, Bethan Lewis
  • Swydd, Gohebydd Addysg a Theulu 大象传媒 Cymru

Fe fydd yn rhaid i ddisgyblion a staff ysgolion uwchradd wisgo gorchudd wyneb ym mhobman tu fas i'r stafell ddosbarth, gan gynnwys iard yr ysgol.

Mae'n rhan o ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru i ysgolion a cholegau wrth geisio rheoli achosion coronafeirws.

Mae'r rhan fwyaf o gynghorau eisoes yn ei gwneud yn ofynnol, neu'n argymell yn gryf, bod pawb yn gwisgo gorchudd wyneb mewn ardaloedd fel coridorau.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams bod y canllawiau yn dilyn y cyngor gwyddonol.

Yn 么l y canllawiau dylid gwisgo gorchuddion wyneb:

  • Ym mhob ardal y tu allan i'r ystafell ddosbarth gan staff a dysgwyr mewn ysgolion uwchradd a cholegau;
  • Ar gludiant penodol i'r ysgol a'r coleg i ddysgwyr ym Mlwyddyn 7 ac i fyny;
  • Gan ymwelwyr i ysgol a choleg, gan gynnwys rhieni a gofalwyr yn gollwng ac yn casglu plant

Mae'r canllawiau newydd yn dilyn cyngor gwyddonol ar effaith coronafeirws ar blant a phobl ifanc sydd yn dweud bod yna lefelau uwch o'r feirws ymhlith plant oed ysgol "na'r hyn a welwyd yn flaenorol".

Dywedodd Kirsty Williams: "Mae'n hanfodol bod pobl ifanc, rhieni, oedolion a'r gweithlu yn teimlo'n hyderus bod yr holl fesurau'n cael eu cymryd i sicrhau bod yr amgylcheddau addysgol mor ddiogel 芒 phosibl"

"Rydym wedi bod yn glir y byddwn yn parhau i adolygu pob polisi a byddwn yn parhau i ddilyn cyngor gwyddonol.

"Dyna'n union yw'r polisi yr ydym yn ei gyhoeddi heddiw."

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Mae disgyblion ym mannau'r Alban gyda'r cyfraddau uchaf o'r feirws yn gorfod gwisgo masgiau yn y dosbarth

Yn Yr Alban, mae gofyn i bobl ifanc 16 ac 17 oed mewn rhai ardaloedd i wisgo gorchuddion wyneb yn y dosbarth.

Ond dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi newid y rheolau o fewn yr ystafell ddosbarth.

Dywedodd y llywodraeth bod rhaid "cydbwyso'r budd ymylol y gellir ei gael drwy ddefnyddio gorchuddion wyneb 芒'r effaith negyddol debygol ar y profiad dysgu, gan gynnwys clywed a chyfathrebu".

Profiad un ysgol

Ymwelodd 大象传媒 Cymru ag ysgol 3-16 oed ym Mlaenau Gwent cyn cyhoeddiad diweddaraf y Gweinidog Addysg, i drafod y sefyllfa hyd yma wrth i'r gorchmynion newid o ran gorchuddio'r wyneb mewn ysgolion.

N么l ym mis Medi, ar ddechrau'r tymor, doedd dim rhaid gorchuddio'r wyneb.

Wrth i nifer achosion coronafeirws godi ym Mlaenau Gwent, penderfynodd yr awdurdod addysg bod angen gwisgo mygydau mewn mannau torfol fel coridorau wrth symud o ddosbarth i ddosbarth, ac wrth fynd am egwyl neu ginio.

Disgrifiad o'r llun, Mae rhai yn "ffeindio fe'n anodd" gwisgo mwgwd, meddai Tamsin

Ddechrau'r tymor, medd Tamsin - disgybl 13 oed yng Nghymuned Ddysgu Ebwy Fawr - "o'dd fi jyst yn gwisgo masgs rownd y corridors ond nawr ni eisiau gwisgo nhw yn y dosbarth cyn i ni gadael a pryd ni'n mynd i mewn i'r dosbarth".

Mae hi'n berffaith fodlon gyda'r drefn honno, er mwyn diogelu iechyd pawb yn yr ysgol, er bod "pobl yn ffeindo fe'n anodd" ar brydiau.

Ond mae'n ansicr a ddylid ystyried eu gorfodi yn yr ystafell ddosbarth, gan ofni na fydd athrawon yn gallu clywed disgyblion sy'n tueddu i siarad yn dawel.

'Bron 100% yn gwisgo mwgwd'

Dywedodd pennaeth Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr, Huw Lloyd ei fod yn croesawu canllawiau sy'n berthnasol i bob ysgol yng Nghymru.

"Ar y foment, [Cyngor Sir] Blaenau Gwent a ni fel ysgol sy'n gweud bod e'n orfodol, ond tase fo'n dod gan y llywodraeth, yn sicr bydde fe'n help," meddai.

"Dwi'n si诺r [os] bydde'r llywodraeth yn cyhoeddi... bod tystiolaeth tu 么l iddo fe, wneith hwnna gwahaniaeth i'r canran bach sydd ar 么l sy'n gwrthod eu gwisgo nhw."

Disgrifiad o'r llun, Mae Huw Lloyd yn gweld budd mewn profion torfol, ond mae'n ansicr sut y byddai modd eu cynnal

"Ar y dechre, byddwn i'n gweud o'dd 50% o'r plant yn gwisgo. O'dd lot o brobleme yn y dechre yn ca'l y plant i'w gwisgo a rhieni yn gwrthod ac yn y blaen.

"Ond fel mae amser wedi mynd yn ei flaen, byddwn i'n gweud erbyn hyn bron bod 100% o'r plant yn gwisgo'r mygyde.

"Mae dal un neu ddou o rieni yn gwrthod gad'el i'w plant wishgo mygyde a ma' hwnna'n achosi probleme gyda plant erill ac athrawon, achos does dim rhesymeg tu h么l i'w dadl nhw."

Mae'n credu y byddai 'na gefnogaeth yn gyffredinol i ymestyn y rheol gwisgo masgiau, ar sail diogelu iechyd disgyblion a staff, petai'r dystiolaeth yn awgrymu'r angen.

Gan bwysleisio'r angen am gydbwysedd rhwng ffactorau iechyd a diogelwch a'r effaith botensial ar addysg disgyblion, mae'n ansicr ynghylch mynd gam ymhellach a gorfodi'r defnydd o fygydau yn y dosbarth.

"Ma' fe'n gallu bod yn claustrophobic," meddai.

"Ar 么l rhyw 10 munud, chwarter awr dwi'n gorfod mynd tu fas i'r drws i dynnu fe bant ac i gael awyr iach, felly dwi ddim yn credu bod gorfodi plant i wisgo nhw am bump awr y diwrnod yn rywbeth rhesymol."

Mae Huw Lloyd o blaid cynnal profion torfol o fewn ysgolion, gan y byddai'n osgoi ansicrwydd y misoedd dwytha' pwy yn union oedd wedi'u heintio a'r angen i nifer fawr o bobl hunan-ynysu.

"Byddwn i yn sicr i blaid rhywbeth fel 'na'n digwydd. Ond yn ymarferol, shwt y'n ni'n testio mil o blant - a mae dros 100 o athrawon yma - yn ddigon rheolaidd heb fod e'n amharu ar eu haddysg nhw?"