Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rheolau atal cefnogwyr chwaraeon i barhau am y tro
Cadarnhawyd na fydd cefnogwyr p锚l-droed a rygbi'n cael mynychu gemau byw yng Nghymru, am y tro o leiaf.
Mae clybiau p锚l-droed Caerdydd ac Abertawe, Cymdeithas B锚l-droed Cymru ac Undeb Rygbi Cymru wedi bod yn trafod y posibilrwydd o ganiat谩u i nifer cyfyngedig o gefnogwyr fynychu gemau byw, fel fydd yn digwydd mewn rhai rhannau o Loegr o 2 Rhagfyr.
Ond cadarnhaodd y llywodraeth na fydd hynny'n digwydd yn y dyfodol agos.
Yn Lloegr o ddydd Mercher ymlaen bydd hyd at 2,000 o gefnogwyr yn cael mynychu gemau mewn ardaloedd Lefel 2, a 4,000 mewn ardaloedd Lefel 1.
Dywedodd llefarydd y llywodraeth: "Byddwn yn parhau i wneud penderfyniadau ar sail y sefyllfa yng Nghymru gydag iechyd cyhoeddus yn cael blaenoriaeth.
"Mae'r Prif Weinidog newydd gyhoeddi y bydd y cyfyngiadau'n cael eu tynhau, felly mae Cymru yn cyfateb i ardaloedd Lefel 3 yn Yr Alban a Lloegr, lle nad oes hawl i bobl fynd i wylio gemau."
Byddai'r llywodraeth yn parhau i adolygu'r sefyllfa, meddai.
Mewn cynhadledd i'r wasg fore Llun dywedodd rheolwr Caerdydd, Neil Harris fod rhaid gwneud beth sydd orau i Gymru gyfan.
"Ond os ydych chi'n rhoi gwledydd o'r neilltu am funud a chanolbwyntio ar b锚l-droed ac Uwchgynghrair Lloegr a'r Gynghrair B锚l-droed (EFL), yna mae'n anodd pan mae rhai ardaloedd yn cael derbyn 4,000 o gefnogwyr ac ardaloedd eraill yn cael dim.
'Dan anfantais'
"Os ydym ni ac Abertawe yn mynd i chwarae timau eraill yn y Bencampwriaeth yn y 10 g锚m nesaf ac mae caniat芒d i 4,000 o gefnogwyr, ac yna mae hynny'n mynd yn 6,000 a wedyn yn 10,000 dros gyfnod o amser, tra rydan ni'n cael dim, yna mae'n golled i ni.
"Mae'n anfantais i ni ac Abertawe. Does 'na ddim gwadu hynny.
"Os yw hyn am gael ei wneud ar y system "haenau" dwi'n deall hynny, ond os yw am olygu bod 90 o glybiau'n cael caniat谩u cefnogwyr a ni'n tri, yn cynnwys Casnewydd, ddim yn cael hynny, yna mae'n mynd i effeithio arnon ni ac fe fyddwn yn cael ein gadael ar 么l.
"Mae'n gorfod bod yn ddiogel, ac rydym i gyd yn deall hynny, ond dewch dewch, peidiwch a'n rhoi ni dan anfantais."