大象传媒

Chwaraewyr p锚l-droed yn dychwelyd, ond dim cefnogwyr

  • Cyhoeddwyd
View inside the Liberty StadiumFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ni fydd cefnogwyr yn Stadiwm Liberty am weddill y tymor

Ar 么l iddo gael ei ohirio tri mis a hanner yn 么l oherwydd Covid-19, mi fydd tymor Y Bencampwriaeth yn ailddechrau y penwythnos yma.

Ond mi fydd pethau yn bur wahanol i'r arfer.

Y newid amlycaf fydd y ffaith y bydd gemau yn gorfod cael eu chwarae mewn stadia heb gefnogwyr.

Mi fydd cyfarwyddwyr clybiau a sgowtiaid yn cael bod yn bresennol, yn ogystal 芒 rhai o aelodau'r wasg.

Fel arall mi fydd y caeau'n wag.

Fydd chwaraewyr ddim yn ysgwyd dwylo cyn y g锚m, ac maen nhw hefyd wedi cael cyfarwyddyd i beidio 芒 chofleidio ei gilydd ar 么l sgorio. Haws dweud na gwneud, yn enwedig os bydd t卯m yn sgorio g么l fuddugol yn ystod eiliadau olaf g锚m.

Mae tymor y Bundesliga yn Yr Almaen wedi ailddechrau ers dros fis bellach, a diddorol gweld fod y timau oddi cartref wedi ennill mwy o gemau na'r timau cartref.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae prif gynghrair yr Almaen wedi ailddechrau ers tro

Tybed a fydd rhywbeth tebyg yn digwydd yn Y Bencampwriaeth? Tybed a fydd clybiau yn mwynhau ymweld 芒 meysydd fel Elland Road yn Leeds lle mae cae llydan a chyfleusterau da, yn enwedig gan na fydd torf o 30,000 o bobl yno yn annog y t卯m cartref ymlaen.

Mi fydd hyn i gyd yn brofiad cwbl newydd i'r chwaraewyr, ac mi fydd hi'n ddiddorol gweld sut y byddan nhw'n addasu.

Gan fod 'na ddim gemau wedi bod yn Y Bencampwriaeth am dri mis, hawdd yw anghofio fod gan y ddau glwb o Gymru gyfle da o gyrraedd y gemau ail gyfle. Mae Caerdydd ddau bwynt o'r chwe safle uchaf, tra bod Abertawe bwynt tu 么l i'r Adar Gleision.

Cyn i'r gynghrair gael ei gohirio n么l ym mis Mawrth, roedd Abertawe ar rediad siomedig. Dim ond unwaith maen nhw wedi ennill yn eu naw g锚m ddiwethaf. Ond rhywsut neu'i gilydd maen nhw dal o fewn cyrraedd y chwech uchaf.

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Rob Phillips

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Rob Phillips

Bydd Steve Cooper yn gobeithio fod y seibiant o dri mis mae'r chwaraewyr wedi ei gael yn gweithio o'u plaid.

Roedd chwaraewyr fel Matt Grimes a Connor Roberts wedi dechrau edrych yn flinedig erbyn mis Mawrth. Ac mae hi hefyd yn edrych yn debyg y bydd yr amddiffynnwr Mike van der Hoorn yn gwella o anaf i mewn pryd i gyfrannu cyn diwedd y tymor.

O edrych ar y gemau sydd ganddyn nhw'n weddill, does 'na ddim rheswm pam na all Yr Elyrch roi rhediad da o ganlyniadau at ei gilydd a chyrraedd y gemau ail-gyfle.

O ran Caerdydd wedyn, ar bapur dwi'n meddwl fod eu gemau nhw yn edrych yn rhai anoddach 'na Abertawe.

Ond y newyddion da i'r Adar Gleision ydi fod Lee Tomlin yn mynd i fod ar gael i chwarae cyn diwedd y tymor. Mi oedd hi'n edrych yn debyg fod ei dymor ar ben pan gafodd anaf i'w ben-glin n么l ym mis Chwefror.

Fel yr ydym wedi ei weld fwy nag unwaith, mae o'n chwaraewr sy'n gallu creu cyfle neu g么l o ddim byd. Ac os bydd Tomlin ar ei orau yn y naw g锚m sy'n weddill, yna mae gan d卯m Neil Harris gyfle da o orffen yn y chwe safle uchaf.

Mae hi'n mynd i fod yn ddiweddglo gwahanol i'r arfer i dymor Y Bencampwriaeth, a hyd yn oed heb gefnogwyr yn y caeau, mae'n argoeli i fod yn ddiweddglo cyffrous.