Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Caniat芒d i Fr芒n Wen droi eglwys ym Mangor yn hwb creadigol
Mae Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo cais cynllunio i droi hen eglwys ym Mangor yn ganolfan greadigol gwerth 拢3.8m i bobl ifanc.
Cwmni Fr芒n Wen sydd tu 么l i'r cynllun - fydd yn gweld Eglwys Santes Fair ar Ffordd Garth yn cael ei drawsnewid yn ganolfan i blant, pobl ifanc, y gymuned leol a pherfformwyr proffesiynol - o'r enw Nyth.
Mae'r cyngor bellach wedi rhoi cymeradwyaeth cynllunio terfynol a chaniat芒d adeilad rhestredig ar gyfer y datblygiad.
Bwriad y cwmni ydy symud o'i safle presennol ym Mhorthaethwy i'r eglwys restredig Gradd II.
Cafodd yr eglwys ar Ffordd Garth ei hadeiladu yn 1864 ar gost o 拢4,650, ond mae'n wag ers rhai blynyddoedd.
Bydd y ganolfan newydd yn cynnwys gofod anffurfiol i berfformio ac ymarfer, stiwdio danddaearol a gofodau creadigol ar gyfer artistiaid.
Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys creu mynedfa newydd fydd yn golygu bod Nyth yn hygyrch i bawb.
Dywedodd Irfon Jones, cadeirydd annibynnol bwrdd Fr芒n Wen: "Mae hwn yn gam cyffrous arall ymlaen i'r hwb newydd eithriadol yma fydd yn rhoi cyfle cyfartal i bobl ifanc gael mynediad i'r celfyddydau.
"Mae'r antur o chwilio am gartref newydd wedi cymryd pum mlynedd, a llawer o waith caled, felly mae'n hynod o braf cyrraedd y cam pwysig hwn."
Mae'r gwaith wedi sicrhau cefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru a'r Gronfa Treftadaeth Bensaern茂ol.聽
Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau'r flwyddyn nesaf, gyda'r gobaith o agor yn 2022.