Pryder am wastraff plastig untro oherwydd Covid

Disgrifiad o'r llun, Mae safle tirlenwi Llandygai ger Bangor wedi bod ar agor drwy'r pandemig bron
  • Awdur, Liam Evans
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Mae hi'n anochel y bydd 'na gynnydd mewn gwastraff plastig un defnydd yng Nghymru eleni o achos y pandemig.

Gyda chynnydd mewn cyfarpar diogelwch PPE plastig fel masgiau a menig - eitemau nad oes modd eu hailgylchu - mae'r ymgynghorydd amgylcheddol Rebecca Colley-Jones yn dweud y bydd rhaid eu danfon i losgi neu safleoedd tirlenwi a bod hynny 芒 "goblygiadau".

Er hynny mae 'na awgrym fod cyfraddau ailgylchu Cymru, sydd eisoes ymysg y rhai gorau yn y byd, wedi aros yn sefydlog os nad cynyddu mewn rhai awdurdodau lleol.

Wrth inni barhau i addasu i'r pandemig mae 'na alw r诺an i geisio gwneud hynny mewn ffyrdd mwy cynaliadwy.

Ar draws awdurdodau lleol Cymru mae safleoedd ailgylchu, fel un Llandygai ger Bangor wedi aros yn agored drwy ran helaeth y pandemig.

Bellach mae'n rhaid archebu slot amser er mwyn dadlwytho nwyddau a'r drefn honno wedi bod yn bwysig wrth barhau 芒'r ymdrech i ailgylchu.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Cynghorydd Catrin Wager yn gofyn i bobl fod yn gyfrifol gyda gwastraff plastig

Ond gyda rhagor o gyfarpar diogelwch yn cael ei ddefnyddio mae Cyngor Gwynedd yn rhybuddio pobl i sicrhau nad ydynt yn taflu mygydau a menig ar y llawr ac yn annog pobl i feddwl yn gynaliadwy yn eu hymdrech yn erbyn Covid.

"Yn anecdotal yn sicr mae rhywun yn teimlo eu bod nhw'n gweld masgiau yn gorwedd o gwmpas," meddai'r cynghorydd Catrin Wager o Gyngor Gwynedd.

"Mae hynny yn bryder a dwi'n gofyn i bobl, pl卯s, dydi'r masgiau ddim i fynd i'r bocs ailgylchu ond yn hytrach i'r bocs gweddilliol ac i neud yn si诺r fod hynny'n cael ei wneud yn gyfrifol."

Mae'r cynghorydd o Fangor hefyd yn gobeithio annog mwy o bobl i feddwl am fasgiau lle mae modd eu golchi a hynny er mwyn rhwystro rhagor o blastig un defnydd.

"Mae 'na opsiynau amgen yna r诺an fel masgiau y mae modd eu golchi a ma'n hwb i'r economi leol," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Mae Rebecca Colley-Jones yn credu mai "blip" yn unig fydd ystadegau eleni

Yn 么l arolwg diweddar gan gwmni gwastraff 'Trade Waste', fe all hyd at 20,000 tunnell o fasgiau plastig ar draws Prydain gael eu taflu i safleoedd tirlenwi erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf, a hynny yn ei dro am gael effaith fawr ar yr amgylchedd.

"Mae lot o blastig sydd wedi cael ei greu fel menig untro a mygydau untro, does dim y gallwn ni neud am rheina," meddai'r ymgynghorydd amgylcheddol Rebecca Colley-Jones.

"Mae'n rhaid iddyn nhw gael eu llosgi neu fynd i safleoedd tir-lenwi."

Tra bod Ms Colley-Jones yn dweud fod y cynnydd mewn plastig un defnydd yn golygu "goblygiadau" i'r sector mae hi hefyd yn dweud fod y sefyllfa yn anochel.

"Ar y dechrau, roedd rhaid gwneud be oedd rhaid gwneud."

Yn 么l Ms Colley-Jones mae disgwyl mai "blip" fydd yr ystadegau eleni wrth ystyried hanes llwyddiannus Cymru i leihau cyfraddau plastigion.

Ychwanegodd fod disgwyl y bydd cyfraddau ailgylchu Cymru yn aros yn weddol sefydlog os nad yn gwella oherwydd bod nifer ohonom yn treulio rhagor o amser gartref ac yn meddwl mwy am ein gwastraff.

Mae disgwyl i gyfraddau ailgylchu Cymru gael eu rhyddhau gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2021.

Un mudiad sydd hefyd wrthi yn ceisio annog y defnydd o fasgiau, lle mae modd eu golchi ydi Gwrthryfel Difodiant.

"Mae miliynau o bethau un tro yn mynd mewn i'n tipiau sbwriel ni... yn mynd mewn i'r m么r," meddai Steffan Webb o'r mudiad.

"Mae'n creu mwy o ddifrod at y dyfodol.

"Mae 'na bethau y gellid eu gwneud gyda masgiau y mae modd eu golchi, swni'n gofyn i bobl gwneud hynny."

Tra bod y mudiad yn annog defnydd felly maen nhw hefyd yn cydnabod fod y defnydd o fasgiau plastig wedi bod yn hanfodol wrth frwydro Covid.

Gyda disgwyl rhagor o wastraff dros gyfnod y Nadolig mae 'na alw parhaus ar bawb i gadw'n ddiogel drwy ddulliau gwyrdd.